Tudalen 2 o 6

PostioPostiwyd: Gwe 20 Gor 2007 8:59 am
gan Manon
Rhyfedd ydi o, te... adroddiada ar ol adroddiad yn deud bod plant yn elwa o fod adra' gyda'u rhieni, a'r llywodraeth yn gwneud hyn. 'Dwi'n cydnabod BOD 'na sbynjyrs, a 'dwi hefyd yn meddwl bod 'na ddim byd o gwbl o'i le ar ddanfon plant i feithrinfa, ond, i mi yn bersonol, 'dwi wedi dewis cael plentyn, ac yn ran o'r dewis yna yn gwybod na fydd gin i lot o bres achos 'dwi'n dewis peidio gweithio. Ond mae pethau fel hyn yn gwneud i mi deimlo'n euog am fod adra, er nad ydw i ond yn cael y Family Allowance gan y llywodraeth, ac mae pob rhiant, mewn gwaith neu ddim, yn cael hwn.

'Sa'n neis teimlo bod fi'n aelod gwerthfawr o'r gymdeithas, achos 'mod i'n trio gwneud fy ngorau i fy mab!

PostioPostiwyd: Gwe 20 Gor 2007 9:55 am
gan Cacamwri
Snap Manon.

PostioPostiwyd: Gwe 20 Gor 2007 11:51 am
gan Rhods
Dwi yn meddwl fod e yn hollol rhesymol bod rheini yn cael ei ofyn i weithio pam mae ei plant yn yr ysgol. Bendant. Cyn iddynt fynd i'r ysgol - wrth gwrs y dylsent cael cymorth gan y wladwriaeth. Ond ar ol hynny - sori, tydw i ddim yn meddwl ei fod e yn deg fod yna ddisgwyl i trethadalwyr dalu am costau byw rhieni/rhiant - a gosh, da ni yn son am 7 fan hyn dim 4 mlwydd oed - felly byddent yn cael 3 mlynedd egstra o gostau byw hyd yn oed ar ol iw plant mynd ir ysgol!

Tydw i ddim yn ffan mawr o Llafur a Peter Hain (mae hynny yn weddol amlwg!) ond ar yr ishiw yma, o ran egwyddor y polisi, dwi yn rhyw gytuno. Mae nifer o state handouts wedi codi yn aruthrol ers i Lafur ddod i bwer yn 97 ac o ganlyniad i hyn, nifer yn penderfynnu i beidio weithio. Dwi yn falch or diwedd eu bod nhw yn edrych ar y sefyllfa ond dim jyst gyda geiriau gwag on hefyd yn gweithredu ar hyn hefyd.

PostioPostiwyd: Llun 23 Gor 2007 7:22 pm
gan Dili Minllyn
briallen a ddywedodd:Roeddwn i'n credu fod budd-daliadau ar gael y dyddiau yma sy'n galluogi rhieni fynd yn ôl i weithio a derbyn arian ychwanegol am ofal plant.

Oes, mae'n siwr. Rhyfedd fel mae'r llywodraeth yn fodlon talu costau gofal plant mamau er mwyn eu gyrru nhw'n ôl i'r gwaith, ond yn gwarafun rhoi arian i'r un mamau aros gartre a magu eu plant eu hunain.

briallen a ddywedodd:Oni fyddai'n well i'r llywodraeth gynnig cyrsiau gwella sgiliau i'r rhieni yma gan eu galluogi i gael swyddi sy'n talu'n well?

Byddai, yn sicr.

Re: Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

PostioPostiwyd: Llun 23 Gor 2007 7:49 pm
gan garynysmon
Dili Minllyn a ddywedodd:
garynysmon a ddywedodd:Mae unrhyw bolisi sy'n cael pobol a ddylid fod yn gweithio, yn nol mewn swyddi, yn iawn gen i.

Onid gwaith buddiol yw magu plant? Dw i ddim yn deall y brwdfrydedd mawr yma dros yrru pawb i gaethwasanaeth cyflog. Mae pawb yn gwybod fod e'n ddiflas tu hwnt.


Be? Pawb 'Drop Tools' a stopio gweithio am ei fod yn ddiflas? Sut siap fyddai ar bethau wedyn? :?

Re: Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

PostioPostiwyd: Llun 23 Gor 2007 7:56 pm
gan Dili Minllyn
garynysmon a ddywedodd:Be? Pawb 'Drop Tools' a stopio gweithio am ei fod yn ddiflas? Sut siap fyddai ar bethau wedyn? :?

Streic. Neu, os yw'n para'n ddigon hir, chwyldro.

PostioPostiwyd: Maw 24 Gor 2007 9:34 pm
gan Y Celt Cymraeg
Hen bryd hefyd, ddim byd yn fy ngwilltio i fwy na gweld mamau sengl yn siarad ag ymhel yn y stryd 'cw pan dwi ar fy ffordd adra or gwaith, a reit amal, yn yr haf ta beth, ma nhw yn slochian cania o lager.
Ffon iawn drost i cefna nhw sydd angen yn marn i - a run peth ir petha ma sydd ar "dole" ers blynyddoedd a ddim yn boddran chwilio am waith. dylsa nhw gorfod sgubo strydoedd neu torri gwair mynwentydd neu neud rwbath i haeddu eu budddaliadau (hael).

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 6:58 am
gan Mihangel Macintosh
Hei Celt syniad gwych. Be am anfon y dole sgum i'r fyddin i ladd Iracis a gyrri'r blydi mamau sengl ma i weithio ar y tir?

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 7:22 am
gan Nanog
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Hei Celt syniad gwych. Be am anfon y dole sgum i'r fyddin i ladd Iracis a gyrri'r blydi mamau sengl ma i weithio ar y tir?


Dwi ddim mor siwr am ymuno a'r fyddin i ladd Iracis ond mae dy syniad ar gyfer mamau sengl yn un da. Dal ati.

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 9:59 am
gan garynysmon
Enghraifft arall o trendy lefties a bod yn wleidyddol gywir. Ella'ch bod chi'n hapus gweld eich arian treth yn mynd i bocedi rheiny sydd ddim yn ei haeddu, ond tydw i ddim. Dwi di bod ar fudd-dal fy hun ar ol coleg tra'n chwilio am waith. Ond mae gen i broblem gyda'r rheiny sy'n dibynnu ar y system i gynnal bywoliaeth!

Does dim byd gwell gen i na gweld rhieni yn aros adref gyda'u Plant, dwi ddim yn ffafrio 'Career Women' sy'n rhoi ei gyrfa o flaen eu plant bob tro, er enghraifft. Ond siawns unwaith eu bod nhw i gyd yn yr Ysgol, does dim cyfiawnhau aros adra wedyn?

Mae Family Allowance yn fater gwahanol, prynu nwyddau ar gyfer y plant a.y.b ydi swyddogaeth hwnnw.