Bernard Manning di marw

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bernard Manning

Recist tew
26
58%
Arwr dosbarth gweithiol
9
20%
Dim or uchod
10
22%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 45

Postiogan garynysmon » Mer 20 Meh 2007 12:54 pm

Dwi efo dau o'i fideos adra. Roedd o'n ddyn Doniol, a roeddwn yn chydig o ffan.

Heddwch i'w lwch.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan eusebio » Mer 20 Meh 2007 1:06 pm

garynysmon a ddywedodd:Dwi efo dau o'i fideos adra. Roedd o'n ddyn Doniol, a roeddwn yn chydig o ffan.

Heddwch i'w lwch.


:ofn:
Blimey ... hiiaeth ydi hiliaeth ydi hiliaeth ...

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'n hawdd galw fo'n hiliol ond y gwir poenus amdani ydi bod llawer o'r jocs y dywedodd o (neu'r math yna o jocs) yn cael eu hadrodd ar hyd a lled y wlad gan y mwyafrif: rhai yn sbeitllyd, a rhai nid felly.


Does na'm fath beth a hiliaeth sydd ddim yn sbeitlyd ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Nanog » Mer 20 Meh 2007 1:24 pm

Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 20 Meh 2007 2:12 pm

eusebio a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Mae'n hawdd galw fo'n hiliol ond y gwir poenus amdani ydi bod llawer o'r jocs y dywedodd o (neu'r math yna o jocs) yn cael eu hadrodd ar hyd a lled y wlad gan y mwyafrif: rhai yn sbeitllyd, a rhai nid felly.


Does na'm fath beth a hiliaeth sydd ddim yn sbeitlyd ...


Ti'n camddeall fy mhwynt dw i'n meddwl - beth dw i'n drio ddweud ydi a yw pob jôc am, i ddefnyddio enghraifft amlwg, pobl ddu (ayb) yn hiliol?

A ellid gwneud jôc am hil/grefydd/diwylliant arall heb ei gasau? Gellid, yn fy marn i. A yw unrhywun sy'n adrodd neu'n chwerthin ar jôc o'r math yn hiliol? Nid o reidrwydd.

Er, fel y dywedais uchod, byddwn i'n dweud bod BM yn bendant ar yr ochr hiliol i'r sbectrwm; er ni ellir hynny guddio'r ffaith ei bod yn ddyn doniol.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Nanog » Mer 20 Meh 2007 2:26 pm

"I had a distant German relative who died at Auschwitz. He fell out of one of the watchtowers."


A wnaethoch chi chwrthin ar hwnna? Mi wnes i. Dwi ddim yn meddwl fy mod i'n hiliol.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Ray Diota » Mer 20 Meh 2007 2:41 pm

Nanog a ddywedodd:
"I had a distant German relative who died at Auschwitz. He fell out of one of the watchtowers."


A wnaethoch chi chwrthin ar hwnna? Mi wnes i. Dwi ddim yn meddwl fy mod i'n hiliol.


ma hwn yn un o'r jocs sy'n peri'r ffys mwya a, fel ti, sai'n gweld lot yn rong 'da'i... ma fe'n chware ar ddisgwyliadau'r gynulleidfa mwy na dim. fel y joc am y falklands uchod...

saimo wir, wy'n siwr bod e'n fochyn ond sai'n convinced 'da'r comedians newydd 'ma sy'n neud y joc ond yn cuddio tu ol rhyw esgus eitha tila o eironi ne be bynnag...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Dili Minllyn » Mer 20 Meh 2007 6:36 pm

Nanog a ddywedodd:
"I had a distant German relative who died at Auschwitz. He fell out of one of the watchtowers."


A wnaethoch chi chwrthin ar hwnna? Mi wnes i. Dwi ddim yn meddwl fy mod i'n hiliol.

Mae'r jôc yna yn well fyth o gael ei rhoi yn ei chyd-destun:

O'r Guardian, heddiw a ddywedodd:He might be telling a story that was mildly anti-Jewish, during which he revealed that he had some Jewish blood in his ancestry, and then would tail away as if he had suddenly lost the heart for it. "We'll have no more Jewish stories tonight," he would rasp. "I've just discovered that I lost my grandfather at Auschwitz." Pause. "He fell out of the machine-gun tower."

Mae'n ddiddorol nodi bod y dyn ei hunan yn rhoi'n hael i nifer o elusennau Iddewig, a bod AJP Taylor a Darcus Howe ymhlith ei edmygwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan garynysmon » Iau 21 Meh 2007 7:56 am

Roedd o'n neud jocs oedd yn addas i'w oes o. Erbyn y 90'au roedd ei oes o wedi hen fynd, dwi'n deall hynny. Ond diawl, mae rhywyn yn mynd i weld comediwr yn y gobaith o gael eich diddanu. Roedd wedi wahardd mwy na lai o deledu cyhoeddus, felly erbyn y diwedd, roedd pawb a oedd yn mynd i'w weld yn ei glwb yn gwybod yn union be i ddisgwyl.

Ac er mod i'n ffan enfawr ohono, dwi'n meddwl fod jocs Ricky Gervais ar bobl anabl a.y.b yn llawer mwy o botensial i ypsetio. Roedd pawb yn cymryd Mannig am be yr oedd, a ddim yn ei gymryd o ddifrif.

Wel, doeddwn i ddim beth bynnag.

Mae llawer o gomediwyr yn gwneud jocs am y Cymry a.y.b. Dwi wedi gweld llawer yn fyw, a wedi ymuno yn y chwerthin. A oes gwahaniaeth pa hil sydd o dan y lach?
Golygwyd diwethaf gan garynysmon ar Iau 21 Meh 2007 11:03 am, golygwyd 2 o weithiau i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan docito » Iau 21 Meh 2007 8:57 am

garynysmon a ddywedodd:
Mae llawer o gomediwyr yn gwneud jocs am y Cymry a.y.b. Dwi wedi gweld llawer yn fyw, a wedi ymuno yn y chwerthin. A oes gwahaniaeth pa hil sydd o dan y lach?



oes
ma hyn yn ddadl dw'i di defnyddio ar y maes ganwaith. mae'n hen ddadl da'r cymry i gwyno dyle ni cael ein trin yn yr un ffordd a ma lleiafrifon ethnig yn cael ei trin. Does yna ddim un gair all rhywun ddweud wrtha i y bydd hanner mor 'offensive' a rhywun yn defnyddio 'n' neu 'p'. Ma'n amhosib trin pob lleiafrif yr un fath
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Huw T » Iau 21 Meh 2007 1:51 pm

Do ni ddim yn gwybod lot am y boi y tu hwnt i'r ddelwedd 'fat racist'. Felly fe wnes i ddarllen gyda diddordeb yr obituary yma yn y Guardian dydd Mawrth roddodd insight go dda ar y dyn.

http://www.guardian.co.uk/obituaries/st ... 26,00.html
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron