Synnu bod neb wedi postio unrhywbeth am hyn yn barod, ond mae dyn o Gernyw wedi ei arestio yn ddiweddar mewn cysylltiad gyda mudiad terfysgol Cernywaidd. Dydi e ddim yn swnio fel fod yr Heddlu wedi cael y boi iawn ac fel a ddigwyddodd yma yng Nghymru rhyw ddeng mlynedd yn ôl, eu bod nhw yn cyhuddo'r person anghywir.
Mae'r Cornish National Liberation Front wedi cael cyhoeddusrwydd gan bapurau Llundain yn ddiweddar ar ôl gwneud bygythiadau eu bod nhw am losgi lawr bwytai Jamie Oliver a Rick Stein yng Nghernyw.
Mae nhw'n honni ei bod nhw wedi derbyn hyfforddiant gan yr FWA, felly dwi ddim yn siwr os taw grwp o filitanants peryglus ydi nhw neu un dyn a chyfrifadur.