Mali a ddywedodd:Neu i ofyn cwestiwn arall....pam fod rhaid fod yn gas a chrafu o gwmpas er mwyn medru pardduo enw pobl sydd wedi gwneud gwaith da?
hoffwn gynnig eglurhad
mae positif80, dylan, hitchens, dawkins a pobl tebyg gyda agenda gwrth-Gristnogol. Anodd dweud yn union beth yw achos eu chip nhw yn erbyn Iesu Grist, yr Eglwys fyd-eang, Cristnogion, y Beibl... anodd iawn dweud. Falle fod Cristion wedi dwyn eu uwd un tro? Pwy a wyr. (Yn amlach na pheidio, diddorol yw nodi fod y pobl yma wedi cael cefndir Cristnogol.)
Mae nhw'n mynd ati i ymgyrchu yn erbyn Cristnogaeth fel hyn:
1. Fe wnan nhw gefnogi unrhyw fudiad, plaid wleidyddol, unrhywbeth sydd yn mynd groes i'r Beibl. Mae nhw'n neidio ar y bandwagon seciwlar er mwyn tynnu Cristnogaeth allan o bob dim. Mae nhw am weld dylanwad y Beibl yn cael ei dynnu allan o'n cymdeithas yn llwyr, yn wir fe fydde nhw'n hapus pe bai'r Beibl yn cael ei wneud yn anghyfreithlon.
2. Fe wnan nhw fynd allan o'u ffordd i chwarae lawr a gwadu cyfraniadau positif Cristnogaeth tuag at unrhywbeth, a phardduo eglwysi ac unigolion. Gweler fod nhw'n ymgeisio i bardduo y Fam Teresa yn yr edefyn yma.
Cwestiwn: gwaith pwy mewn gwirionedd mae nhw'n ei wneud? Pwy mae nhw'n plesio, tybed?
Ond mae newydd da, newydd da iawn.... ond nid iddyn nhw, os yw nhw'n bwriadu cario mlaen i fod yn bengaled. Y newydd da yw, eu bod nhw'n cwffio yn erbyn Eglwys fyd-eang sydd ddim am ddiflannu, yn union fel nad yw'r bobl Iddewig heb ddiflannu er gwaethaf pawb a phopeth yn trio eu difa ers miloedd o flynyddoedd, a cofiwch mae nhw wedi dod trwy yr holocaust hyd yn oed. Mae Eglwys fyd-eang Crist am fod yma tan ddychweliad Crist. Wneith yr atheists na'r crefyddau eraill ddim llwyddo i'w ddymchwel. Nid yw'r Beibl yn honni y bydd pawb yn troi at Grist, ddim o gwbl! Fe fydd llawer yn ei wrthod, llawer yn ei erlid. Yn y pendraw, brwydro yn erbyn eu hunain mae'r pobl yma. Mae nhw'n spinio popeth, camddehongli popeth, er mwyn trio cyfiawnhau eu hunain... ond wneith eu "rhesymeg" ddim eu achub. Gweddiwn y bydd y gwir, yr unig wir, yn dod i'r amlwg iddynt, y ffeindia nhw ostyngeidrwydd i'w dderbyn, ac y ceith nhw droedigaeth fel Paul ar y lon i Ddamascus.