Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 12:36 pm
gan Madrwyddygryf
Roedd Diana Spencer wedi helpu llawer o’r elusennau, ac mae 'na lawer o elusennau wedi elwa o’i chefnogaeth. Ond yr anfantais yw bod nawr, mae 'na lawer o elusennau yn dibynnu ar gefnogaeth seleb’s er mwyn creu ymwybyddiaeth. Cyn belled bod nhw gwneud gyda phlant, anifeiliaid neu’r trydydd byd, bydd na lawer yn reit hapus i gefnogi. Ond mae 'na lawer o rai eraill fe wneith sêr peidio mynd agos atynt fel iechyd meddyliol (Dwi’n aros i weld os bydd Beckhams yn trefnu un o’u World Cup Celebrity Charity Gala ar gyfer elusennau i helpu bobl sydd a schizophrenia). Felly mae'r rhain yn colli allan.

Blwyddyn ddiwethaf mi wnes Hanner Marathon Caerdydd a noddi fy hun ar gyfer cronfa sydd yn helpu merched sydd wedi ei herwgipio mewn i ddiwydiant rhyw ym Mhrydain. Yn y diwedd, fe godais bron £200. Nawr mae’n siŵr mae hynny yn ddigon tila mewn cymhariaeth i be fyddai Diana wedi codi. Ond dwi’n credu buasai cronfa fel yna yn cael problemau i gael cefnogaeth gan ‘seleb’s fel Diana achos pa rai sydd eisiau cysylltu eu hunain gyda phuteinwyr ? Nawr dwi’m yn disgwyl ryw ddiolch neu unrhyw werthfawrogiad am godi pres i’r gronfa, yr unig reswm mi benderfynais i noddi fy hun achos roeddwn yn meddwl bod hi’n warthus y dyddiau hyn fod caethiwaeth dal yn bodoli ym Mhrydain.

Ond y bôn, dim ond cwpl o photo-opps ‘odd nhw tra bod rhywun fel y Fam Teresa (a hunodd tua deuddydd ar ôl Diana) wedi gwario ei bywyd gyda’r bobl dlawd yn ninasoedd India. Dynes oedd yn gwneud pethau gwirion ac ar adegau yn hapus i ddefnyddio’r cyfryngau i beth oedd yn siwtio hi.

Re: Beth ddigwyddodd i etifeddiaeth Diana: Tywysoges Cymru?

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 4:46 pm
gan Mali
Pryderi a ddywedodd:Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn ni ddim ei ffan mwya o'r cychwyn. Serch hynny, roedd ei hymroddiad tuag at bobl llai ffodus, boed yn wahanglwyfion, neu yn bobl sydd yn byw ag AIDS, neu yn bobl oedd wedi eu hanafu gan landmines yn ysbrydoliaeth.

Deng mlynedd yn ddiweddarach, beth ddigwyddodd i'r etifeddiaeth hwn? Mae problemau fel AIDS a rhyfeloedd sydd yn lladd plant diniwed mor ddwys ag erioed. Onid y trasiedu mwya yw ein bod ni'n wlad sydd mor hunanol fel ein bod yn canolbwyntio cymaint ar ein bywydau ein hunain ar draul ystyried pobl llai ffodus?

Os gall adfywio etifeddiaeth Diana ail-gynnau diddordeb y cyhoedd yn y materion hyn, gall hynny ddim ond bod er gwell.


Neges ddiddorol Pryderi. Oedd , mi 'roedd gwaith Diana yn 'ysbrydoliaeth' . Doedd ddim rhaid iddi weithio'n agos ,a chyfarfod â phobl 'llai ffodus' yn ein cymdeithas , ond mi fentraf ddweud fod ganddi empathy.

Gobeithio'n wir y bydd y gwaith a ddechreuwyd ganddi, yn parhau i wneud gwahaniaeth .

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 9:08 pm
gan Positif80
Madrwyddygryf a ddywedodd:y Fam Teresa


dyna 'chdi ast bach erchyll - ond mae hynna'n stori arall.

PostioPostiwyd: Llun 03 Medi 2007 9:47 pm
gan Mali
Positif80 a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:y Fam Teresa


dyna 'chdi ast bach erchyll - ond mae hynna'n stori arall.


:? :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 04 Medi 2007 12:18 am
gan Positif80

PostioPostiwyd: Maw 04 Medi 2007 12:57 am
gan Dylan
Mali a ddywedodd:
Positif80 a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:y Fam Teresa


dyna 'chdi ast bach erchyll - ond mae hynna'n stori arall.


:? :rolio:


o ddifri

PostioPostiwyd: Maw 04 Medi 2007 12:45 pm
gan Madrwyddygryf
Wel oce, nid oedd y Fam Teresa yr enghraifft gorau. Ond rydym yn mynd i ffwrdd o'r pwnc nawr.

Dwi'n cofio pan oeddwn yn blentyn yn Ysgol Twm o'r Nant Dinbych, roedd Diana yn pasio drwadd (pam dwi'm yn gwbod). Felly roedd nhw'n disgwyl i'r plant dod allan i dweud helo i hi. Ond dywedodd y Prifathro i ni nad oes angen i chi fynd i weld hi os nad ydych eisiau. A dwi dal yn falch hyd heddiw i ddweud mi wrthodais i fynd. :D

PostioPostiwyd: Maw 04 Medi 2007 2:42 pm
gan Llewelyn Richards
Mae dy fedal yn y post, Madrwydd. :winc:

Yr eironi yw pe bai'r holl ffyliaid yna wariodd ffortiwn (mae'n siwr bod o'n ddegau os nad cannoedd o filoedd) ar osod blodau yn y parc ar ol i Diana farw wedi rhoi'r arian i'r elusennau roedd hi'n cael tynnu ei llun ar eu cyfer, byddai'r byd wedi bod yn lle gwell am rywfaint bach, o leiaf.

PostioPostiwyd: Maw 04 Medi 2007 2:51 pm
gan nicdafis
Madrwyddygryf a ddywedodd:[..] roedd Diana yn pasio drwadd (pam dwi'm yn gwbod).


Oedd ei gyrrwr siwr o fod yn pishd.

PostioPostiwyd: Maw 04 Medi 2007 3:51 pm
gan Mali
Positif80 a ddywedodd:Gwylia hwn. Efalla fydd na llai o :? :rolio: wedyn. :?

http://youtube.com/watch?v=8q1m-8npkJ4
http://youtube.com/watch?v=hmAEPrALVjM& ... ed&search=


Os fasa ti 'di egluro dy hun yn y lle cyntaf, faswn i ddim wedi gorfod trafferthu i ddefnyddio'r :? a'r :rolio: ..... :winc:
Eniwe, diolch am yr uchod . Doeddwn i erioed wedi gweld na darllen ddim byd fel hyn am y Fam Teresa.
Er hynny, mae'n well gen i gadw meddwl agored...