Roedd Diana Spencer wedi helpu llawer o’r elusennau, ac mae 'na lawer o elusennau wedi elwa o’i chefnogaeth. Ond yr anfantais yw bod nawr, mae 'na lawer o elusennau yn dibynnu ar gefnogaeth seleb’s er mwyn creu ymwybyddiaeth. Cyn belled bod nhw gwneud gyda phlant, anifeiliaid neu’r trydydd byd, bydd na lawer yn reit hapus i gefnogi. Ond mae 'na lawer o rai eraill fe wneith sêr peidio mynd agos atynt fel iechyd meddyliol (Dwi’n aros i weld os bydd Beckhams yn trefnu un o’u World Cup Celebrity Charity Gala ar gyfer elusennau i helpu bobl sydd a schizophrenia). Felly mae'r rhain yn colli allan.
Blwyddyn ddiwethaf mi wnes Hanner Marathon Caerdydd a noddi fy hun ar gyfer cronfa sydd yn helpu merched sydd wedi ei herwgipio mewn i ddiwydiant rhyw ym Mhrydain. Yn y diwedd, fe godais bron £200. Nawr mae’n siŵr mae hynny yn ddigon tila mewn cymhariaeth i be fyddai Diana wedi codi. Ond dwi’n credu buasai cronfa fel yna yn cael problemau i gael cefnogaeth gan ‘seleb’s fel Diana achos pa rai sydd eisiau cysylltu eu hunain gyda phuteinwyr ? Nawr dwi’m yn disgwyl ryw ddiolch neu unrhyw werthfawrogiad am godi pres i’r gronfa, yr unig reswm mi benderfynais i noddi fy hun achos roeddwn yn meddwl bod hi’n warthus y dyddiau hyn fod caethiwaeth dal yn bodoli ym Mhrydain.
Ond y bôn, dim ond cwpl o photo-opps ‘odd nhw tra bod rhywun fel y Fam Teresa (a hunodd tua deuddydd ar ôl Diana) wedi gwario ei bywyd gyda’r bobl dlawd yn ninasoedd India. Dynes oedd yn gwneud pethau gwirion ac ar adegau yn hapus i ddefnyddio’r cyfryngau i beth oedd yn siwtio hi.