Oes rhywrai eraill yn credu mai cynllun hollol gachlyd yw hwn gan Peter Hain i orfodi rhieni sengl gyda phlant dan 7 oed - sef plant sydd yn yr ysgol gynradd o hyd - i weithio ?
Bydd miloedd o’r fath rieni, felly, yn gorfod derbyn rhyw swydd ddiflas ar gyflog pitw, gan roi cyfran fawr ohono wedyn i dalu dieithriaid i fagu eu plant drostyn nhw, a’r rhan fwyaf o’r rheini ar gyflog digon pitw nhwthau. Doedd llywodraeth Thatcher hyd yn oed ddim yn meiddio ymosod ar bobl fregus yn y fath fodd, ond ddylen ni ddim synnu – mae Llafur newydd wedi llwyddo i gyfuno brwdfrydedd di-feddwl dros gyfalafiaeth gyda ffydd yr un mor ddi-feddwl yn hawl yr wladwriaeth i ymyrryd ym mywydau pobl.