Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 8:04 am
gan Cymro13
Pryderi a ddywedodd:Y rheswm i mi awgrymu Ceredigion yw bod honno'n sedd y mae'r Dem Rhydd yn gobeithio ei chadw yn yr etholiad nesaf. Mae Plaid Cymru yn gobeithio ad-ennill Ynys Mon ac ennill Llanelli yn senedd San Steffan. Pe bai'r ddwy blaid yn ymatal rhag ymladd yn erbyn ei gilydd yn y seddau mwyaf ennilladwy, byddai gobaith i Blaid Cymru wedyn i gipio seddau fel Ynys Mon, Llanelli ac yn y blaen oddi wrth Lafur.

Y canlyniad felly fyddai rhoi mwy o gynrhychiolaeth i'r pleidiau bychain ar draul Llafur.


Dwi'n meddwl byddai pobl Ceredigion yn anghytuno da ti ar y pwynt yna Pryderi. Ar ol colli'r set yn 2005 nes i weld pa mor galed wnaeth criw Plaid Cymru weithio dros yr ymgyrch am y cynulliad ym mis Mai a dwi'n dychmygu fydd yr un peth yn digwydd eto yn yr etholiad cyffredinol -

Dwi'n meddwl all Plaid Cymru yng Ngheredigion fanteisio ar y system ddwy bleidiol i ennill Ceredigion yn ol - Yn 2005 nath pobl droi at y Rhyddfrydwyr fel dewis arall yn hytrach na Llafur a'r Ceidwadwyr. Yn yr etholiad nesaf brwydyr rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr fydd hi ar lawr gwlad ac fydd y floating voters yr etholiad nesaf droi nol ar y ddwy Blaid dros y wlad a Phlaid Cymru fydd yn manteisio yng Ngheredigion - Dwi'n gweld y Rhyddfrydywr yn colli lot o dir dros Prydain gyfan yn yr etholiad nesaf

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 8:33 am
gan Mr Gasyth
Pryderi a ddywedodd:Y canlyniad felly fyddai rhoi mwy o gynrhychiolaeth i'r pleidiau bychain ar draul Llafur.


Os mai sicrhau cynrychiolaeth i'r pleidiau bychain yw dy nod, a ddylai'r Blaid helpu BNP a UKIP hefyd?

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 9:35 am
gan Rhods
Ma Ceredigion yn mynd i fod yn ddiddorol...

Lico nhw neu bido (a gyda llaw dwi yn hollol resentful tuag atynt :drwg: )
..ond ma Mark Williams, lib.dem, yn aelod seneddol uffernol o dda, mae'n rhaid concido....dim byd i neud ai blaid, ond jyst fe fel person..mae fe yn gweithio yn uffernol o galed iw etholwyr...a ma fe yn berson hoffus or hyn dwi yn glywed ar y stryd. Ma hyd yn oed rhai o gefnogwyr/aelodau plaid yn y sir yn cydnabod hyn. Felly fe fydd yn shwr o gael lot o pleidleisiau personnol yn hytrach na pleidlais o rheidrwydd iw blaid (os i chi da fi). Ail bwynt - ma fe yn dibynnu ar ba strategaeth ma'r dem.rhydd yn mynd i fynd amdano yn y sir. Er taw etholiad Sansteffan yw hwn, falle o bosib y bydd y rhyddfrydwyr yn ymosod ar y glymblaid plaid/llafur ym Mae Caerdydd...ar ffaith bod Plaid di dweud ac arwain at etholwyr Ceredigion i feddwl mai clymblaid lib/lab odd yn mynd i ein weinyddu yn dilyn etholiad mai 3. Wrth gwrs - fe fydd lot o flaws i dadl y rhyddfrydwyr. HY gall Plaid ymladd nol a dweud mai'r rhyddfrydwyr mesiodd fyny cyngrair yr enfys etc etc. Fydd e yn ddiddorol. Trydydd pwynt - pwy sydd yn mynd i sefyll i Plaid? Os mai Simon Thomas fydd hi, sydd yn wleidydd effeithiol a hoffus ac odd yn aelod seneddol da iawn i Geredigion, fe fydd yn frwydr ddiddorol - 2 heavyweight da! Fel mae'n sefyll - sa ni yn dyn betio, Mark Williams i ennill dwi'n meddwl, oherwydd y bleidlais personnol yn bennaf, ond eto mae yn dibynnu pwy sydd yn sefyll i Plaid - bydd e yn agos iawn unwaith eto

Am weddill Cymru - dwi yn rhagweld etholiad da iawn ir Ceidwadwyr. Ma'r hyder yn dilyn canlyniad Mai 3 yn disgleirio or hyn dwi yn gweld. Ennill 7/8 sefyll falle.

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 10:02 am
gan Nanog
Falle 'roedd Seimon Thomas yn hoffus ac effeithiol ond mi gollodd e'r sedd. Dwi ddim yn meddwl taw Seimon yw'r person ar gyfer Ceredition - ei ddelwedd yn un rhwswm. Dyw e ddim yn dod o'r sir ychwaith. Ie, Sais y Williams 'fyd yn mae un neu ddau o'r rheini yng Nheredigion i'w gefnogi.

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 10:17 am
gan Cymro13
Rhods a ddywedodd: falle o bosib y bydd y rhyddfrydwyr yn ymosod ar y glymblaid plaid/llafur ym Mae Caerdydd.


Os yw'r Rhyddfrydwyr yn defnyddio'r glyblaid Llafur/Plaid Cymru i ymosod ar Blaid Cymru bydd yn rhaid i Blaid Cymru eu hatgoffa taw bai'r Rhyddfrydwyr yw e am dynnu allan o'r Glymblaid Enfys yw'r brif rheswm fod yna glyblaid enfys (dim i ddechrau dadl arall yn yr edefyn hyn wrth gwrs) os gellir ddadlau fod siap y llywodraeth ym Mae Caerdydd wedi cael ei bendefynnu gan un Rhyddfrydwr yn y cyfarfod enwog hwnnw pan nath y Rhyddfrydwyr dynnu allan o'r trafodaethau da Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 10:19 am
gan Rhods
Allai dy sicrhau di Nanog - lot o Gymry Cymraeg yn pleidleisio drosto fe fyd...

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 11:27 am
gan Cymro13
Mynd nol at Geredigion eto !!!

Falle taw Seimon yw'r person gore i ymladd y set hyd yn oed ar ol colli'r set ond o safbwynt Plaid Cymru os nad Seimon nfydd yn ymladd y set fydd angen uffar o ymgeisydd da sydd a fwy o broffil yn yr ardal ac sydd yn deall yr ardal cystal

Any takers? Cardi Bach :winc:

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 11:54 am
gan krustysnaks
Rhods a ddywedodd:Lico nhw neu bido (a gyda llaw dwi yn hollol resentful tuag atynt :drwg: )
..ond ma Mark Williams, lib.dem, yn aelod seneddol uffernol o dda, mae'n rhaid concido....dim byd i neud ai blaid, ond jyst fe fel person..mae fe yn gweithio yn uffernol o galed iw etholwyr...a ma fe yn berson hoffus or hyn dwi yn glywed ar y stryd.


Anghytuno.

Dyw cael dy lun yn y papur yn ymgyrchu am doiled cyhoeddus newydd yn Ponterwyd ac yn rhoi siec i Save the Midges ddim yn gwneud aelod seneddol da, yn fy marn i. Oes unrhywun actually yn gwybod beth yw barn Mark Williams am unrhywbeth?

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 12:04 pm
gan Nanog
Rhods a ddywedodd:Allai dy sicrhau di Nanog - lot o Gymry Cymraeg yn pleidleisio drosto fe fyd...


Wrth-gwrs, ond mae angen y rhan fwyaf ohonynt deimlo cysylltiad gydag ymgeisydd y Blaid. Dwi ddim yn meddwl fod hyn wedi digwydd gyda Seimon Tomos. Yn bersonnol, dwi'n ei hoffi ond mi glywes i sawl un yn dweud eu bod ddim - am resymau digon simsan ond dyna yw gwleidyddiaeth. Roedd Cynog yn siarad iaith y bobl.

Marc Williams? Ie, beth mae e'n 'neud?

PostioPostiwyd: Mer 25 Gor 2007 12:12 pm
gan Cymro13
krustysnaks a ddywedodd:
Rhods a ddywedodd:Lico nhw neu bido (a gyda llaw dwi yn hollol resentful tuag atynt :drwg: )
..ond ma Mark Williams, lib.dem, yn aelod seneddol uffernol o dda, mae'n rhaid concido....dim byd i neud ai blaid, ond jyst fe fel person..mae fe yn gweithio yn uffernol o galed iw etholwyr...a ma fe yn berson hoffus or hyn dwi yn glywed ar y stryd.


Anghytuno.

Dyw cael dy lun yn y papur yn ymgyrchu am doiled cyhoeddus newydd yn Ponterwyd ac yn rhoi siec i Save the Midges ddim yn gwneud aelod seneddol da, yn fy marn i. Oes unrhywun actually yn gwybod beth yw barn Mark Williams am unrhywbeth?


Mae'r ffaith ei fod e'n gwneud hyn yn rhoi sylw iddo fe a rhoi'r ddelwedd ar lawr gwlad ei fod yn gwneud rhywbeth - Gall unrhyw idoit fod yn MP, edrychwch ar y nifer o rai Llafur sydd yn ennill seddi yng nghymoedd y de am neud ffyc ol. Ond y ffaith fod ei lun yn y papur yn codi ei broffil yn rhoi'r ddelweddi'r bobl ar lawr gwlad fod y boi yn neud lot