Tudalen 4 o 6

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 8:02 pm
gan Y Celt Cymraeg
Odd 'na sdori yn un or papurau sul rhai misoedd yn ol ar fam gyda 10 o blant dwi n credu, gan nifer o tadau gwahanol,(ag un arall ar y ffordd dwi bron yn siwr), yn cael troi 2 ty^ cownsil yn un er mwyn creu ty^ mwy iddi hi.
Oedd y ty yn llawn o' r gadjets trydanol diweddaraf - teledu a dvd player etc ym mhob stafell a mwy nag un cyfrifriadur neu X-box (neu be bynag di enw r petha melltigedig). Oedd hi ar dros £30k o budd-dal ac efo r wyneb i GWYNO bod dim grant/budd-dal i gael i fynd ar holl deulu ar wylie tramor.
Haearn poeth, nid gwylie mai angen

£30k o ffacin budd-dal, ma hyna yn fwy na all llawer o deuluoedd mond breuddwydio iw gael mewn cyflog.

PostioPostiwyd: Gwe 27 Gor 2007 12:25 pm
gan gronw
Y Celt Cymraeg a ddywedodd:£30k o ffacin budd-dal, ma hyna yn fwy na all llawer o deuluoedd mond breuddwydio iw gael mewn cyflog.

wir? ydy'r stori yma i'w gweld ar y we rwle?

PostioPostiwyd: Gwe 27 Gor 2007 3:22 pm
gan Y Celt Cymraeg
ddim yn siwr, heb chwilio rhag codi mhwysa gwaed! oedd o rhai misoedd yn ol fel ddudas i

PostioPostiwyd: Gwe 27 Gor 2007 3:28 pm
gan Dylan
wel dw i'n amheus felly

fel y storis dwl 'na am geiswyr lloches yn dreifio rownd mewn Mercs

PostioPostiwyd: Gwe 27 Gor 2007 5:54 pm
gan Owain Llwyd
Nanog a ddywedodd:
Manon a ddywedodd: Dylia pobol tlawd ddim cael plant, ti'n meddwl?!


Na ddylen. Darwinism ar waith.


Naci. Eugenics ar waith.

PostioPostiwyd: Sad 28 Gor 2007 8:31 pm
gan Dili Minllyn
garynysmon a ddywedodd:Ella'ch bod chi'n hapus gweld eich arian treth yn mynd i bocedi rheiny sydd ddim yn ei haeddu, ond tydw i ddim.

Gwell gen i dalu am gynnal teuluoedd na cholli swmp mawr o 'nghyflog bob mis is dalu am ryfeloedd tramor a phob math o fentrau dibwrpas eraill.

PostioPostiwyd: Llun 30 Gor 2007 8:42 am
gan garynysmon
Dili Minllyn a ddywedodd:
garynysmon a ddywedodd:Ella'ch bod chi'n hapus gweld eich arian treth yn mynd i bocedi rheiny sydd ddim yn ei haeddu, ond tydw i ddim.

Gwell gen i dalu am gynnal teuluoedd na cholli swmp mawr o 'nghyflog bob mis is dalu am ryfeloedd tramor a phob math o fentrau dibwrpas eraill.


Ti'n gwneud i mi swnio fel mod i'n cefnogi'r rhyfel yn Irac.

PostioPostiwyd: Llun 30 Gor 2007 9:26 am
gan Y Celt Cymraeg
Wel, oleia mae'r milwyr etc yn gweithio am eu arian, yn wahanol iawn ir sbynjars 'ma sydd efo dim bwriad gweithio

PostioPostiwyd: Mer 01 Awst 2007 4:58 pm
gan Mici
Edefyn diddorol iawn, dwi'n siwr fod polisi Mr Hain fwy i wneud efo enill pleidleisiau yn 'Middle England' oddi-wrth y Ceidwadwyr. Er mwyn pawb feddwl fod Llafur ddim yn 'soft touch' ar sbynjars a ballu.

Gin i brofiad o weithio yn y maes a gwleidyddiaeth di bob dim. mi daflodd Llafur arian at rhai sectorau o'r gymdeithas o 97 ymlaen ond mi wnaethon nhw pethau yn cymleth i sectorau eraill(Meddyliwch am pwy sydd yn fwy tebygol o pleidleisio mewn cymdeithas).

Torgolannus di gweld Mr/Mrs X yn rowlio ynddi yn gwybod bob tric yn y llyfr(Sgiliau gwych mewn rhai math o waith) a Mr/Mrs Y yn scrappio am bob ceiniog ond fod y sustem yn ei erbyn.

Bai'r sustem ydi yn diwedd, ond dim ots pa sustem cewch fydd na anghyfiawnderau mawr a twyllo. 80 miliwn o rhifau yswiriant cenedlaethol i boblogaeth o 58 miliwn, gwnewch y mathemateg :?

PostioPostiwyd: Sul 19 Awst 2007 6:50 pm
gan Blewyn
Manon a ddywedodd:Dylia pobol tlawd ddim cael plant, ti'n meddwl?!

Am ddiawl o gwestiwn ! Pa hawl sydd gan rhywun i ddod a plentyn (neu yn fwy cywir, person newydd) fewn i'r byd heb ddarparu ar eu cyfer ? Pa reidrwydd moesol sydd ar bawb arall i dy gadw er mwyn i ti gael planta ?

Rw'y tihau a Dili wedi fframio'r ddadl yma gyda'r cwyn fod y llywodraeth yn ceisio gorfodi rhieni i weithio yn hytrach nag aros adref i edrych ar ol eu plant - ond mae hyn yn gelwydd llwyr. Gofyn yda chi nid am y rhyddid i aros adref i fagu plant, ond gael aros adref a magu eich plant ag i drethdalwyr eich cadw ! Mae'r ddau beth yn hollol wahanol.