Tudalen 1 o 2

Streic swyddogion y carchardai

PostioPostiwyd: Iau 30 Awst 2007 7:22 pm
gan Dili Minllyn
Beth yw barn pobl am hon? I mi, yr hawl i atal ei lafur ei hunan yw'r hawl mwyaf sylfaenol sydd gan ddyn o dan y drefn gyfalafol, felly pob lwc iddyn nhw. :)

Difyr o beth yw gweld gweinidog llywodraeth Lafur yn rhedeg at y llysoedd i gael gorchymyn i ddynion fynd yn ôl i'r gwaith o dan delerau cytundeb di-streic a luniwyd gan y Torïaid. Ai dyma'r un llywodraeth Lafur sydd byth a hefyd yn cwyno am ymyrraeth y llysoedd yn musnes y llywodraeth? :winc:

PostioPostiwyd: Iau 30 Awst 2007 8:29 pm
gan Chip
i meddwl bo llafur ei hun wedi tyfu allan o'r "unions" mae'r ffordd maent wedi cael ei trin yn siomedig.
pan weles i'r newyddion am y peth a clywed cyfweliad gyda un o'r streicwyr wnaeth dangos fod pwynt da da nhw. ma'r perygl yn waith mor uchel pan odd e'n son am y weithwyr yn amal yn cael ei ymosod arno gan y carcharwyr gyda cyllull.

PostioPostiwyd: Iau 30 Awst 2007 8:46 pm
gan krustysnaks
Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n deg iawn ar swyddogion y carchardai bod Jack Straw yn dweud bod "meaningful discussions" yn mynd i ddigwydd, yna Gordon Brown yn dweud na fydd newid y diwrnod canlynol.

Ar y llaw arall, dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n deg o gwbl eu bod y swyddogion hyn yn torri'r gyfraith drwy streicio.

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 9:05 am
gan huwwaters
Un o'r cwynion gan y swyddogion yw eu bod yn cael eu hymysod arnynt yn amal. A yw'r carcharwyr yn cael gormod o ryddid a hawliau?

Dwi di siarad efo sawl person sydd unai wedi bod mewn carchar, neu gweithio fel cytundebwr o fewn carchar, ac un o'r pethau oedd fwyaf o sioc iddynt oedd 'praint mor dda' yr oedden nhw'n ei gael hi y tu fewn.

Un o'r pethau yw amser bwyd - pres cyfartalog sy'n cael ei wario ar garcharor i de yw £4.50; y swm ar gyfer cleifion ysbytai a cartrefi hen bobol yn agosach i £2.50. Mae'r carcharwyr hefyd yn cael dewis be maent eisiau i'w fyta, yn ogystal yn cael rhywbeth tebyg i 3 course meal.

Nid celwydd yw hwn, fel asylum seekers yn cael pob math o freebies etc., ond yr hyn mae pobol wedi ei weld a'i brofi yno.

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 12:30 pm
gan S.W.
huwwaters a ddywedodd:Un o'r cwynion gan y swyddogion yw eu bod yn cael eu hymysod arnynt yn amal. A yw'r carcharwyr yn cael gormod o ryddid a hawliau?

Dwi di siarad efo sawl person sydd unai wedi bod mewn carchar, neu gweithio fel cytundebwr o fewn carchar, ac un o'r pethau oedd fwyaf o sioc iddynt oedd 'praint mor dda' yr oedden nhw'n ei gael hi y tu fewn.

Un o'r pethau yw amser bwyd - pres cyfartalog sy'n cael ei wario ar garcharor i de yw £4.50; y swm ar gyfer cleifion ysbytai a cartrefi hen bobol yn agosach i £2.50. Mae'r carcharwyr hefyd yn cael dewis be maent eisiau i'w fyta, yn ogystal yn cael rhywbeth tebyg i 3 course meal.

Nid celwydd yw hwn, fel asylum seekers yn cael pob math o freebies etc., ond yr hyn mae pobol wedi ei weld a'i brofi yno.


Diom cweit mor ddu a gwyn a hynny Huw.

Mi fuodd fy mrawd yng nghyfraith yn y carchar Caeredin am 2 flynedd a hanner tan yn eitha diweddar. Tra yno mi weithiodd mewn sawl swydd yn y carchar, mi gadwodd ei ben i lawr a roedd ganddo berthynas dda hefo'r swyddogion. Roedd pobl fel fo oedd yn bihafio yn cael 'treats' - awr yn fwy o visiting, teledu a playstation yn eu cell, gweithio yn y swyddi gorau etc. Ond os oedd unrhyw gambihafio o unrhyw fath gan gynnwys peidio troi fynyn i'r gwaith, cadw gormod o swn etc yna byddant yn colli eu cell unigol, yn sicr yn colli'r defnydd o'r teledu etc ac yn colli eu swyddi, a ddim yn cael mynd i'r gym. Roedden nhw'n cael eu cadw ar lawr arwahan i'r carcharorion eraill. A fy rhieni yng nghyfraith oedd yn prynnu'r strwff i gyd iddo fo, doedden nhw'm yn cael eu rhoi am ddim gan y carchar.

Mae pobl yn licio honi bod carchar fel holiday camp ond y gwir ydy ei bod yn bell o fod fel yne, dim ond wrth fihafio dech chi#n cael unrhyw perks.

Dwi yn credu bod y Swyddogion yn cael eu trin yn wael serch hynny, yn enwedig yn yr achos yma. Mae'r gwaith mae nhw'n ei wneud yn anodd uffernol, yn gorfforol ac yn emosiynol. Swn i'm yn licio gweld rhwun wedi crogi ei hun, delio hefo rhywun sydd wedi cael ymosodiad difrifol na chwaith clywed beth mae rhai or pobl sydd yn y carchar wedi ei wneud. Flly,n sicr o ran hynny dylsant gael codiad cyflog i gyfleu hynny.

