Penbleth ar yr hewl fawr - Heiwei côd

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan huwwaters » Maw 30 Hyd 2007 11:26 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
joni a ddywedodd:Sai'n siwr yn union beth yw'r done thing yn y sefyllfa yna. Dwi'n meddwl taw jyst mater o fod yn gwrtais yw hi.
Ond byswn i wrth fy modd byse pobl yn dysgu'r rhan yma o'r Haiwei Cowd. :x


Dwi'm yn rhy dda ar rowndabouts, rhaid cyfadde, ond ella base'n hawsd tase'r cyfarwyddyd bach cliriach:

When taking any intermediate exit, unless signs or markings indicate otherwise:

select the appropriate lane on approach to the roundabout


Be ffwc? :? Os mai dwy lon sydd wrth cyrraedd y gylchfan a dwi isho'r ail exit o dri, neu'r trydydd o bedwar, pa un yn union ydi'r 'appropriate lane'?


Rhaid edrych ar y cylchfan fel cylch perffaith o dy flaen, a hefyd cofio dy fod yn gyrru ar ochr chwith y ffordd, ac yn mynd o amgylch yn glocwaidd. Unrhyw troad sy'dd yn y 180 gradd cyntaf, gan gynnwys syth ymlaen, ti'n mynd i'r lôn chwith. Unrhyw beth heibio hanner ffordd, sef yr ail 180º, ti'n cymyd y lôn dde.

Syml...
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Cwlcymro » Maw 30 Hyd 2007 11:55 am

huwwaters a ddywedodd:Rhaid edrych ar y cylchfan fel cylch perffaith o dy flaen, a hefyd cofio dy fod yn gyrru ar ochr chwith y ffordd, ac yn mynd o amgylch yn glocwaidd. Unrhyw troad sy'dd yn y 180 gradd cyntaf, gan gynnwys syth ymlaen, ti'n mynd i'r lôn chwith. Unrhyw beth heibio hanner ffordd, sef yr ail 180º, ti'n cymyd y lôn dde.

Syml...


Onibai fod na ddim ond tri fordd i fynd ( y ffordd tin dod ohoni a dau arall un i;r chwith a un syth ymlaen) wedyn ti'n defnyddio'r lôn dde i fynd syth ymlaen.

Onibai fod na farciau ar y lônydd yn dweud yn wahanol, yn aml iawn ma na farcia ar y lôn yn dweud wrtha chdi ddefnyddio'r lôn dde i fynd syth ymlaen.

Onibai fod un o'r ffyrdd allan efo dwy lôn, wedyn mi elli di ddefnyddio'r ddwy lôn i fynd ffordd yna.

Ddim mor syml!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron