Streic swyddogion y carchardai

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan S.W. » Sad 01 Medi 2007 8:19 am

Nanog a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:

Diom cweit mor ddu a gwyn a hynny Huw.

Mi fuodd fy mrawd yng nghyfraith yn y carchar Caeredin am 2 flynedd a hanner tan yn eitha diweddar. Tra yno mi weithiodd mewn sawl swydd yn y carchar, mi gadwodd ei ben i lawr a roedd ganddo berthynas dda hefo'r swyddogion. Roedd pobl fel fo oedd yn bihafio yn cael 'treats' - awr yn fwy o visiting, teledu a playstation yn eu cell, gweithio yn y swyddi gorau etc. Ond os oedd unrhyw gambihafio o unrhyw fath gan gynnwys peidio troi fynyn i'r gwaith, cadw gormod o swn etc yna byddant yn colli eu cell unigol, yn sicr yn colli'r defnydd o'r teledu etc ac yn colli eu swyddi, a ddim yn cael mynd i'r gym. Roedden nhw'n cael eu cadw ar lawr arwahan i'r carcharorion eraill. A fy rhieni yng nghyfraith oedd yn prynnu'r strwff i gyd iddo fo, doedden nhw'm yn cael eu rhoi am ddim gan y carchar.



Dim cweit rhywbeth mas o Papillon. Mwy tebyg i Gwersyll yr Urdd Llangrannog.


Ydy o ddiawl. Mae'n hawdd bowldio geiriau yma ac acw Nanog, ond heb i ti weld y bywyd mae person yn gorfod byw yn y sefyllfa yno does gen ti'n cliw am be ti'n son.

Weles i hefo'n llygais fy hun yr upset achosodd cyfnod fy mrawd yng nghyfraith yn y carchar iddo fo a'i deulu. Yn 21oed mi dderbyniodd ei gosb a mynd ati i wneud ei fywyd mor hawdd ag oedd on gallu. Fel pob carcharor newydd arall bu'n rhaid iddo fod ar y prif wing - rhannu cell, dim teledu, dim playstation, dim job, dim cael defnyddio'r gym a dim ond awr o visiting a wythnos. Bu'n rhaid iddo fo rhoi ei enw lawr i weithio - a gan bod o'n newydd roedd yn rhaid iddo ddechre ar y gwaelod - glanhau celloedd, glanhau'r toiledau ayyb. Pan oedd y swyddogion yn fwy bodlon gyda fo gafodd o symud i wing arall ond dal rhannu cell, yna cafodd o newid swydd, yna cafodd o gael teledu, yna cafodd o cell unigol, yna cafodd o playstation - ond pan oedd lightsout roedd rhain dal i gael eu diffodd hefyd, neu byddet ti'n eu colli, a gan bod ei deulu'n byw 3 awr i ffwrdd o'r carchar roedd on cael awr ychwanegol o visiting. Fel ddudis i, fy rhieni yng nghyfraith a fi a'i chwaer oedd yn prynnu'r stwff ma iddo fo nid y Gwasanaeth Carchardai.

Cwbwl mae nhw'n neud ydy gwobrwyo'r rhai hefo'r agwedd gorau - dydy mwyafrif y carcharorion ddim yn cael y driniaeth yma yn y math yma o garchar.

Dyle dy frawd yng nghyfraith ddim wedi bod yn ceisio gwella ei hun trwy rehabilitation yn darllen, a magu annibyniaeth barn cytbwys sy'n gallu gwahaniaethu rhwng da a drwg yn lle bod ar playstation?


Sori Huw a bob ddyledus barch ond ti'n byw mewn rhyw fyd naive iawn os ti'n wirioneddol credu hynny a bod pawb sydd yn y carchar ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg, ddim yn poeni am yr hyn mae nhw wedi ei wneud, yn menace i gymdeithas ac yn brin o addysg.

I ddechre nid rhyw lleidr, neu junky oedd fy mrawd yng nghyfraith, dwi'm am fynd i fewn i manylion yr achos ar fforwm gyhoeddus, dydy hynny ddim yn deg ar fy ngwraig sy'n deallt Cymraeg. Ond, digon yw dweud mae 'wrong place, wrong time', a rhywbeth gall fod wedi digwydd i ti neu i fi oedd o.

Pan ddaeth yr achos nath o ddim trio dianc o'r hyn oedd o'i flaen - plediodd o'n euog o'r dechre, gan dderbyn unrhyw ddedfryd y fyddai wedi ei rhoi iddo, er bod y bargyfreithiwr wedi dweud bod lle iddo apelio yn erbyn cyfnod y carchar - doedd o ddim isio i pobl feddwl ei fod wedi cael 2get away". Mi wnaeth ei gyfnod yn y carchar ei aeddfeu'n aruthrol, ers dod allan mae o wedi mynd yn nol i weithio i gwmni'r teulu, mae ganddo eisoes qualifications - fersiwn yr Alban o TGAU a Lefel A. Felly, mi ddysgodd o llawer iawn o'i gyfnod yn y carchar, mi welodd bod pethe da (fel teledu, cyfrifiadur ayyb) yn dod gyda pris - gwaith caled.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan huwwaters » Sad 01 Medi 2007 4:23 pm

Guardian a ddywedodd:Two-thirds of prisoners lack literacy skills. Who better to teach them to read than the other third?


O http://society.guardian.co.uk/crimeandpunishment/story/0,,1839078,00.html.

Y mwyaf addysgiedig mae'r person maent yn fwy tebygol o ddewis dull mwy heddychlon o fynd o gwmpas pethe.

Weles i hefo'n llygais fy hun yr upset achosodd cyfnod fy mrawd yng nghyfraith yn y carchar iddo fo a'i deulu.


Dyle fo ddim wedi meddwl am bethe felly cyn cael ei hun mewn i helynt?

Cwbwl mae nhw'n neud ydy gwobrwyo'r rhai hefo'r agwedd gorau - dydy mwyafrif y carcharorion ddim yn cael y driniaeth yma yn y math yma o garchar.


Tydi'r unigolion sydd efo'r agwedd gorau y tu allan i garchar ddim yn cael eu gwobrwyo o gwbwl.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan S.W. » Sad 01 Medi 2007 4:40 pm

huwwaters a ddywedodd:
Guardian a ddywedodd:Two-thirds of prisoners lack literacy skills. Who better to teach them to read than the other third?


O http://society.guardian.co.uk/crimeandpunishment/story/0,,1839078,00.html.

Y mwyaf addysgiedig mae'r person maent yn fwy tebygol o ddewis dull mwy heddychlon o fynd o gwmpas pethe.

Weles i hefo'n llygais fy hun yr upset achosodd cyfnod fy mrawd yng nghyfraith yn y carchar iddo fo a'i deulu.


Dyle fo ddim wedi meddwl am bethe felly cyn cael ei hun mewn i helynt?

Cwbwl mae nhw'n neud ydy gwobrwyo'r rhai hefo'r agwedd gorau - dydy mwyafrif y carcharorion ddim yn cael y driniaeth yma yn y math yma o garchar.


Tydi'r unigolion sydd efo'r agwedd gorau y tu allan i garchar ddim yn cael eu gwobrwyo o gwbwl.


Huw, dydy pawb yn y carchar ddim yn bobl sydd wedi dewis byw bywyd 'anheddychlon'. Dwi wedi dweud wrthat ti yn barod nad ydw i am drafod manylion achos fy mrawd yng nghyfraith ar fforwm gyhoeddus. Dydy hynny ddim yn deg ar fy nheulu. Ond digon yw dweud na benderfynodd o fynd allan a torri'r gyfraith, a bydde hi wedi bod yn ddigon hawdd i fi neu ti neu unrhyw un arall ar y maes yma fod yn yr un sefyllfa a fo. Doedd o ddim yn drug dealer, doedd o ddim yn lleidr, doedd o ddim yn lofrudd, doedd o ddim yn ymladd, ond mi ddigwyddodd rhywbeth fydd ar ei feddwl o am byth ac oherwydd natur y ddeddf yn y wlad hon mi aeth i'r carchar am gyfnod.

Mi gennyt ti lawr yn y carchar sydd yn cael addysg gwell na chawsant erioed, mae gennyt lawer yno sydd eisoes ag addysg safon uchel, roedd fy mrawd yng nghyfraith yn yr ail categori.

Mae dy ddelwedd o be ydy carcharoion yn hynod hynod anghywir mae arnai ofn Huw - pawb yn bobl ddrwg, heb addysg, a ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg. Nid dyna ydy realiti y sefyllfa. Oes mae llawer felly, ond mae llawer nad ydynt - 1 rhan o 3 os ydy dy ystagedau di iw credu.

