YouGov a Chymru

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

YouGov a Chymru

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 26 Awst 2007 2:45 am

Yn ôl y son, polau piniwn YouGov sydd wedi darogan y canlyniadau cywiraf yn etholiadau'r Alban dros flynyddoedd lawer. Yn anffodus dydy YouGov ddim yn cyhoeddi polau Cymreig. Un o'r rhesymau am hynny yw nad oes digon o gyfranwyr Cymreig ar gael i wneud pôl dibynadwy. Mae Cymru yn cael ei gyfrif fel rhan o Ganolbarth Lloegr ar gyfer ei bolau, mae'n debyg.

Does dim modd curo pôl YouGov trwy annog 5 mil o gefnogwyr y Blaid, dweder, i ymuno a'r cynllun, gan fod y rheolwyr yn dewis a dethol pwy sydd i ateb pob cwestiwn yn ôl rheolau pendant, ond po fwyaf o Gymry sydd yn aelodau, po fwyaf yw'r gobaith o gael digon o Gymry yn y cynllun i wneud pôl Cymreig yn rhywbeth gwerth chweil.

Mae'r rhai sydd yn aelodau o YouGov yn cael eu talu am gyfrannu at bôl (dim ond chweigan y tro), ac mae'n rhaid ennill £50 cyn gellir hawlio'r tâl, sef can holiadur.

O gysylltu trwy glicio ar y ddolen YMA, mi gaf i chweigien yn ychwanegol am eich cyflwyno. Ond nid ydwyf yn annog aelodaeth am y chweigian, rwy'n credu bod angen mwy o gyfranwyr o Gymru, gwir yr, er mwyn creu polau Cymreig dibynadwy. Mae modd darganfod ffurf o ymaelodi a YouGov trwy Gwgl, heb i mi cael dime o gildwrn. Os nad ydych am imi gael y cildwrn, ymunwch felly, da chi!
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron