Yr Etholiad Cyffredinol nesaf

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Pryderi » Mer 25 Gor 2007 5:03 pm

Cymro13 a ddywedodd: Dwi'n meddwl byddai pobl Ceredigion yn anghytuno da ti ar y pwynt yna Pryderi. Ar ol colli'r set yn 2005 nes i weld pa mor galed wnaeth criw Plaid Cymru weithio dros yr ymgyrch am y cynulliad ym mis Mai a dwi'n dychmygu fydd yr un peth yn digwydd eto yn yr etholiad cyffredinol -

Dwi'n meddwl all Plaid Cymru yng Ngheredigion fanteisio ar y system ddwy bleidiol i ennill Ceredigion yn ol - Yn 2005 nath pobl droi at y Rhyddfrydwyr fel dewis arall yn hytrach na Llafur a'r Ceidwadwyr. Yn yr etholiad nesaf brwydyr rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr fydd hi ar lawr gwlad ac fydd y floating voters yr etholiad nesaf droi nol ar y ddwy Blaid dros y wlad a Phlaid Cymru fydd yn manteisio yng Ngheredigion - Dwi'n gweld y Rhyddfrydywr yn colli lot o dir dros Prydain gyfan yn yr etholiad nesaf

Dwi ddim yn cytuno a dy ddadansoddiad. Dydy'r floating voters ddim o angenrheidrwydd yn mynd i bleidleisio'r un ffordd yn etholiadau San Steffan ag yn etholiadau'r Cynulliad. Mae gan Blaid Cymru gynrychiolaeth a dylanwad cadarn ym Mae Caerdydd, ond nid felly yw'r achos yn San Steffan. Yn wir, pe bai poblogrwydd Gordon Brown yn para tan yr etholiad cyffredinol nesaf, mae posibilrwydd mai Llafur fydd yn cipio etholaeth newydd Arfon (cofiwch mai etholwyr Llafur ym Mangor oedd ym gyfrifol am ddychwelyd Beti Williams fel yr AS dros Gonwy). Does gan etholwyr felly ddim cymaint o incentive i gefnogi Plaid mewn etholiadau cyffrediniol nag yn etholiadau'r Cynulliad.
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Postiogan Cymro13 » Iau 26 Gor 2007 10:59 am

Pryderi a ddywedodd:

Nes i ddim dweud fyddai pobl yn troi at Blaid Cymru ond byddai pobl yn fwy tebygol o droi at Llafur a'r Ceidwadwyr yn lle mynd at y Rhyddfrydwyr fel wnaethon nhw yn 2005 - Mi wnaeth y Rhyddfrydwyr fanteisio ar wendid y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol a dwyn eu pleidleisiau(ac ambell i bleidlais Plaid Cymru hefyd) ond dwi ddim yn meddwl fydd gan y Rhyddfrydwyr gymaint o ddylanwad yn yr etholiad yma gan taw etholiad rhwng y Ceidwadyr a Llafur fydd hi - Cameron vs Brown -

Gyda Ceredigion does gan y ddwy blaid ddim llawer o ddylanwad wrth gwrs ond gyda'r sylw fydd yn cael ei roi i'r etholiad ar lawr gwlad ac yng Ngheredigion mi fydd hyn yn cael dylanwad ac y Rhyddfrydwyr wedyn dwi'n gweld fydd ar ei cholled a bydd Plaid Cymru yn manteisio ar y sefyllfa
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Griff-Waunfach » Iau 26 Gor 2007 11:32 am

Cymro13 a ddywedodd:taw etholiad rhwng y Ceidwadyr a Llafur fydd hi - Cameron vs Brown -

Mae e wastad wedi bod rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr ers y 1920au/30au. felly nid yw Brown Vs Cameron yn mynd i neud lot o gwahaniaeth y tro yma...
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 27 Gor 2007 8:36 am

Vaughan Roderick a ddywedodd:Dw i wedi clywed o sawl cyfeiriad bod Simon Thomas wedi ei bennodi fel SPAD (cynghorydd arbennig) i weinidogion Plaid Cymru ym Mae Caerdydd. Dw i'n cymryd bod hynny yn golygu na fydd e'n sefyll yng Ngheredigion yn yr Etholiad Cyffredinol. Mae'n debyg y bydd Dafydd Wigley ac Eurfyl ap Gwilym yn gweithio fel SPADS di-dâl. Fe fydd 'na SPAD (cyflogedig) arall. Am resymau â ddaw yn amlwg yn ystod y dyddiau nesaf fedrai ddim rhannu'r enw (nid fi, gyda llaw!)

Diddorol!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Pryderi » Llun 30 Gor 2007 5:56 pm

Mae'n drwg gen i dy gamddeall, Cymro - mae'n rhaid mod i wedi gwasgu 'dyfynnu' yn y man anghywir!

Efallai dy fod yn iawn - i fod yn onest, does gen i ddim cymaint a hynny o hyder ym Ming Campbell fel arweinydd. Er gwaetha'i wendidau personol, roedd Carlo yn rhoi arweiniad pendant i'w blaid ar faterion fel Irac a threthi. Mae angen arweinydd cryf arall, ond heblaw am Simon Hughes, dwi ddim yn gwybod pwy all wneud y job.
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron