Tudalen 1 o 1

Cornish National Liberation Army

PostioPostiwyd: Llun 24 Medi 2007 11:40 am
gan Mihangel Macintosh
Synnu bod neb wedi postio unrhywbeth am hyn yn barod, ond mae dyn o Gernyw wedi ei arestio yn ddiweddar mewn cysylltiad gyda mudiad terfysgol Cernywaidd. Dydi e ddim yn swnio fel fod yr Heddlu wedi cael y boi iawn ac fel a ddigwyddodd yma yng Nghymru rhyw ddeng mlynedd yn ôl, eu bod nhw yn cyhuddo'r person anghywir.

Mae'r Cornish National Liberation Front wedi cael cyhoeddusrwydd gan bapurau Llundain yn ddiweddar ar ôl gwneud bygythiadau eu bod nhw am losgi lawr bwytai Jamie Oliver a Rick Stein yng Nghernyw.

Mae nhw'n honni ei bod nhw wedi derbyn hyfforddiant gan yr FWA, felly dwi ddim yn siwr os taw grwp o filitanants peryglus ydi nhw neu un dyn a chyfrifadur.

PostioPostiwyd: Llun 24 Medi 2007 11:48 am
gan Macsen
Dio'm yn anodd darganfod pwy sydd tu ol i'r peth. Mae gyda nhw grwp Facebook! :ofn:

PostioPostiwyd: Llun 19 Tach 2007 8:17 pm
gan Gwenci Ddrwg
Ond os ydy ffyrdd arall ddim yn effeithiol...mae rhaid i chi geisio i ddall eu rhesymau. Mae Lloegr yn greu bethau fel hwn, yn anuniongyrchol (mae Cernyw wedi cael ei ffwcing wp gan y Saeson yn waith 'na Cymru) . Felly, dwi'n cytuno 'da nhw ond wrth gwrs mae'u moddion yn anffodus iawn.

He said the hoard of items taken from his flat included three St Piran flags, Cornish language tapes,

AHHHH mae gynno fo baner Cernyw a bethau yn Gernyweg. Mae RHAID iddo fo fod yn terfysgwr! Mae'r Saeson (fel arfer) yn mynd i gysylltu ieithoedd a chenedlaetholdeb Celtaidd i eithafiaeth fel ffordd o'u ymosod nhw jyst fel gwnaethon nhw yng Nghanada ac yn Iwerddon. Maen nhw'n gallu bod yn waith 'na'r Ffrancwyr ambell waith.

felly dwi ddim yn siwr os taw grwp o filitanants peryglus ydi nhw neu un dyn a chyfrifadur.

Yr ail, yn debyg, neu efallai nid y naill na'r llall.

PostioPostiwyd: Maw 20 Tach 2007 5:36 pm
gan dewi_o
Unrhyw un yn gwybod os mae nhw wedi gwneud unrhywbeth neu dim ond bygwth.

Mae un bygythiad gwelais i yn erbyn resteraunt Jamie Oliver. Cytuno'n llwyr! Cau'r diawl lawr neu cloi ef mewn gist trysor a'i adael mewn ogof mor ladron ymyl Polperro.

PostioPostiwyd: Mer 21 Tach 2007 3:16 am
gan Gwenci Ddrwg
Unrhyw un yn gwybod os mae nhw wedi gwneud unrhywbeth neu dim ond bygwth

Dim ond bygwth dwi'n credu. Mae nhw wedi siarad am bomio bwyty yn y gorffennol ond dwi heb ddwad o hyd i unrhyw gwybodaeth am weithgaredd "gwir". Bygythiad bach iawn ydyn nhw, yn debyg iawn iawn.

PostioPostiwyd: Mer 21 Tach 2007 5:48 pm
gan Positif80
Well gen i'r Cornish United Nationalist Team.

PostioPostiwyd: Iau 22 Tach 2007 4:17 am
gan Gwenci Ddrwg
Touché!

Neu dim...ym...