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 1:03 pm
gan huwwaters
Hyd yn oed os dwi'n bihafio'n dda ar y tu allan, heb troseddu, mae cael teledu, trwydded iddo a playstation yn perk i mi yma. Dwi'n meddwl ei fod yn ormod o perk i garcharorion. Byse llyfre ddim yn well iddynt?

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 1:35 pm
gan S.W.
huwwaters a ddywedodd:Hyd yn oed os dwi'n bihafio'n dda ar y tu allan, heb troseddu, mae cael teledu, trwydded iddo a playstation yn perk i mi yma. Dwi'n meddwl ei fod yn ormod o perk i garcharorion. Byse llyfre ddim yn well iddynt?


Os di dy rieni di fel anrheg i Huw yn penderfynu cael Playstation i ti am fod yn hogyn da does neb yn cwyno. Petai'r Carchar yn prynnu playstation i'garcharorion am fihafio yna byddai gennyt ti bwynt. Ond nid HMP Sougton oedd yn talu am cyfrifiadur, teledu, cigarettes fy mrawd yng nghyfraith, ond ei rieni o. Roedd y carchar fel gwobr am fihafio yn caniatau hyn a hyn o bethau iddo, a roedd o wedyn yn gallu holi ei rieni. Os oedd on cambihafio am y peth lleiaf roedd on colli'r cwbwl lot a mwy.

Roedden nhw'n gallu cael llyfre, di hynny ddim yn bwynt. Nid pawb sy'n cael teledu, playstation etc, ond canran bychan iawn - y carcharorion hynny sydd hefo'r agwedd gorau os lici di, y rhai hynny sydd ddim isio bod yn nol yn y lle eto. Mae ne rhai sy'n cymryd y piss ac o ganlyniiad ddim yn cael y perks ne.

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 5:18 pm
gan Nanog
S.W. a ddywedodd:

Diom cweit mor ddu a gwyn a hynny Huw.

Mi fuodd fy mrawd yng nghyfraith yn y carchar Caeredin am 2 flynedd a hanner tan yn eitha diweddar. Tra yno mi weithiodd mewn sawl swydd yn y carchar, mi gadwodd ei ben i lawr a roedd ganddo berthynas dda hefo'r swyddogion. Roedd pobl fel fo oedd yn bihafio yn cael 'treats' - awr yn fwy o visiting, teledu a playstation yn eu cell, gweithio yn y swyddi gorau etc. Ond os oedd unrhyw gambihafio o unrhyw fath gan gynnwys peidio troi fynyn i'r gwaith, cadw gormod o swn etc yna byddant yn colli eu cell unigol, yn sicr yn colli'r defnydd o'r teledu etc ac yn colli eu swyddi, a ddim yn cael mynd i'r gym. Roedden nhw'n cael eu cadw ar lawr arwahan i'r carcharorion eraill. A fy rhieni yng nghyfraith oedd yn prynnu'r strwff i gyd iddo fo, doedden nhw'm yn cael eu rhoi am ddim gan y carchar.



Dim cweit rhywbeth mas o Papillon. Mwy tebyg i Gwersyll yr Urdd Llangrannog.

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 7:23 pm
gan huwwaters
I mi, dyle carchar fod yn gell, gyda safonnau digonol ar gyfer byw yn lan: dillad glan, gwely cynnes, bwyd digonol ac addysg am ddim.

Mae hyn dal 100 gwaith yn fwy na ma pobol sydd erioed wedi gneud drwg yn eu bywydau yn ei wneud. Yn ôl ystadegau mae nifer fawr o blant yn byw mewn tlodi yn y wlad yma, a tydi'r uchod mae carcharor yn ei gael ddim be mae'r plant yma'n ei gael.

Dyle dy frawd yng nghyfraith ddim wedi bod yn ceisio gwella ei hun trwy rehabilitation yn darllen, a magu annibyniaeth barn cytbwys sy'n gallu gwahaniaethu rhwng da a drwg yn lle bod ar playstation?

Dyle carchar ddim fod efo awyrgylchau gwahanol i gwahanol bobol, nid yw lle felly yn deg.

PostioPostiwyd: Gwe 31 Awst 2007 8:42 pm
gan ceribethlem
huwwaters a ddywedodd:I mi, dyle carchar fod yn gell, gyda safonnau digonol ar gyfer byw yn lan: dillad glan, gwely cynnes, bwyd digonol ac addysg am ddim.

Mae hyn dal 100 gwaith yn fwy na ma pobol sydd erioed wedi gneud drwg yn eu bywydau yn ei wneud. Yn ôl ystadegau mae nifer fawr o blant yn byw mewn tlodi yn y wlad yma, a tydi'r uchod mae carcharor yn ei gael ddim be mae'r plant yma'n ei gael.

Dyle dy frawd yng nghyfraith ddim wedi bod yn ceisio gwella ei hun trwy rehabilitation yn darllen, a magu annibyniaeth barn cytbwys sy'n gallu gwahaniaethu rhwng da a drwg yn lle bod ar playstation?

Dyle carchar ddim fod efo awyrgylchau gwahanol i gwahanol bobol, nid yw lle felly yn deg.

Fi'n anghytunotuno gyda ti. Yr hyn sydd angen yw i addysgu'r bobl yma fod ffordd gwell o fyw bywyd yn bodoli. Mae carchar wedi bodoli ers oesoedd, ond dyw e' ddim yn helpu atal tropsedd. Gwella cymdeithas a chyfraniad yr unigolion yma tuag at gymdeithas ddylai'r nod fod.