Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

Postiogan Dili Minllyn » Mer 18 Gor 2007 9:09 pm

Oes rhywrai eraill yn credu mai cynllun hollol gachlyd yw hwn gan Peter Hain i orfodi rhieni sengl gyda phlant dan 7 oed - sef plant sydd yn yr ysgol gynradd o hyd - i weithio ?

Bydd miloedd o’r fath rieni, felly, yn gorfod derbyn rhyw swydd ddiflas ar gyflog pitw, gan roi cyfran fawr ohono wedyn i dalu dieithriaid i fagu eu plant drostyn nhw, a’r rhan fwyaf o’r rheini ar gyflog digon pitw nhwthau. Doedd llywodraeth Thatcher hyd yn oed ddim yn meiddio ymosod ar bobl fregus yn y fath fodd, ond ddylen ni ddim synnu – mae Llafur newydd wedi llwyddo i gyfuno brwdfrydedd di-feddwl dros gyfalafiaeth gyda ffydd yr un mor ddi-feddwl yn hawl yr wladwriaeth i ymyrryd ym mywydau pobl.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan garynysmon » Mer 18 Gor 2007 10:06 pm

Dwi'm yn licio'r syniad o dalu amdan eu cadw chwaith. Mae rhaid tynnu'r llinell yn rhywle. Mae unrhyw bolisi sy'n cael pobol a ddylid fod yn gweithio, yn nol mewn swyddi, yn iawn gen i.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan briallen » Iau 19 Gor 2007 8:44 am

Roeddwn i'n credu fod budd-daliadau ar gael y dyddiau yma sy'n galluogi rhieni fynd yn ôl i weithio a derbyn arian ychwanegol am ofal plant. Oni fyddai'n well i'r llywodraeth gynnig cyrsiau gwella sgiliau i'r rhieni yma gan eu galluogi i gael swyddi sy'n talu'n well?
briallen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Llun 18 Medi 2006 12:18 pm

Re: Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

Postiogan Owain Llwyd » Iau 19 Gor 2007 9:06 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Oes rhywrai eraill yn credu mai cynllun hollol gachlyd yw hwn gan Peter Hain i orfodi rhieni sengl gyda phlant dan 7 oed - sef plant sydd yn yr ysgol gynradd o hyd - i weithio ?

Bydd miloedd o’r fath rieni, felly, yn gorfod derbyn rhyw swydd ddiflas ar gyflog pitw, gan roi cyfran fawr ohono wedyn i dalu dieithriaid i fagu eu plant drostyn nhw, a’r rhan fwyaf o’r rheini ar gyflog digon pitw nhwthau. Doedd llywodraeth Thatcher hyd yn oed ddim yn meiddio ymosod ar bobl fregus yn y fath fodd, ond ddylen ni ddim synnu – mae Llafur newydd wedi llwyddo i gyfuno brwdfrydedd di-feddwl dros gyfalafiaeth gyda ffydd yr un mor ddi-feddwl yn hawl yr wladwriaeth i ymyrryd ym mywydau pobl.


Dw i'n meddwl bod y cynllun wedi'i anelu at rieni sengl y mae eu plant fenga wedi cyrraedd y 7 oed, felly fydd 'na ddim angen iddyn nhw dalu am ofal plant oherwydd bydd y trueiniaid bach wedi diflannu i'r system ysgolion erbyn hynny. Heblaw hynna dw i'n tueddu i gytuno efo chdi.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Re: Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

Postiogan Dili Minllyn » Iau 19 Gor 2007 7:42 pm

garynysmon a ddywedodd:Mae unrhyw bolisi sy'n cael pobol a ddylid fod yn gweithio, yn nol mewn swyddi, yn iawn gen i.

Onid gwaith buddiol yw magu plant? Dw i ddim yn deall y brwdfrydedd mawr yma dros yrru pawb i gaethwasanaeth cyflog. Mae pawb yn gwybod fod e'n ddiflas tu hwnt.

Owain Llwyd a ddywedodd:Dw i'n meddwl bod y cynllun wedi'i anelu at rieni sengl y mae eu plant fenga wedi cyrraedd y 7 oed, felly fydd 'na ddim angen iddyn nhw dalu am ofal plant oherwydd bydd y trueiniaid bach wedi diflannu i'r system ysgolion erbyn hynny.

Ac yng ngofal dieithriaid rhwng 3 a 6 a p'nawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

Postiogan Blewyn » Iau 19 Gor 2007 7:48 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Onid gwaith buddiol yw magu plant?

Na, braint ydy o. D'oes dim hawl gan neb fynnu tal am fagu eu plant eu hunain.
Dili Minllyn a ddywedodd:Dw i ddim yn deall y brwdfrydedd mawr yma dros yrru pawb i gaethwasanaeth cyflog. Mae pawb yn gwybod fod e'n ddiflas tu hwnt.

D'oes dim rhaid i neb weithio.....mae'na bob mathau o ffyrdd eraill o fyw.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Pryderi » Iau 19 Gor 2007 11:07 pm

Ysgwn i p'run sydd fwya creulon:

i) dysgu plant mai trwy waith y mai gwella eich statws economaidd; neu

ii) dysgu nhw i fod yn fwy ddibynnol ar y Wladwriaeth Les?
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Postiogan DJ Lambchop » Gwe 20 Gor 2007 1:05 am

Pryderi a ddywedodd:Ysgwn i p'run sydd fwya creulon:

i) dysgu plant mai trwy waith y mai gwella eich statws economaidd; neu

ii) dysgu nhw i fod yn fwy ddibynnol ar y Wladwriaeth Les?


ˆ
ˆ
ˆ

Delwedd
"Dal i yfed, yn Abercrap Dyfed, i gyfeiliant Sobin a'r Smeiliaid"
Rhithffurf defnyddiwr
DJ Lambchop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 152
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:08 pm
Lleoliad: Cymru rhythwir

Postiogan Pryderi » Gwe 20 Gor 2007 7:16 am

Mae na fyd o wahaniaeth rhwng Thatcheriaith, oedd ddim yn malio am rieni sengl, a pholisi sydd yn eu helpu i weithio drwy ddarparu gofal am eu plant.
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Re: Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

Postiogan Owain Llwyd » Gwe 20 Gor 2007 8:53 am

Dili Minllyn a ddywedodd:Dw i ddim yn deall y brwdfrydedd mawr yma dros yrru pawb i gaethwasanaeth cyflog. Mae pawb yn gwybod fod e'n ddiflas tu hwnt.


Mae 'na lawer o sadistiaid awdurdodaidd popeth-yn-iawn-gen-inna-Jac ar hyd y lle. Be wnei di, dwad?

Dili Minllyn a ddywedodd:Ac yng ngofal dieithriaid rhwng 3 a 6 a p'nawn.


Yn hytrach na jyst yng ngofal diethriaid rhwng 9 a 3?

Digwydd cytuno efo chdi yn hyn o beth, gyda llaw.

Blewyn a ddywedodd:D'oes dim hawl gan neb fynnu tal am fagu eu plant eu hunain.


Oes, fel mae'n digwydd. Hawl statudol. Ac mi ydw i'n manteisio arno fo i'r eithaf, diolch yn fawr.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron