Tudalen 1 o 1

UFF yn rhoi'r gorau i'w hymgyrch arfog....medde nhw

PostioPostiwyd: Sul 11 Tach 2007 5:29 pm
gan S.W.
http://news.bbc.co.uk/1/hi/northern_ireland/7089310.stm

Yn sicr yn gam pwysig iawn ymlaen yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon, ar lefel cenedlaethol (Gogledd Iwerddon, Iwerddon, Prydain) ond hefyd ar lefel Unoliaethol. Ym amlwg dio'm yn mynd digon pell - dylse nhw ddiarfogi'n iawn o dan oruchwiliaeth y Comisiwm Diarfogi ond o gofio faint gymerodd o i'r PIRA fynd o Gadoediad, i 'Rhyfel ar ben' i ddiarfogi llawn (sydd heb ei orffen hyd y gwn i) does syndod gwirioneddol am hynny. Yn amlwg hefyd bod y pwysau gan Margaret Ritchie, Gweinidog Datblygiad Cymdeithasol Gogledd Iwerddon ar yr UDA i rhoi diwedd i'w trais os ydynt am gael y grant datblygiad cymunedol wedi arwain at hyn hefyd.

Pan buais i draw yn ymweld a Belfast yn ddiweddar sylweddolais bod y Shankill Road wedi ei wahanu'n ddau - y UVF ar waelod y Shankill a'r UDA/UFF ar dop y Shankill. Y ddau garfan yn casau eu gilydd - lot ohono lawr i 'turf war' Cyffuriau o be oeddwn i'n ddallt. Gyda'r UFF bellach yn gaddo rhoi diwedd i dorri'r gyfraith gall goblyigiadau hyn fod yn bell gyrhaeddol.

PostioPostiwyd: Llun 12 Tach 2007 6:51 pm
gan GT
Ddaru nhw son am roi'r gorau i werthu smac hefyd?

PostioPostiwyd: Maw 13 Tach 2007 1:22 pm
gan S.W.
GT a ddywedodd:Ddaru nhw son am roi'r gorau i werthu smac hefyd?


Er mawr syndod, do mae'n debyg. Naethon nhw ymosod ar y sawl oedd yn torri'r gyfraith yn enw'r UDA (sy'n cynnwys gwerthu cyffuriau am wn i) a annog pobl i 'reportio' unrhyw dorcyfraith i'r heddlu.

Oeddwn i'n gwilio'r araith ar wefan y Beeb neithiwr. Syndod faint o skinheads oedd yno.....

PostioPostiwyd: Maw 13 Tach 2007 7:02 pm
gan GT
S.W. a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Ddaru nhw son am roi'r gorau i werthu smac hefyd?


Er mawr syndod, do mae'n debyg. Naethon nhw ymosod ar y sawl oedd yn torri'r gyfraith yn enw'r UDA (sy'n cynnwys gwerthu cyffuriau am wn i) a annog pobl i 'reportio' unrhyw dorcyfraith i'r heddlu.

Oeddwn i'n gwilio'r araith ar wefan y Beeb neithiwr. Syndod faint o skinheads oedd yno.....


Wnest ti gyfri'r tatws?

PostioPostiwyd: Maw 13 Tach 2007 7:09 pm
gan S.W.
GT a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:
GT a ddywedodd:Ddaru nhw son am roi'r gorau i werthu smac hefyd?


Er mawr syndod, do mae'n debyg. Naethon nhw ymosod ar y sawl oedd yn torri'r gyfraith yn enw'r UDA (sy'n cynnwys gwerthu cyffuriau am wn i) a annog pobl i 'reportio' unrhyw dorcyfraith i'r heddlu.

Oeddwn i'n gwilio'r araith ar wefan y Beeb neithiwr. Syndod faint o skinheads oedd yno.....


Wnest ti gyfri'r tatws?


Woooosh

Swn y sylw yne'n mynd syth dros fy mhen

Nai chwerthin beth bynnag :lol:

PostioPostiwyd: Maw 13 Tach 2007 8:05 pm
gan Dylan
gymrodd o rhyw funud neu ddau i mi sylweddoli mai "tattoos" ydi hwnna (dw i'n meddwl), nid y llysieuyn amryddawn.

PostioPostiwyd: Mer 14 Tach 2007 11:03 am
gan S.W.
Aaaah. Dallt wan. Camgymeriad hawdd - Iweddon + Tatws. Meddwl bod GT yn euog o neud sylw lled hiliol.

PostioPostiwyd: Iau 15 Tach 2007 10:41 am
gan GT
S.W. a ddywedodd:Aaaah. Dallt wan. Camgymeriad hawdd - Iweddon + Tatws. Meddwl bod GT yn euog o neud sylw lled hiliol.


:lol:

Beth, dweud bod aelodau'r UDA braidd yn hoff datws (neu datoos)?