Beth ddigwyddodd i etifeddiaeth Diana: Tywysoges Cymru?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth ddigwyddodd i etifeddiaeth Diana: Tywysoges Cymru?

Postiogan Pryderi » Gwe 31 Awst 2007 4:22 pm

Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn ni ddim ei ffan mwya o'r cychwyn. Serch hynny, roedd ei hymroddiad tuag at bobl llai ffodus, boed yn wahanglwyfion, neu yn bobl sydd yn byw ag AIDS, neu yn bobl oedd wedi eu hanafu gan landmines yn ysbrydoliaeth.

Deng mlynedd yn ddiweddarach, beth ddigwyddodd i'r etifeddiaeth hwn? Mae problemau fel AIDS a rhyfeloedd sydd yn lladd plant diniwed mor ddwys ag erioed. Onid y trasiedu mwya yw ein bod ni'n wlad sydd mor hunanol fel ein bod yn canolbwyntio cymaint ar ein bywydau ein hunain ar draul ystyried pobl llai ffodus?

Os gall adfywio etifeddiaeth Diana ail-gynnau diddordeb y cyhoedd yn y materion hyn, gall hynny ddim ond bod er gwell.
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Postiogan Macsen » Sad 01 Medi 2007 12:18 am

Petai fi'n filiwnydd di-waith dwi'n siwr y byddwn i'n ffeindio amser i gefnogi cwpwl o elusennau hefyd - tra'n byw bywyd gwastraffus ac afradlon fel Diana wrth gwrs.

Yr unig reswm roedd Diana yn ymddangos yn berson hynod elusengar oedd oherwydd bod gweddill y teulu brenhinol yn gybyddion mwyaf ewrop.

Os nad ydym ni'n medru mynd i'r afael a phroblemau AIDS heb i ryw seleb hanner pan ein annog ni gyntaf duw a'n helpo ni.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan rooney » Sul 02 Medi 2007 5:31 pm

I'r rhai sydd am ymosod ar ymdrechion Diana: faint o amser neu arian ydych chi'n rhoi tuag at achosion da?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan ffwrchamotobeics » Sul 02 Medi 2007 6:16 pm

rooney a ddywedodd:I'r rhai sydd am ymosod ar ymdrechion Diana: faint o amser neu arian ydych chi'n rhoi tuag at achosion da?


mwy na ti, sy'n gwastraffu dy amser ar dy benglinie drw'r dydd.
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan Mr Gasyth » Sul 02 Medi 2007 6:23 pm

rooney a ddywedodd:I'r rhai sydd am ymosod ar ymdrechion Diana: faint o amser neu arian ydych chi'n rhoi tuag at achosion da?


Fel dduddodd Macsen, nid pawb syd gan gymaint o bres ac amser a'r teulu brenhinol rooney :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dylan » Sul 02 Medi 2007 7:20 pm

mae Diana DAL wedi marw? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 02 Medi 2007 8:04 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Fel dduddodd Macsen, nid pawb syd gan gymaint o bres ac amser a'r teulu brenhinol rooney :rolio:


Beth sydd gen hynny i'w wneud hefo eich cyfraniad chi yn y 10 mlynedd ers iddi hi farw? Erioed wedi meddwl faint o % o'ch amser/arian chi'n ei roi tuag at eraill heb ddisgwyl dim yn ol?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Sul 02 Medi 2007 8:14 pm

ffwrchamotobeics a ddywedodd:mwy na ti, sy'n gwastraffu dy amser ar dy benglinie drw'r dydd.


ymosodiad cwbl hurt, gan yn y byd real mae'r bobl o ffydd yr wyt ti'n ei speitio ar y cyfan yn cyfrannu'n hael o'u amser ac arian tuag at achosion da. Hyd yn oed os ddim lot mae'n fwy na DIM sydd yn wir am lot o bobl. Ac fel arfer mae'r rhai mwyaf hael ddim yn mynd rownd yn brolio eu cyfraniad, ddim yn disgwyl dim yn ol, a ddim yn gwneud ymosodiadau hurt tuag at bobl fel Diana sydd wedi ysbrydoli miliynau hefo'i gwaith
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan ffwrchamotobeics » Sul 02 Medi 2007 9:40 pm

Dylan a ddywedodd:mae Diana DAL wedi marw? :?


Na, mi nath hi atgyfodi y dydd sul wedyn.
Hold on, ma hynna'n amhosib. O...
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan Macsen » Llun 03 Medi 2007 8:36 am

Wel dw i wedi bod i Affrica i helpu i adeiladu ysgol a ballu... ond fe es i'n bennaf am y white water rafting felly allai'm hawlio'r tir uchel moesol.

Eniwe, dyma un neges yn ormod mewn edefyn am Diana. Mae hi'n byw gyda Elvis a Lord Lucan ar y lleuad a dyw hi ddim yn dod nol bobol, anghofiwch hi.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron