Rhyfedd ydi o, te... adroddiada ar ol adroddiad yn deud bod plant yn elwa o fod adra' gyda'u rhieni, a'r llywodraeth yn gwneud hyn. 'Dwi'n cydnabod BOD 'na sbynjyrs, a 'dwi hefyd yn meddwl bod 'na ddim byd o gwbl o'i le ar ddanfon plant i feithrinfa, ond, i mi yn bersonol, 'dwi wedi dewis cael plentyn, ac yn ran o'r dewis yna yn gwybod na fydd gin i lot o bres achos 'dwi'n dewis peidio gweithio. Ond mae pethau fel hyn yn gwneud i mi deimlo'n euog am fod adra, er nad ydw i ond yn cael y Family Allowance gan y llywodraeth, ac mae pob rhiant, mewn gwaith neu ddim, yn cael hwn.
'Sa'n neis teimlo bod fi'n aelod gwerthfawr o'r gymdeithas, achos 'mod i'n trio gwneud fy ngorau i fy mab!