Wan, petai pawb yn cael teledu ayyb am ddim yna byddai gennyt bwynt. Ond, dydy hynny ddim yn digwydd oni bai yn dy ben di ac yn y Daily Mail.
Ac wrth gwrs bod pobl hefo'r agwedd gorau yn cael eu gworbrwyo tu allan i carchar, os dwi'n gweithio digon caled dwi'n gwbod gallai fforddio mynd ar fy ngwiliau, os dwi ddim ellaim fforddio fo. Os dwi'm yn mynd i Efrog Newydd haf nesaf, nid bai rhywun arall fydd o, bai fi.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Nanog » Sad 01 Medi 2007 5:31 pm

S.W. a ddywedodd:
Cod: Dewis popeth
Ydy o ddiawl. Mae'n hawdd bowldio geiriau yma ac acw Nanog, ond heb i ti weld y bywyd mae person yn gorfod byw yn y sefyllfa yno does gen ti'n cliw am be ti'n son.


Pwy wyt ti i ddweud beth yw fy mhrofiade i neu unrhyw un arall 'ma? Rwyt yn adrodd rhyw anecdote personnol i geisio wneud dy bwynt. Dwi wedi stopio llefen nawr.

Huw, dydy pawb yn y carchar ddim yn bobl sydd wedi dewis byw bywyd 'anheddychlon'. Dwi wedi dweud wrthat ti yn barod nad ydw i am drafod manylion achos fy mrawd yng nghyfraith ar fforwm gyhoeddus. Dydy hynny ddim yn deg ar fy nheulu. Ond digon yw dweud na benderfynodd o fynd allan a torri'r gyfraith, a bydde hi wedi bod yn ddigon hawdd i fi neu ti neu unrhyw un arall ar y maes yma fod yn yr un sefyllfa a fo. Doedd o ddim yn drug dealer, doedd o ddim yn lleidr, doedd o ddim yn lofrudd, doedd o ddim yn ymladd, ond mi ddigwyddodd rhywbeth fydd ar ei feddwl o am byth ac oherwydd natur y ddeddf yn y wlad hon mi aeth i'r carchar am gyfnod.


Ti wnaeth adrodd y stori am dy frawd yng nghyfraith a dweud beth na wnaeth e' jysd er mwyn gwneud dy bwynt di.....efalle dyle ti ddim wedi son amdano as nad wyt am ddweud mwy o'r stori. Rwyt ti eisiau i ni deimlo tosturi drosto......ond mi wnaeth a bledio'n euog. Mi roedd felly wedi troseddu....a mwy na hynny, mi roedd ganddo'r bwriad i wneud hynny. Rhaid iddo wedyn gwynebu'r gosb. Os nad oedd yn euog, dyle fe wedi pledio'n ddi-euog.

Cod: Dewis popeth
Wan, petai pawb yn cael teledu ayyb am ddim yna byddai gennyt bwynt. Ond, dydy hynny ddim yn digwydd oni bai yn dy ben di ac yn y Daily Mail.


Rwy't ti yr un peth a'r gath nawr....os nad yw rhywun yn cytuno a ti, wedyn mae nhw'n darllen rhwy bapur arbennig .....change o cael eu cyhuddo o ddarllen y Guardian. Rwyt ti'n mynd yn bersonnol.

Y Pwynt roedd Huw yn gwneud oedd fod y carcharorion yn cael hi'n rhy hawdd.....a bod y swyddogion sy'n edrych ar eu hol yn cael amser caled oherwydd y diffyg disgybleth. Rwy'n cytuno. Rwy't ti'n dadlau yn erbyn hyn wrth ddweud fod aelod o dy deulu ddim yn cael teledu a playstaion ayyb yn eu cell. Bu'n rhaid i mi ail ddarllen beth wnes ti ysgrifennu rhag ofn fod rhyw ironi neu rhywbeth 'na......ond dim i'w weld. :? Mae dyn yn awr yn gallu chwarae Paystaion gymaint a myn e a gwylio'r teledu drwy'n dydd.....bydd hynny yn ddigon i'w gadw fe mas o'r triniaeth garw sydd yn bodoli y tu mewn i garchar. :D
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan S.W. » Sul 02 Medi 2007 7:40 am

Nanog, ti'n iawn, dydw i ddim yn gwybod be di dy brofiadau di, ond o be dwi wedi ei weld so far yn yr edefyn yma dydw i'm yn gweld llawer o brofiad oni bai am yr hyn wyt ti isio'i gredu. Gallai mond siarad am y prifiad sydd gen i o fewn y maes penodol hwn, ac o fewn yr un carchar. Hyd y gwn i gall pobl yn carchardai Altcourse, Strangeways, Brixton ayyb fod yn cael ufflon o amser da a hawdd, ond nid felly oedd y stori yn yr achos dwi wedi bod yn son, er gwaethaf dy ymrech i bowlio gwiriau unigol.

