Postiwyd: Mer 25 Gor 2007 10:17 am
Sgiws mi, de, ond yn ol y Celt Cymraeg dyliwn i a fy ffrindia' ddim rili mynd a'r plant allan am dro yn y pram rhag ofn bo' ni'n pisho fo off ar ei ffor' adra' o'r gwaith! 'Dwi'n reit ifanc i fod yn Fam- o'n i'n 22 pan ga'th fy mab ei eni- ac ar adega' ma' pobol yn sbio a'na fi fatha' bo fi'n faw achos ma'u penna' nhw'n llawn o'r ystadebau Daily Mailaidd 'ma o famau ifanc. 'Dwi'n gweithio'n blydi calad i drio magu fy mab a chadw ty ar un cyflog, a 'dwi'n sylweddoli pa mor lwcus ydw i allu gwneud hyn- Mae o'n fraint. Ond 'dwi ddim angan pobol i 'neud fi deimlo'n crap am y peth!