Northern Rock

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Northern Rock

Postiogan SbecsPeledrX » Llun 17 Medi 2007 7:11 pm

Dwi'n dallt pobl sydd a cynilon yn panicio - er mae mass hysteria wedi ei yrru han y wasg fel sy'n digwydd rwan yn mynd ar fy nerfau yn arw.

Mae fy morgais gyda nhw. A dwi'n gweld pobl sydd a morgais gyda nhw yn dechrau panicio rwan. Pam?

Y ffordd dwi'n ei gweld hi, fi sydd arnyn nhw pres. Os nawn nhw ddiflanu (anhebygol dwi'n gwbod) fedraim gweld unrhywbeth heblaw budd i mi. Yn enwedig os yw aelod pissed off o staff yn trashio eu holl cofnodion :lol:

Fel sosialydd dwi'n gweld corwynt yn dwad i greu hafoc yn y ddinas rwan.

Ond pam ddiawl bo pobl sy'n owio pres i NR yn panicio? Fi sy'n ddall ta be?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan huwcyn1982 » Llun 17 Medi 2007 7:26 pm

Tan pnawn ma, mond pobl efo £2000 neu llai oedd yn sicr o gadw pob ceiniog os ddaru'r Northern Rock fynd yn "insolvent". Sdim lawer o siawns o hynny, chwaith. Drost £2000 a tua 90% oeddech chi'n siwr o gael nol.

O be dwi'n deall, mae'r llywodraeth di roi mwy o help i cwsmeriaid heddiw trwy sicrhau ni fydd unrhywun yn colli mas.

Ond be sgen y wasg i neud hefo cwsmeriaid yn tynnu allan arian? Natur dynol dio, 'na gyd. Roedd y rhesi o bobl yna cyn i'r camerau troi fynny. Mae'r un fath a "panic buying" cyn corwynt/rhyfel/prinder petrol.

Baswn i'n tynnu'n arian allan os oedd cyfrif Northern Rock gen i, er gwaetha holl eiriau cefnogol gwleidyddion a bosys y banc.
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Llefenni » Llun 17 Medi 2007 7:36 pm

Fel arfer, mae fy arwr Martin Lewis yn lais clir ynghanol y gwallgofrwydd...

http://www.moneysavingexpert.com/banking/Northern-Rock-Crisis


:D Delwedd
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan Chip » Llun 17 Medi 2007 7:39 pm

beth aeth yn anghywir i dechrau'r peth?
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Postiogan Llefenni » Llun 17 Medi 2007 7:42 pm

Mega Martin a ddywedodd:This was originally caused by Northern Rock deciding, for safety’s sake, to open up what's effectively an overdraft facility with the Bank of England. It did this because the US credit crunch means it's difficult for banks to borrow money from other financial institutions at the moment, so it wanted the facility just in case it was needed.
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Postiogan dienw » Maw 18 Medi 2007 2:47 am

Chip a ddywedodd:beth aeth yn anghywir i dechrau'r peth?


Yn y bôn, mae Northern Rock, fel llawer o fanciau eraill yn y busnes o fenthyg i pres i bobl trwy forgeisi ac yn y blaen. Di'r rhan fwyaf o bobl ddim yn sylwi fod y banciau eu hunain hefyd yn gorfod benthyg arian gan fanciau a sefydliadau eraill er mwyn gallu gwneud hyn (ond ar gyfradd llog is).

Y broblem gafodd y Northern Rock oedd eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd i fenthyg yr arian yr oedden nhw angen, oherwydd yr holl firi efo morgeisi "sub prime" yn UDA. Golyga hyn nad oedd ganddyn nhw ffynhonnell o arian ar gyfer morgeisi newydd, ac yn y pendraw, dyma ydi bara menyn y banc.

Mae Sbecs yn iawn, does na ddim peryg eith N.R. i'r wal. Ond mae pobl fel lemmings ac yn gwneud pethau hurt heb feddwl pam, dim ond am fod y boi drws nesa wedi gwneud yr un peth.

Y broblem rwan ydi fod "brand" Northern Rock yn ddiwerth oherwydd yr holl ymdrech nath y cyfryngau i ddychryn pobl. Mi fydd na fanc arall yn prynu'r gweddillion cyn bo hir a mi fydd yr enw Northern Rock yn mynd i ebargofiant.
dienw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Sad 22 Gor 2006 8:24 pm
Lleoliad: Canada

Postiogan Nanog » Maw 18 Medi 2007 9:59 am

dienw a ddywedodd:Yn y bôn, mae Northern Rock, fel llawer o fanciau eraill yn y busnes o fenthyg i pres i bobl trwy forgeisi ac yn y blaen. Di'r rhan fwyaf o bobl ddim yn sylwi fod y banciau eu hunain hefyd yn gorfod benthyg arian gan fanciau a sefydliadau eraill er mwyn gallu gwneud hyn (ond ar gyfradd llog is).

Y broblem gafodd y Northern Rock oedd eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd i fenthyg yr arian yr oedden nhw angen, oherwydd yr holl firi efo morgeisi "sub prime" yn UDA. Golyga hyn nad oedd ganddyn nhw ffynhonnell o arian ar gyfer morgeisi newydd, ac yn y pendraw, dyma ydi bara menyn y banc.

