Bernard Manning di marw

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bernard Manning

Recist tew
26
58%
Arwr dosbarth gweithiol
9
20%
Dim or uchod
10
22%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 45

Postiogan CORRACH » Maw 19 Meh 2007 2:53 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
ffwrchamotobeics a ddywedodd:"Bernard Manning died in hospital earlier today. His condition was described as 'satisfactory'."

Peter Cook, So It Goes, Granada TV, 1976
:D


"And now some sad news: Bernard Manning was told to lose three stone or he would die. He is now three stone lighter." NtNoN

CORRACH a ddywedodd:wel na, nid mewn comedi'n benodol oni'n feddwl, jyst y PC brigade sy'n lladd ar bethe non-PC sydd rili yn ddoniol sbo.


Fel beth?


Dwi'm yn gwybod, dwi rili ddim yn canolbwyntio ar ddim byd pnawn ma. Can't be arsed. Gad fi fod nei di :)
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 19 Meh 2007 3:15 pm

Ray Diota a ddywedodd:Ond odd e'n honni bod e'n chware rol ar lwyfan. Actio i bob pwrpas. So beth yw'r gwahanieth rhwng hynna a, dywed, rhai o jocs Borat/Ricky Gervais... hydnoed little Britain... :?: Trafoder!


Mae'n dibynnu ar ddiben yr hiwmor. Yn fy marn i, diben jocs rhywun fel Bernard Manning oedd bychanu lleiafrifoedd a pharhau ag ystrydebau bod Gwyddelod yn dwp etc. Diben hiwmor Borat, er enghraifft, yw chwarae gyda'r ystrydebau hynny, y rheswm bod pobl yn credu'r ystrydebau, a'u tanseilio yn y pen draw. Mae'n rhaff dynn (ahem, sori), ac weithiau dyw hynny ddim yn gweithio (Little Britain yn fy marn i).

Mae hynny'n golygu bod hiwmor modern yn agored i gyhuddiadau o gyfiawnhau unrhyw beth drwy eironi, ond mae'n bwysig herio'r fath safbwyntiau rhagfarnllyd drwy chwerthin atyn nhw.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 19 Meh 2007 3:17 pm

Mae'n hawdd galw fo'n hiliol ond y gwir poenus amdani ydi bod llawer o'r jocs y dywedodd o (neu'r math yna o jocs) yn cael eu hadrodd ar hyd a lled y wlad gan y mwyafrif: rhai yn sbeitllyd, a rhai nid felly.

Ai tôn jôc sy'n ddibynnol ar ydyw'n hiliol neu'r cynnwys? Dwi'n chwerthin ar jôcs am bobl o bob math; Saeson, Iddewon, bobl Ddu, Pakistanis ac ati - ydi hynny'n fy ngwneud innau'n hiliol?

Er, yn yr achos hwn mi dybiaf dweud ei fod ar yr ochr sbeitllyd i jôcs yn ymwneud â hunaniaeth.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Nanog » Maw 19 Meh 2007 3:42 pm

Mi glywes i am Manning dramor yn nwynhau noson mas yn yfed ac ati. Gwaeddodd rhywun wnaeth ei adnabod.....'Hey, Manning, you fat bastard!' Ei ymateb? 'No! Rich fat bastard.' Menyw prydferth 'dan ei gesail ar y pryd. :D
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan ceribethlem » Maw 19 Meh 2007 3:50 pm

Nanog a ddywedodd:Mi glywes i am Manning dramor yn nwynhau noson mas yn yfed ac ati. Gwaeddodd rhywun wnaeth ei adnabod.....'Hey, Manning, you fat bastard!' Ei ymateb? 'No! Rich fat bastard.' Menyw prydferth 'dan ei gesail ar y pryd. :D
Odd shwr o fod lle i lot dan gesel y ffat bastard 'na.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan S.W. » Maw 19 Meh 2007 4:55 pm

Does ganddo dim byd iw wneud hefo'r PC Brigade. Cwbwl di hwnnw ydy creadigaeth pobl sydd methu derbyn bod rhywbeth ddim yn derbyniol bellach.

Nath o gyfaddef ei hun ei fod on hiliol, ac yn yr oes yma dio ddim yn dderbyniol i fod yn hiliol - nid PC mo hynny, synnwyr cyfftredin.

Un peth di dweud joc i fod yn ddoniol, peth arall di dweud joc gyda dim bwriad arall ond lladd ar rhywun arall. Roedd Manning yn berson oedd arfer bod yn ddoniol pan oedd cymdeithas yn wahanol. Mi lwyddodd lawer o comdians i newid er mwyn siwtio'r oes newydd, nath Manning wrthod.
Golygwyd diwethaf gan S.W. ar Maw 19 Meh 2007 5:50 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Positif80 » Maw 19 Meh 2007 5:40 pm

Mae rhai o jociau d-hiliol Manning (ia, roedd rhai ohonyn nhw) yn eithaf doniol. Roedd ganddo "comic timing" da - piti bod rhan helaeth o'i material mor afiach. :?

O wel, mae'r oes wedi newid a mae pobl fel hyn yn mynd yn fwy prin - peth da, yn amlwg.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 20 Meh 2007 8:55 am

Mae erthygl eitha' diddorol am y mater o hiwmor hiliol a himor eironig yn y Grauniad.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan docito » Mer 20 Meh 2007 9:38 am

ddim yn siwr beth yw'n farn i amdano fe. ma rhan o fi yn teimlo nad odd en eironig o gwbl ond odd e jyst yn defnyddio hynna fel esgus pan dechreuodd ei hiwmor fynd allan o hiwmor,.. ond ma na cwpl o jocs fantastic:

"I'm glad I'm not bisexual; I couldn't stand being rejected by men as well as women."


a stori ar y bbc yn dweud iddo ddweud wrth gynulleidfa bod dau o vets y falklands yno yn fuan wedi'r rhyfel. yna wedi i'r gynlleidfa floeddio a chlapio dma fe'n ychwangeu:

ma nhw'n archentwyr


gwych
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Llewelyn Richards » Mer 20 Meh 2007 12:25 pm

Oes rhywun yn cofio gweld rhaglen Mrs Merton efo Manning a Richard Wilson (Victor Meldrew) rai blynyddoedd yn ol? Dyna beth oedd car crash telly go iawn.

Mi oedd o'n gynrychioladol o'i oes lle roedd y fath hiwmor yn dderbyniol yn y mainstream ac mi aeth o'n relic trist yn ei hen ddyddiau. Mae o wedi'n gadael ni. End of.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai