http://news.bbc.co.uk/1/hi/northern_ireland/7089310.stm
Yn sicr yn gam pwysig iawn ymlaen yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon, ar lefel cenedlaethol (Gogledd Iwerddon, Iwerddon, Prydain) ond hefyd ar lefel Unoliaethol. Ym amlwg dio'm yn mynd digon pell - dylse nhw ddiarfogi'n iawn o dan oruchwiliaeth y Comisiwm Diarfogi ond o gofio faint gymerodd o i'r PIRA fynd o Gadoediad, i 'Rhyfel ar ben' i ddiarfogi llawn (sydd heb ei orffen hyd y gwn i) does syndod gwirioneddol am hynny. Yn amlwg hefyd bod y pwysau gan Margaret Ritchie, Gweinidog Datblygiad Cymdeithasol Gogledd Iwerddon ar yr UDA i rhoi diwedd i'w trais os ydynt am gael y grant datblygiad cymunedol wedi arwain at hyn hefyd.
Pan buais i draw yn ymweld a Belfast yn ddiweddar sylweddolais bod y Shankill Road wedi ei wahanu'n ddau - y UVF ar waelod y Shankill a'r UDA/UFF ar dop y Shankill. Y ddau garfan yn casau eu gilydd - lot ohono lawr i 'turf war' Cyffuriau o be oeddwn i'n ddallt. Gyda'r UFF bellach yn gaddo rhoi diwedd i dorri'r gyfraith gall goblyigiadau hyn fod yn bell gyrhaeddol.