huwwaters a ddywedodd:Un o'r cwynion gan y swyddogion yw eu bod yn cael eu hymysod arnynt yn amal. A yw'r carcharwyr yn cael gormod o ryddid a hawliau?
Dwi di siarad efo sawl person sydd unai wedi bod mewn carchar, neu gweithio fel cytundebwr o fewn carchar, ac un o'r pethau oedd fwyaf o sioc iddynt oedd 'praint mor dda' yr oedden nhw'n ei gael hi y tu fewn.
Un o'r pethau yw amser bwyd - pres cyfartalog sy'n cael ei wario ar garcharor i de yw £4.50; y swm ar gyfer cleifion ysbytai a cartrefi hen bobol yn agosach i £2.50. Mae'r carcharwyr hefyd yn cael dewis be maent eisiau i'w fyta, yn ogystal yn cael rhywbeth tebyg i 3 course meal.
Nid celwydd yw hwn, fel asylum seekers yn cael pob math o freebies etc., ond yr hyn mae pobol wedi ei weld a'i brofi yno.
Diom cweit mor ddu a gwyn a hynny Huw.
Mi fuodd fy mrawd yng nghyfraith yn y carchar Caeredin am 2 flynedd a hanner tan yn eitha diweddar. Tra yno mi weithiodd mewn sawl swydd yn y carchar, mi gadwodd ei ben i lawr a roedd ganddo berthynas dda hefo'r swyddogion. Roedd pobl fel fo oedd yn bihafio yn cael 'treats' - awr yn fwy o visiting, teledu a playstation yn eu cell, gweithio yn y swyddi gorau etc. Ond os oedd unrhyw gambihafio o unrhyw fath gan gynnwys peidio troi fynyn i'r gwaith, cadw gormod o swn etc yna byddant yn colli eu cell unigol, yn sicr yn colli'r defnydd o'r teledu etc ac yn colli eu swyddi, a ddim yn cael mynd i'r gym. Roedden nhw'n cael eu cadw ar lawr arwahan i'r carcharorion eraill. A fy rhieni yng nghyfraith oedd yn prynnu'r strwff i gyd iddo fo, doedden nhw'm yn cael eu rhoi am ddim gan y carchar.
Mae pobl yn licio honi bod carchar fel holiday camp ond y gwir ydy ei bod yn bell o fod fel yne, dim ond wrth fihafio dech chi#n cael unrhyw perks.
Dwi yn credu bod y Swyddogion yn cael eu trin yn wael serch hynny, yn enwedig yn yr achos yma. Mae'r gwaith mae nhw'n ei wneud yn anodd uffernol, yn gorfforol ac yn emosiynol. Swn i'm yn licio gweld rhwun wedi crogi ei hun, delio hefo rhywun sydd wedi cael ymosodiad difrifol na chwaith clywed beth mae rhai or pobl sydd yn y carchar wedi ei wneud. Flly,n sicr o ran hynny dylsant gael codiad cyflog i gyfleu hynny.