Tudalen 1 o 2

Penbleth ar yr hewl fawr - Heiwei côd

PostioPostiwyd: Iau 11 Hyd 2007 1:20 pm
gan bartiddu
I'r gyrrwyr/wragedd profiaol yn ein plith..
Chi’n gwbod pam i chi ar cyffordd ac am mynd syth yn groes, a mae’r cerbyd sy’n gwynebu chi ar y cyffordd ochor draw am troi i’ch chwith, felly mae’n rhaid i rhywyn ildio, pwy sy’ ar hawl i fynd gynta fel petai :?:
Dwi wastad yn fflachio fy ngole a gadael nhw gyferbyn i mi fynd gynta gan fy mod mewn bach o benbleth pwy sy' a’r hawl breintiedig!
Ma siwr o fod rhywyn sy’n astudio’i prawf gyrru ‘ma ‘all ateb?

PostioPostiwyd: Iau 11 Hyd 2007 3:54 pm
gan Ramirez
Os fyddai'r car ochor arall eisiau troi i'r chwith, fyddai dim rhaid i neb ildio yn na fyddai? Wele:

Delwedd

Os y byddai o eisiau troi i'r dde, yna swni'n meddwl mai chdi ddylai ildio, gan dy fod di angen croesi un lon er mwyn cyrraedd y lon wyt ti eisiau, tra ei fod o yn troi'n syth ar y lon briodol.

Ies? No?

PostioPostiwyd: Iau 11 Hyd 2007 4:32 pm
gan Norman
Dwin ama na'r chwith arall oedd on son amdano. Yr ateb, dwmbo. Fyddai fel arfer yn gadel i bobl fynd sna bod nhw'n mynd run ffordd a fi.

PostioPostiwyd: Iau 11 Hyd 2007 4:59 pm
gan bartiddu
Ramirez a ddywedodd:Os fyddai'r car ochor arall eisiau troi i'r chwith, fyddai dim rhaid i neb ildio yn na fyddai? Wele:

Delwedd

Os y byddai o eisiau troi i'r dde, yna swni'n meddwl mai chdi ddylai ildio, gan dy fod di angen croesi un lon er mwyn cyrraedd y lon wyt ti eisiau, tra ei fod o yn troi'n syth ar y lon briodol.

Ies? No?


mae’r cerbyd sy’n gwynebu chi ar y cyffordd ochor draw am troi i’ch chwith

Ma'r cerbyd mewn cwestiwn am troi i'r cyfeiriad arall yn y ddeiagram hynny yw.

Hanner yr amser ma 'na ddau ohonom yn edrych ar ein gilydd o'r naill ochor yn dyfalu pwy eith amdani gynta.

:lol:

Gan fy mod i wedyn te gorfod croesi dau lon ac yntau un, tebyg iawn mai fi sydd rhaid ildio te :?:

PostioPostiwyd: Llun 15 Hyd 2007 10:51 pm
gan Mali
bartiddu a ddywedodd:
Hanner yr amser ma 'na ddau ohonom yn edrych ar ein gilydd o'r naill ochor yn dyfalu pwy eith amdani gynta.

:lol:


Os wyt ti isho mwy o ddryswch , fe ddylie ti drio dreifio yma , lle mae 'na 'four way stops' .:winc: Mewn un prysur iawn fe fydd oleiaf pedwar o ddreifwyr yn sbio ar 'i gilydd. Y rheol mewn 'four way stops' ydi y cyntaf i gyrraedd y stop ydi'r cyntaf i fynd yn 'i flaen.

PostioPostiwyd: Llun 29 Hyd 2007 3:42 pm
gan Cwlcymro
Mali a ddywedodd: Y rheol mewn 'four way stops' ydi y cyntaf i gyrraedd y stop ydi'r cyntaf i fynd yn 'i flaen.


Swnin deud ma;r un rheol sydd yn y sefyllfa yma.

PostioPostiwyd: Llun 29 Hyd 2007 5:56 pm
gan 7ennyn
Dwi ddim yn meddwl bod yna reol penodol ar gyfer sefyllfa fel hyn yn Rheolau'r Ffordd Fawr. Fyswn i'n ildio i'r car arall fy hun - mae o'n sefyllfa tebyg i gylchfan mini ble rwyt ti'n gorfod ildio i gerbydau o'r dde. Ond be os ydi'r ddau ohonoch chi isio troi i'r dde - methmat! Yno byddwch chi yn fflachio eich goleuadau ar eich gilydd hyd ddiwedd amser. :?

PostioPostiwyd: Llun 29 Hyd 2007 9:54 pm
gan Rhodri Nwdls
7ennyn a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl bod yna reol penodol ar gyfer sefyllfa fel hyn yn Rheolau'r Ffordd Fawr. Fyswn i'n ildio i'r car arall fy hun - mae o'n sefyllfa tebyg i gylchfan mini ble rwyt ti'n gorfod ildio i gerbydau o'r dde. Ond be os ydi'r ddau ohonoch chi isio troi i'r dde - methmat! Yno byddwch chi yn fflachio eich goleuadau ar eich gilydd hyd ddiwedd amser. :?

Gesh i stand-off trichar heddiw yn Llanbadarn. Oedd o fel The Good, The Bad and the Ugly*.

*ia, fi oedd yr hyll, neh

PostioPostiwyd: Maw 30 Hyd 2007 10:53 am
gan joni
Sai'n siwr yn union beth yw'r done thing yn y sefyllfa yna. Dwi'n meddwl taw jyst mater o fod yn gwrtais yw hi.
Ond byswn i wrth fy modd byse pobl yn dysgu'r rhan yma o'r Haiwei Cowd. :x

PostioPostiwyd: Maw 30 Hyd 2007 11:18 am
gan Mr Gasyth
joni a ddywedodd:Sai'n siwr yn union beth yw'r done thing yn y sefyllfa yna. Dwi'n meddwl taw jyst mater o fod yn gwrtais yw hi.
Ond byswn i wrth fy modd byse pobl yn dysgu'r rhan yma o'r Haiwei Cowd. :x


Dwi'm yn rhy dda ar rowndabouts, rhaid cyfadde, ond ella base'n hawsd tase'r cyfarwyddyd bach cliriach:

When taking any intermediate exit, unless signs or markings indicate otherwise:

select the appropriate lane on approach to the roundabout


Be ffwc? :? Os mai dwy lon sydd wrth cyrraedd y gylchfan a dwi isho'r ail exit o dri, neu'r trydydd o bedwar, pa un yn union ydi'r 'appropriate lane'?