Tudalen 5 o 6

PostioPostiwyd: Sul 19 Awst 2007 8:01 pm
gan Manon
Blewyn a ddywedodd:
Rw'y tihau a Dili wedi fframio'r ddadl yma gyda'r cwyn fod y llywodraeth yn ceisio gorfodi rhieni i weithio yn hytrach nag aros adref i edrych ar ol eu plant - ond mae hyn yn gelwydd llwyr.

Ond 'da ni ddim yn gofyn i neb ein cadw ni, Blewyn, dyna'r pwynt. 'Dwi ddim yn cael unrhyw arian am beidio gweithio, nac yn cael pres ychwanegol achos bod ni ar incwm isel. 'Dwi jysd ddim yn licio pobol yn cymryd yn ganiataol (yn union fel ti wedi gwneud) bo' fi'n cael llwyth o bres gan y wlad jysd achos bo' fi'n magu fy mhlentyn fy hun, adre. Tydw i ddim yn sbynjo off y wlad, a does gen i ddim lot o bres.

[quote= "Blewyn"]
Gofyn yda chi nid am y rhyddid i aros adref i fagu plant, ond gael aros adref a magu eich plant ag i drethdalwyr eich cadw ! [/quote]

Fel 'dwi'n deud, tydi trethdalwyr ddim yn fy nhalu i, felly mae hyn yn hollol anghywir. Gofyn yda ni, Blewyn, am y rhyddid i aros adra, magu ein plant, ac i bobol ddallt bo ninnau hefyd yn cyfrannu at y gymdeithas.

PostioPostiwyd: Llun 20 Awst 2007 10:19 am
gan Jamie
Ond y pwynt, fe gredaf, yw hyn, nid oes rhaid i ti fod yn wir yn cael yr arian yn dy law gan y llywodraeth fel dy fod yn byw ar y wladwriaeth. Os nad wyt yn gweithio yna nid wyt yn talu dy drethi. Pobl eraill sydd yn gweithio sydd yn codi'r tab am bopeth ar dy ran. Mae'n costio filoedd o bunnoedd i rywun. Pwy? Wel, y trethdalwyr, sef gweithlu'r wlad, pobl mewn swyddi.

Dylai pawb sy'n cymeryd allan o'r pot roi siar dyladwy yn ol i mewn ynddo, dyna'r cyfan rydym yn ddweud.

Rwyf yn talu miloedd ar filoedd mewn trethiant ond ddim yn cael llawer ohono yn ol gan fy mod, diolch byth, yn iach. Nid wyf yn malio am dalu ar ran pobl sy'n rhy afiach i weithio ond mae yna lawer SYDD yn gallu ond ddim yn gwneud ac mae'n fy nghythruddo taw'r gweithlu cyffredin, pobl fel fi sydd yn gweithio'n agled, sy'n talu am eu breintiau nhw tra y maent yn eistedd gartre yn gwylio Daytime TV.

Dyna'r oll.

Dyna pam mae barn y cyhoedd yn troi yn gyflym nawr yn erbyn rhieni sydd yn gofyn gormod. Derbyniaf efallai bod dadl ei bod yn fanteisiol i un rhiant aros gartre yn magu am y 4 neu 5 mlynedd gyntaf - yn rhan-amser o bosibl - ond mae ymestyn hynny wedi i'r plentyn iau ddechrau mynychu ysgol nid yn unig yn afresymol ond yn hunanol. 'Sbynjo' (a defnyddio dy derm) yw hynny, dim arall. Nid oes esgus dichonadwy.

PostioPostiwyd: Llun 20 Awst 2007 6:57 pm
gan Y Celt Cymraeg
Manon a ddywedodd:
Fel 'dwi'n deud, tydi trethdalwyr ddim yn fy nhalu i, felly mae hyn yn hollol anghywir. Gofyn yda ni, Blewyn, am y rhyddid i aros adra, magu ein plant, ac i bobol ddallt bo ninnau hefyd yn cyfrannu at y gymdeithas.

So fyddi di mynd nol i weithio unwaith fydd dy blentyn ddigon hen!?

PostioPostiwyd: Llun 20 Awst 2007 7:37 pm
gan Manon
Y Celt Cymraeg a ddywedodd:
Manon a ddywedodd:
Fel 'dwi'n deud, tydi trethdalwyr ddim yn fy nhalu i, felly mae hyn yn hollol anghywir. Gofyn yda ni, Blewyn, am y rhyddid i aros adra, magu ein plant, ac i bobol ddallt bo ninnau hefyd yn cyfrannu at y gymdeithas.

So fyddi di mynd nol i weithio unwaith fydd dy blentyn ddigon hen!?

Digwydd bod, CC, 'dwi yn gweithio o adra' pan mae'r bychan yn cysgu, ac yn gobeithio y byddai'n gallu parhau i wneud hynny unwaith mae fy mhlentyn yn 'rysgol. Ond i'r rhai sydd ddim isho gweithio o gwbl pan ma' ganddon nhw blant bach, mae gen i bob parch tuag atyn nhw.

Neu falle bod gan rywun wrthwynebiad i mi'n gweithio o adre? Any takers? :winc:

'Dwi'n sylweddoli bod hi'n anodd i'r rhai sy'n talu celc go fawr o dreth, mae 'na bobol yn cymryd mantais o'r system. Ond plis sylweddolwch, tydi pawb sydd adre efo'u plant ddim yn gwneud hyn.

PostioPostiwyd: Llun 20 Awst 2007 11:42 pm
gan Owain Llwyd
Manon a ddywedodd:'Dwi'n sylweddoli bod hi'n anodd i'r rhai sy'n talu celc go fawr o dreth, mae 'na bobol yn cymryd mantais o'r system. Ond plis sylweddolwch, tydi pawb sydd adre efo'u plant ddim yn gwneud hyn.

Dw i ddim yn meddwl bod unrhyw reidrwydd i chdi dy gyfiawnhau dy hun. Mae codi dau fys yn rheitiach ymateb i rai o'r cyfranwyr i'r edefyn hwn na gofyn yn daer am ddealltwriaeth gynnyn nhw, achos fyddi di ddim yn cael hynna beth bynnag.

Dw i'n dallt bod hyn ddim yn uniongyrchol berthnasol i chdi ond, a siarad fel trethdalwr, diawl o ots gen i os ydw i'n cyfrannu at y symiau pitw mae hawlwyr budd-daliadau yn eu cael gan y wladwriaeth.

PostioPostiwyd: Maw 21 Awst 2007 10:44 am
gan Blewyn
Manon a ddywedodd:Ond 'da ni ddim yn gofyn i neb ein cadw ni, Blewyn, dyna'r pwynt. 'Dwi ddim yn cael unrhyw arian am beidio gweithio, nac yn cael pres ychwanegol achos bod ni ar incwm isel.

Mae'n ddrwg gen i Manon ond dyna'n union beth oedd dadl gwreiddiol yr edefyn yma - fod gwrthod cadw pobl er mwyn iddynt gael planta r'un peth a'u gorfodi i weithio. T'ydy hyn ddim yn wir o gwbl ! D'oes dim gorfodaeth arneb i gael plant - dewis personol ydy o, a cyfrifoldeb personol.

PostioPostiwyd: Maw 21 Awst 2007 11:06 am

'Dwi'n dechra' gweld rwan bod rhaid i ni gytuno i anghtuno ar hwn... 'Da ni byth yn mynd i gyd-weld, nac 'dan? 'Dwi'n ailadrodd fy hun drosodd a throsodd, ac mae o'n mynd yn boring i bawb... :winc:

Owain Llwyd a ddywedodd:Dw i ddim yn meddwl bod unrhyw reidrwydd i chdi dy gyfiawnhau dy hun. Mae codi dau fys yn rheitiach ymateb i rai o'r cyfranwyr i'r edefyn hwn na gofyn yn daer am ddealltwriaeth gynnyn nhw, achos fyddi di ddim yn cael hynna beth bynnag.

Dw i'n dallt bod hyn ddim yn uniongyrchol berthnasol i chdi ond, a siarad fel trethdalwr, diawl o ots gen i os ydw i'n cyfrannu at y symiau pitw mae hawlwyr budd-daliadau yn eu cael gan y wladwriaeth.

Pan o'n i'n ddi-blant ac ar gyflog ffab, o'n i ddim rili yn meindio talu treth i'r pobol oedd angan o chwaith... Ond dyna ni, mae pawb yn wahanol (a dwi yn hipi.)

Faint o efefynnau'r maes fysa'n marw allan os 'sa pawb yn cytuno i angytuno dwa'? :)

PostioPostiwyd: Maw 21 Awst 2007 11:08 am
gan Blewyn
Jamie a ddywedodd:Dylai pawb sy'n cymeryd allan o'r pot roi siar dyladwy yn ol i mewn ynddo, dyna'r cyfan rydym yn ddweud.

T'ydw i ddim yn cytuno a hyn O GWBL. Dan ni fel democratiaeth yn dewis adeiladu a chadw y pethau da ni'n eu rhannu - ffyrdd, luoedd arfog, senedd, ysgolion, gwasanaeth iechyd - achos ein bod yn credu fod yn pethau yma yn dda ag yn iawn, ag eu bod yn gwneud y wlad y le o safon i fyw ynddo. Da ni hefyd yn credu mewn rhyddid - na ddylia unrhyw un gael ei orfodi i wneud dim. Os bo rhai yn dewis peidio cyfrannu, eu dewis a'u rhyddid nhw yw hynna, ond fel cymdeithas da ni yn dewis darparu y wlad ar gyfer PAWB, gan gynnwys y rhai sydd yn dewis peidio cyfrannu. Dwi (a gweddill y wlad, yn ol ein polisiau a chyfreithiau) yn fodlon i'r rhai sydd ddim yn cyfrannu gael elwa o ddefnydd y ffyrdd, yr heddlu, y gwasanaeth iechyd, achos (am nifer maith o resymau) mae o'n beth iawn i wneud.

Lle dwi'n tynnu'r lein yn bersonol ydy cadw'r rhai sydd yn dewis peidio cadw eu hunain, a wedyn mynnu arian cyhoeddus. Nid yn unig achos bysa'n well gen i weld y mymryn arian yn fy mhoced fy hun ar gyfer fy nheulu fy hun, ond achos dwi'n meddwl ei fod yn hybu diwylliant o ddibyniaeth, lladd hunan-barch, hybu planta ym mysg y lleiaf abl a gweithgar. Braint ydy plant, ddim hawl. Mi ddylia fo rhywun sy'n gorfod begera ar y wlad i gadw eu plant yn gyweilyddus o'r ffaith.

PostioPostiwyd: Maw 21 Awst 2007 11:43 am
gan Owain Llwyd
Manon a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:Dw i ddim yn meddwl bod unrhyw reidrwydd i chdi dy gyfiawnhau dy hun. Mae codi dau fys yn rheitiach ymateb i rai o'r cyfranwyr i'r edefyn hwn na gofyn yn daer am ddealltwriaeth gynnyn nhw, achos fyddi di ddim yn cael hynna beth bynnag.

Dw i'n dallt bod hyn ddim yn uniongyrchol berthnasol i chdi ond, a siarad fel trethdalwr, diawl o ots gen i os ydw i'n cyfrannu at y symiau pitw mae hawlwyr budd-daliadau yn eu cael gan y wladwriaeth.

Pan o'n i'n ddi-blant ac ar gyflog ffab, o'n i ddim rili yn meindio talu treth i'r pobol oedd angan o chwaith... Ond dyna ni, mae pawb yn wahanol (a dwi yn hipi.)

Mae gen i ddau o blant ac mi ydw i'n cael cyflog tra ansyfrdanol gan 'mod i'n gweithio'n rhan amser i helpu magu'r plant rhagddywededig. Am ryw reswm, dw i'n cael fy nghorddi yn fwy o lawer gan weld arian trethi yn mynd at bethau fatha sybsideiddio alcohol i Aelodau Seneddol neu brynu papur wal hurt o ddrudfawr i'r Arglwydd Ganghellor. Mae 'na hen ddigon o bobl ddigon breintiedig sy'n manteisio ar y system dipyn yn fwy na'r 'sbynjars' bondigrybwyll ar waelod y domen gymdeithasol, ond, am ryw reswm, dydi'r rheina ddim yn cael yr un sylw rownd-y-ffycin-rîl â'r mamau sengl aros-adra.

PostioPostiwyd: Maw 21 Awst 2007 1:02 pm
gan Manon
Owain Llwyd a ddywedodd:
Mae gen i ddau o blant ac mi ydw i'n cael cyflog tra ansyfrdanol gan 'mod i'n gweithio'n rhan amser i helpu magu'r plant rhagddywededig. Am ryw reswm, dw i'n cael fy nghorddi yn fwy o lawer gan weld arian trethi yn mynd at bethau fatha sybsideiddio alcohol i Aelodau Seneddol neu brynu papur wal hurt o ddrudfawr i'r Arglwydd Ganghellor. Mae 'na hen ddigon o bobl ddigon breintiedig sy'n manteisio ar y system dipyn yn fwy na'r 'sbynjars' bondigrybwyll ar waelod y domen gymdeithasol, ond, am ryw reswm, dydi'r rheina ddim yn cael yr un sylw rownd-y-ffycin-rîl â'r mamau sengl aros-adra.

Eiliaf, eiliaf, eiliaf. Easy targets!