Mae Sbecs yn iawn, does na ddim peryg eith N.R. i'r wal. Ond mae pobl fel lemmings ac yn gwneud pethau hurt heb feddwl pam, dim ond am fod y boi drws nesa wedi gwneud yr un peth.



...ond dim ond rhan o'r gwirionedd yw hynna. Mewn modd anuniongyrcholm mae Northern Rock wedi bod yn benthyg arian i bobl yn yr UDA i brynnu tai.....pobl oedd a fawr o obaith i gadw i fyny gyda'r taliadau os byddai cyfraddau llog yn codi. A dyna sydd wedi digwydd. Ti'n iawn fod pobl fel lemmings ond nid o reidrwydd achos eu bod yn tunnu arian allan o NR ond achos eu bod.....fel mae pobl wedi gwneud erioed - cael eu dal lan mewn rhyw frenzy fel y .com neu prisiau Tulip bulbs neu'n awr prisiau tai. Yn yr holl engreifftiau yma, mae pobl sy'n gysylltiedig a hwy wedi mynnu taw dim ond lan bydd prisiau yn mynd. Hyd yn oed eleni, wedi blynydde o brisiau tai yn codi, mi roedd NR yn fodlon benthyg 125% gwerth y tai roedd eu cwsmeriaid eisiau prynnu. Pobpeth yn iawn.....tra bod prisiau yn codi. Ond dyw prisiau byth wedi mynd un ffordd erioed......Dim jysd NR sydd wedi bod yn euog o'r arferion o'r math 'ma ac mae llawer mwy o fethdalwyr i ddod i'r amlwg yn y misoedd nesaf.
Golygwyd diwethaf gan Nanog ar Maw 18 Medi 2007 10:23 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan huwwaters » Maw 18 Medi 2007 10:18 am

Yn lle benthyg fyny at y swm mae pobol yn cadw yn y banc, maent hefyd wedi bod yn ceisio gwneud pres trwy rhoi'r pres mae pobol yn cadw efo nhw ar y cyfnewidfa sdoc, i geisio gneud ceiniog neu ddwy. Pan mae dulliau fel yma'n methu yna mae'r banc yn gorfod ffindio ffordd o gael gafel ar fwy o bres.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Gethin Ev » Maw 18 Medi 2007 12:03 pm

Gan fy mod i hollol loaded, surely mae o yn adag da i fi prynnu shares yn Northen Rock 'wan?
".....then I would go to jail, I'd be buggered.......daily."
Rhithffurf defnyddiwr
Gethin Ev
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1248
Ymunwyd: Maw 15 Ebr 2003 10:02 am

Postiogan dienw » Maw 18 Medi 2007 2:41 pm

Nanog a ddywedodd:...ond dim ond rhan o'r gwirionedd yw hynna. Mewn modd anuniongyrcholm mae Northern Rock wedi bod yn benthyg arian i bobl yn yr UDA i brynnu tai.....pobl oedd a fawr o obaith i gadw i fyny gyda'r taliadau os byddai cyfraddau llog yn codi. A dyna sydd wedi digwydd.


Cywir i raddau, ond mi oedd Northen Rock yn pasio ei holl forgeisi sub-prime i Lehman Brothers ac felly Lehman sydd yn 'sgwyddo'r faich.

Nanog a ddywedodd:Ti'n iawn fod pobl fel lemmings ond nid o reidrwydd achos eu bod yn tunnu arian allan o NR ond achos eu bod.....fel mae pobl wedi gwneud erioed - cael eu dal lan mewn rhyw frenzy fel y .com neu prisiau Tulip bulbs neu'n awr prisiau tai. Yn yr holl engreifftiau yma, mae pobl sy'n gysylltiedig a hwy wedi mynnu taw dim ond lan bydd prisiau yn mynd.


Ond dyna fy mhwynt i. Petai pobl yn meddwl 'chydig cyn brysio i neud y petha ma a "cael eu dal lan mewn rhyw frenzy" boed hynny'n diwlips, tai, cysyniadau .com bregus, neu ciwio drwy'r nos i dynnu arian o'r N.R., mi fysa na fodd osgoi'r holl banic. A mi fasa gwrando llai ar y cyfryngau yn help hefyd ;-)

Nanog a ddywedodd:Hyd yn oed eleni, wedi blynydde o brisiau tai yn codi, mi roedd NR yn fodlon benthyg 125% gwerth y tai roedd eu cwsmeriaid eisiau prynnu. Pobpeth yn iawn.....tra bod prisiau yn codi. Ond dyw prisiau byth wedi mynd un ffordd erioed......Dim jysd NR sydd wedi bod yn euog o'r arferion o'r math 'ma ac mae llawer mwy o fethdalwyr i ddod i'r amlwg yn y misoedd nesaf.


Ond mae N.R. yn benthyg 125% i gwsmeriaid yn fater arall. Nid cwsmeriaid N.R. yn mynd yn fethdalwyr ydi achos y trafferthion presennol.
Golygwyd diwethaf gan dienw ar Maw 18 Medi 2007 3:13 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
dienw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Sad 22 Gor 2006 8:24 pm
Lleoliad: Canada

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron