Y Democratiaid Rhyddfrydol i fethu ennill sedd?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 28 Tach 2007 2:17 pm

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Madrwyddygryf » Iau 29 Tach 2007 10:52 pm

Macsen a ddywedodd:Mae Vince Cable wedi gwneud argraff da arna'i dros yr wythnosau dwytha. Mae gyda fo bob tro ryw gymhariaeth lliwgar sy'n gwneud i mi wenu.


Fel dywedodd rhwyun i mi yn y Blaid rhai wythnosau yn ol, 'If there is something that Vince Cable doesn't know, then its not worth knowing'.

Chwarae teg, roedd ei frawddeg am Gordon Brown, 'Stalin to Mr Bean' yn wych.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re:

Postiogan Prysor » Gwe 21 Maw 2008 1:55 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Chwarae teg, roedd ei frawddeg am Gordon Brown, 'Stalin to Mr Bean' yn wych.


Oedd, roedd honna'n glasur! :lol:

Ond, Madrwydd, sut wyt tin retio Nick Clegg erbyn hyn? Dwi ddim yn gofyn hynna er mwyn 'ymuno â'r pac o gŵn' i roi good kicking i'r Lib Dems (byddai hynny fel dwyn fferins gan blentyn) - dwi'n bod yn hollol genuine yn fy nghwestiwn, achos dwi'n tueddu i feddwl ei fod yn total disaster.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Y Democratiaid Rhyddfrydol i fethu ennill sedd?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 21 Maw 2008 7:28 pm

Dwi ddim yn nabod y boi Clegg 'na. Ond rhaid imi gyfaddef, pan fydda i'n gwrando wrth y radio neu edrych ar y teledu ac mae 'na ryw foi o'r Rhyddffrwdiaid Demagogaidd yn gwneud sound bite, ymaith a'r set neu newid sianel a wnaf i. Maen nhw'n wastraff amser, yn blaid garbage-collection (h.y. maen nhw'n casgu pleidleisiau o bobl sy ddim yn eu cefnogi, ond sy'n teimlo fod siawns well ganddyn nhw i ennill sedd nac sydd gan Lafur/Ceidwadwyr/PC/pwy bynnag). Maen nhw'n dweud un peth mewn un etholeath a pheth arall mewn etholaeth arall - hyd yn oed os bydd yr etholaethau drws nesa - os ydyn nhw credu mai dyna be fod eisiau'r pleidleiswyr ei glywed. Asgell chwith ydw i - ac gwell gen i Dori na un o'r criw bradychus 'na.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Y Democratiaid Rhyddfrydol i fethu ennill sedd?

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 21 Maw 2008 8:40 pm

Mae'n gwneud job da ohoni erbyn hyn bellach. Mae'n son am y pethau cywir ac dechrau codi cwestiynau effeithiol iawn mewn lawer o feysydd sydd yn taro gyda'r etholwyr. Tydio ddim wedi cael y llwyddiant ysgubol fel Cameron neu Tony Blair hwyrach ond, fel Paddy Ashdown, mae'n mynd ar trywydd cywir. Mae'n waith caled i fod yn drydydd blaid mewn system sydd wedi datblygu i weithio ar sail dwy blaid.

Dw'm deallt y syniad yma o 'complete disaster' ma chwaith. Cafodd amser caled wythnos diwethaf ynglyn a pleidlais dros Ewrop ond roedd hynny i wneud a sefyllfa unigryw ie. arweinydd newydd ac anghydweld o fewn y blaid sydd yn draddodiadol o blaid y Ewrop ar bob ochr. Roedd na chwarter o aelodau seneddol Llafur wedi pleidleisio yn erbyn y llywodraeth tra roedd y Ceidwadwyr yn falch i weld mai DemRhydd oedd y stori.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Y Democratiaid Rhyddfrydol i fethu ennill sedd?

Postiogan Madrwyddygryf » Sad 22 Maw 2008 12:02 am

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Maen nhw'n dweud un peth mewn un etholeath a pheth arall mewn etholaeth arall - hyd yn oed os bydd yr etholaethau drws nesa - os ydyn nhw credu mai dyna be fod eisiau'r pleidleiswyr ei glywed. Asgell chwith ydw i - ac gwell gen i Dori na un o'r criw bradychus 'na.


Wel dwi'n meddwl mae bob plaid yn gwneud hynny o dro i dro, yn arbennig Plaid Cymru. Roedd y blaid, sydd yn hoffi dangos eu credentials werdd,yn hapus iawn i ymuno a'r ymgyrch yn erbyn polisi ardaloedd rheoli parcio (polisi a gefnogwyd gan grwpiau gwyrdd megis Friends of the Earth) yn Nhreganna, Caerdydd. Cafwyd eu talu yn hael iawn gyda twf yn eu pleidlais.

Ar dop hynny Sioni, dwi'n meddwl wyt ti wedi taro hoelen ar ben wrth ddweud bod ti'n asgell chwith ond hapus i cefnogi Toriaid. Yn fy nyddie cynnar (a gwirion), roeddwn yn aelod Plaid Cymru ond sylweddolais ar ol dipyn, roedd hanner y blaid yn Siosalwyr a'r hanner arall yn Ceidwadwyr!
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Y Democratiaid Rhyddfrydol i fethu ennill sedd?

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 23 Maw 2008 12:18 am

Wel, rhaid imi ddweud na fydda i'n "hapus" i gefnogi unrhyw Dori! I roi enghraifft, yn yr etholiad aml-ddewis i'r Gyngor fis Mai diwethaf, daru fi bleidleisio 1: Llafur, 2: Llafur, 3: Plaid Sosialaidd yr Alban, 4: Annibynnol, 5: Tori a 6: Rhyddfryd-thingamy. Roedd pob ymgeisydd arall yn aelod o ryw blaid genedlaethol, e.e. UKIP ac SNP, ac fyddwn i ddim yn eu cefnogi o'r un rheswm na fyddwn i'n cefnogi'r BNP.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron