Nanog a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:
Diom cweit mor ddu a gwyn a hynny Huw.
Mi fuodd fy mrawd yng nghyfraith yn y carchar Caeredin am 2 flynedd a hanner tan yn eitha diweddar. Tra yno mi weithiodd mewn sawl swydd yn y carchar, mi gadwodd ei ben i lawr a roedd ganddo berthynas dda hefo'r swyddogion. Roedd pobl fel fo oedd yn bihafio yn cael 'treats' - awr yn fwy o visiting, teledu a playstation yn eu cell, gweithio yn y swyddi gorau etc. Ond os oedd unrhyw gambihafio o unrhyw fath gan gynnwys peidio troi fynyn i'r gwaith, cadw gormod o swn etc yna byddant yn colli eu cell unigol, yn sicr yn colli'r defnydd o'r teledu etc ac yn colli eu swyddi, a ddim yn cael mynd i'r gym. Roedden nhw'n cael eu cadw ar lawr arwahan i'r carcharorion eraill. A fy rhieni yng nghyfraith oedd yn prynnu'r strwff i gyd iddo fo, doedden nhw'm yn cael eu rhoi am ddim gan y carchar.
Dim cweit rhywbeth mas o Papillon. Mwy tebyg i Gwersyll yr Urdd Llangrannog.
Ydy o ddiawl. Mae'n hawdd bowldio geiriau yma ac acw Nanog, ond heb i ti weld y bywyd mae person yn gorfod byw yn y sefyllfa yno does gen ti'n cliw am be ti'n son.
Weles i hefo'n llygais fy hun yr upset achosodd cyfnod fy mrawd yng nghyfraith yn y carchar iddo fo a'i deulu. Yn 21oed mi dderbyniodd ei gosb a mynd ati i wneud ei fywyd mor hawdd ag oedd on gallu. Fel pob carcharor newydd arall bu'n rhaid iddo fod ar y prif wing - rhannu cell, dim teledu, dim playstation, dim job, dim cael defnyddio'r gym a dim ond awr o visiting a wythnos. Bu'n rhaid iddo fo rhoi ei enw lawr i weithio - a gan bod o'n newydd roedd yn rhaid iddo ddechre ar y gwaelod - glanhau celloedd, glanhau'r toiledau ayyb. Pan oedd y swyddogion yn fwy bodlon gyda fo gafodd o symud i wing arall ond dal rhannu cell, yna cafodd o newid swydd, yna cafodd o gael teledu, yna cafodd o cell unigol, yna cafodd o playstation - ond pan oedd lightsout roedd rhain dal i gael eu diffodd hefyd, neu byddet ti'n eu colli, a gan bod ei deulu'n byw 3 awr i ffwrdd o'r carchar roedd on cael awr ychwanegol o visiting. Fel ddudis i, fy rhieni yng nghyfraith a fi a'i chwaer oedd yn prynnu'r stwff ma iddo fo nid y Gwasanaeth Carchardai.
Cwbwl mae nhw'n neud ydy gwobrwyo'r rhai hefo'r agwedd gorau - dydy mwyafrif y carcharorion ddim yn cael y driniaeth yma yn y math yma o garchar.
Dyle dy frawd yng nghyfraith ddim wedi bod yn ceisio gwella ei hun trwy rehabilitation yn darllen, a magu annibyniaeth barn cytbwys sy'n gallu gwahaniaethu rhwng da a drwg yn lle bod ar playstation?
Sori Huw a bob ddyledus barch ond ti'n byw mewn rhyw fyd naive iawn os ti'n wirioneddol credu hynny a bod pawb sydd yn y carchar ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg, ddim yn poeni am yr hyn mae nhw wedi ei wneud, yn menace i gymdeithas ac yn brin o addysg.
I ddechre nid rhyw lleidr, neu junky oedd fy mrawd yng nghyfraith, dwi'm am fynd i fewn i manylion yr achos ar fforwm gyhoeddus, dydy hynny ddim yn deg ar fy ngwraig sy'n deallt Cymraeg. Ond, digon yw dweud mae 'wrong place, wrong time', a rhywbeth gall fod wedi digwydd i ti neu i fi oedd o.
Pan ddaeth yr achos nath o ddim trio dianc o'r hyn oedd o'i flaen - plediodd o'n euog o'r dechre, gan dderbyn unrhyw ddedfryd y fyddai wedi ei rhoi iddo, er bod y bargyfreithiwr wedi dweud bod lle iddo apelio yn erbyn cyfnod y carchar - doedd o ddim isio i pobl feddwl ei fod wedi cael 2get away". Mi wnaeth ei gyfnod yn y carchar ei aeddfeu'n aruthrol, ers dod allan mae o wedi mynd yn nol i weithio i gwmni'r teulu, mae ganddo eisoes qualifications - fersiwn yr Alban o TGAU a Lefel A. Felly, mi ddysgodd o llawer iawn o'i gyfnod yn y carchar, mi welodd bod pethe da (fel teledu, cyfrifiadur ayyb) yn dod gyda pris - gwaith caled.