Cymro13 a ddywedodd: Dwi'n meddwl byddai pobl Ceredigion yn anghytuno da ti ar y pwynt yna Pryderi. Ar ol colli'r set yn 2005 nes i weld pa mor galed wnaeth criw Plaid Cymru weithio dros yr ymgyrch am y cynulliad ym mis Mai a dwi'n dychmygu fydd yr un peth yn digwydd eto yn yr etholiad cyffredinol -
Dwi'n meddwl all Plaid Cymru yng Ngheredigion fanteisio ar y system ddwy bleidiol i ennill Ceredigion yn ol - Yn 2005 nath pobl droi at y Rhyddfrydwyr fel dewis arall yn hytrach na Llafur a'r Ceidwadwyr. Yn yr etholiad nesaf brwydyr rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr fydd hi ar lawr gwlad ac fydd y floating voters yr etholiad nesaf droi nol ar y ddwy Blaid dros y wlad a Phlaid Cymru fydd yn manteisio yng Ngheredigion - Dwi'n gweld y Rhyddfrydywr yn colli lot o dir dros Prydain gyfan yn yr etholiad nesaf
Dwi ddim yn cytuno a dy ddadansoddiad. Dydy'r floating voters ddim o angenrheidrwydd yn mynd i bleidleisio'r un ffordd yn etholiadau San Steffan ag yn etholiadau'r Cynulliad. Mae gan Blaid Cymru gynrychiolaeth a dylanwad cadarn ym Mae Caerdydd, ond nid felly yw'r achos yn San Steffan. Yn wir, pe bai poblogrwydd Gordon Brown yn para tan yr etholiad cyffredinol nesaf, mae posibilrwydd mai Llafur fydd yn cipio etholaeth newydd Arfon (cofiwch mai etholwyr Llafur ym Mangor oedd ym gyfrifol am ddychwelyd Beti Williams fel yr AS dros Gonwy). Does gan etholwyr felly ddim cymaint o incentive i gefnogi Plaid mewn etholiadau cyffrediniol nag yn etholiadau'r Cynulliad.