Mi roedd felly wedi troseddu....a mwy na hynny, mi roedd ganddo'r bwriad i wneud hynny. Rhaid iddo wedyn gwynebu'r gosb. Os nad oedd yn euog, dyle fe wedi pledio'n ddi-euog.


Mi droseddodd do, OND nath o ddim mynd ati i droseddu. Mi blediodd o'n euog gan bod be ddigwyddodd wedi digwydd a doedd o ddim am beri mwy o loes i pobl eraill oedd yn gysylltiedig a be ddigwyddodd. Sori os di hyn yn dod drosodd braidd yn cryptic, ond dyma'r gorau gallai wneud ar hyn o bryd. Mae o allan o'r carchar wan ond bydd ei fywyd byth yr un peth ag yr oedd o, am byth yn ei gof bydd be ddigwyddodd, a bydd o'n gorfod byw hefo hynny am byth - yn 24 oed mae hynny'n amser hir.

Oedd Huw yn dadlau bod carcharorion yn cael pethe'n rhy hawdd, mi anghytunais i drwy dangos profiadau personol, neu lledbersonol o leiaf gan na ddigwyddodd o i fi fy hun. Dwi wedi gwneud hi'n glir bod swyddogion carchardai yn haeddu mwy o gyflog nag y maen't yn ei gael rwan. Gallai ddychmygu bod gweithio mewn carchar yn rhywbeth intense iawn ar lefel corfforol a seicolegol - delio a trais, hunanladdiad ac ati. Dwi heb ddweud bod pawb mewn carchar yn byw bywyd heddychlon, yn edifarhau am be maent wedi ei wneud ayyb. Be dwi wedi ei ddweud ydy bod gennyt bobl yn cael 'treats', ond nid yw hynny'n wir am bob carcharor gan ddibynnu ar eu disgyblaeth eu hunain. Mae ne broblemau enfawr mewn carchardai - cyffuriau ac ati, felly wrth reswm di pawb o bell ffordd ddim yn byw bywyd heddychlon.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Mr Gasyth » Sul 02 Medi 2007 6:21 pm

I'r rheiny sy'n dadlau na ddylai carchrorion gael teledu/playstation etc yn eu cell, ydach hi'n meddwl fod swyddogion carchar yn cytuno efo chi? Go brin ddywedwn i achos os ydi carcharor yn gwylio teledu yna tydi o ddim yn cadw reiat nagydi. Mae'r carcharorion yn cal eu cadw'n ddiddan gymaint er lles y swyddogion ag er lles eu hunain. A fel mae SW wedi son, mae gwobrwyo ymddygiad da yn ysgogi ymddygiad da a felly yn gwneud gwaith y swyddogion yn haws.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Nanog » Llun 03 Medi 2007 8:46 am

Mr Gasyth a ddywedodd:I'r rheiny sy'n dadlau na ddylai carchrorion gael teledu/playstation etc yn eu cell, ydach hi'n meddwl fod swyddogion carchar yn cytuno efo chi? Go brin ddywedwn i achos os ydi carcharor yn gwylio teledu yna tydi o ddim yn cadw reiat nagydi. Mae'r carcharorion yn cal eu cadw'n ddiddan gymaint er lles y swyddogion ag er lles eu hunain. A fel mae SW wedi son, mae gwobrwyo ymddygiad da yn ysgogi ymddygiad da a felly yn gwneud gwaith y swyddogion yn haws.


Dwi ddim yn anghytuno. Ond dyw dim cael teledu neu Playstation ddim yn gwneud bywyd yn galed. Ac ers pryd y cafwyd carchardai sy'n bodoli er mwyn gwneud gwaith swyddogion yn hawdd? Nid dyna eu pwynt....
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Nanog » Llun 03 Medi 2007 1:24 pm

Dyma pam mae Brown yn gwrthod rhoi codiad i'r garfan 'ma....Mae'r heddlu yn awr yn dilyn yr un trywydd.

http://observer.guardian.co.uk/politics ... 65,00.html
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan huwwaters » Llun 03 Medi 2007 1:26 pm

Nanog a ddywedodd:Dyma pam mae Brown yn gwrthod rhoi codiad i'r garfan 'ma....Mae'r heddlu yn awr yn dilyn yr un trywydd.

http://observer.guardian.co.uk/politics ... 65,00.html


Mae'n debyg iawn i pobol tan, yn deud eu bod yn rhoi eu bywydau mewn peryg er mwyn gwneud y gwaith. A fydd pobol y fyddin yn gofyn am godiad rwan gan fod peryg iddynt farw?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron