Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn ni ddim ei ffan mwya o'r cychwyn. Serch hynny, roedd ei hymroddiad tuag at bobl llai ffodus, boed yn wahanglwyfion, neu yn bobl sydd yn byw ag AIDS, neu yn bobl oedd wedi eu hanafu gan landmines yn ysbrydoliaeth.
Deng mlynedd yn ddiweddarach, beth ddigwyddodd i'r etifeddiaeth hwn? Mae problemau fel AIDS a rhyfeloedd sydd yn lladd plant diniwed mor ddwys ag erioed. Onid y trasiedu mwya yw ein bod ni'n wlad sydd mor hunanol fel ein bod yn canolbwyntio cymaint ar ein bywydau ein hunain ar draul ystyried pobl llai ffodus?
Os gall adfywio etifeddiaeth Diana ail-gynnau diddordeb y cyhoedd yn y materion hyn, gall hynny ddim ond bod er gwell.