Northern Rock

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan dienw » Maw 18 Medi 2007 2:43 pm

Gethin Ev a ddywedodd:Gan fy mod i hollol loaded, surely mae o yn adag da i fi prynnu shares yn Northen Rock 'wan?


Ia, gwna ar bob cyfri, a rho wybod pan ti di gneud miliwn arall. ;-) :lol:
dienw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Sad 22 Gor 2006 8:24 pm
Lleoliad: Canada

Postiogan Nanog » Maw 18 Medi 2007 3:25 pm

dienw a ddywedodd:
Ond mae N.R. yn benthyg 125% i gwsmeriaid yn fater arall. Nid cwsmeriaid N.R. yn mynd yn fethdalwyr ydi achos y trafferthion presennol.


Mi wnes i ddarllen am hyn yn y wasg. Dwi ddim yn meddwl fod y ffaith uchod ym mynd i leddfu gofid cwsmeriaid NR. Doeddwn i ddim yn gwybod am beth wyt ti'n dweud am Lehman Brothers. Diddorol! Ond y ffaith yw, mae na fenthyg anghyfrifol wedi mynd ymlaen am sawl blwyddyn bellach. Mi fyddwn i hyd yn oed yn galw'r ffenomenom yn 'wallgofrwydd'. Rwy'n meddwl bydd y sefyllfa yn mynd llawer gwaeth cyn iddi wella..... :(
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Be dach chi'n ddisgwyl?

Postiogan chutneyferret » Mer 26 Medi 2007 7:31 am

Am gymhariaeth rhwng ymateb y llywodraeth i argyfwng Northern Rock a Farepak, gweler http://www.davidosler.com/2007/09/the_c ... #trackback

Difyr hefyd fod miliwnyddion yn talu llai o drethi na'u glanhawyr. Rhyfedd o fyd.
chutneyferret
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 146
Ymunwyd: Mer 02 Tach 2005 2:04 pm

Re: Be dach chi'n ddisgwyl?

Postiogan rabscaliwn » Sad 20 Hyd 2007 11:00 am

chutneyferret a ddywedodd:Am gymhariaeth rhwng ymateb y llywodraeth i argyfwng Northern Rock a Farepak, gweler http://www.davidosler.com/2007/09/the_c ... #trackback

Difyr hefyd fod miliwnyddion yn talu llai o drethi na'u glanhawyr. Rhyfedd o fyd.
Ie, ond ma'r erthygl uchod yn colli'r pwynt. Ma' cynilwyr banc yn wahanol i gwsmeriaid Farepak achos dim cynilo o'n nhw'n neud i bob pwrpas, ond prynu nwyddau Farepak - neu eu gwasanaeth. Ac mae pensiynau yn 'risk-based'. All y llywodraeth ddim gwarantu rhain i gyd neu byddai pawb yn taflu eu arian ar y farchnad stoc, yn cymryd risgiau mawr gan ddisgwyl 'bail-out' yn y diwedd. Ac mae'n rhaid cofio mai buddsoddwyr yn cymryd gormod o risg sy'n rhanol gyfrifol am greu'r sefyllfa gyda Northern Rock yn y lle cyntaf.
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

Postiogan Nanog » Maw 13 Tach 2007 9:29 am

Gwyliwch hwn.

http://www.youtube.com/watch?v=SJ_qK4g6ntM

Esboniad ardderchog o'r creisis 'sub-prime'.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron