Ariannu Pleidiau Gwleidyddol

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ariannu Pleidiau Gwleidyddol

Postiogan aled g job » Iau 06 Rhag 2007 3:07 pm

A ninnau reit ynghanol sgandal ariannol anferthol( ac ychwanegiad arall anhygoel i'r stori heddiw( tudalen flaen Y Guardian), mae'n gwbl nodweddiadol o Lafur Newydd eu bod yn gwrthod delio'n onest a'r mater, ond yn hytrach, am symud golygon pobl ymlaen yn syth tuag at y mater o ariannu pleidiau gwleidyddol.Yn bersonol, dwi'n llwyr yn erbyn y syniad y dyle ni fel trethdalwyr ariannu pleidiau gwleidyddol, er y gallai trefniant felly fod o fudd ariannol i blaid fechan fel Plaid Cymru.
Yn y lle cyntaf, unigolion ddylai gefnogi pleidiau gwleidyddol nid y wladwriaeth, ac i'r unigolion hynny y dylai pleidiau gwleidyddol fod yn atebol, nid i'r wladwriaeth.
Yn ail, byddai arian gwladwriaethol i bleidiau gwleidyddol yn golygu y byddai mwy o wario ar rwts megis spin-doctors, hysbysebion di-bwrpas ac ati pan mai'r gwir angen yw gwario LLAI ar bethau fel hyn!
Yn drydydd, byddai derbyn arian cyson gan y wladwriaeth yn gwaethygu democratiaeth yng ngwledydd Prydain, gan y byddai'n llai fyth o anogaeth i bleidiau i gysylltu ac ymgynghori go iawn gyda'u hetholwyr.
Yn bedwerydd, pam ddylai rhan o f'ennillion i fynd tuag at Bleidiau Prydeinig fel y Blaid Lafur, Ceidwadwyr, Lib Dems ayb, nad ydynt yn apelio'r un gronyn ata'i? Heb son am bleidiau eithafol megis y BNP a fyddai hefyd yn elwa o dan system nawdd gwladwriaethol.
Yn bumed, mae'r system" ddemocrataidd" bresennol yn gwbl wallus, ac mae angen ei ddiwygio'n llwyr( Gan gychwyn gyda chyflwyno PR fel bo pob pleidlais yn cyfrif ym mhob etholiad), nid ei hatgyfnerthu ymhellach gydag arian y trethdalwyr!

Wedi dweud hynny, mi fyddwn i'n awyddus i weld arian yn cael ei wario ar hyrwyddo gweithgaredd gwleidyddol adeg etholiadau a hynny ar ffurf Comisiwn Hybu Gweithgaredd Democrataidd. Byddai hwn yn Gomisiwn cwbl annibynol o'r Wladwriaeth, ac fe fyddai'n gorff pwerus gyda dannedd. Gallai'r comisiwn hwn er enghraifft:

1. Sicrhau bod Hustings yn cael eu cynnal ym mhob etholaeth( e.e hyd at 6 chyfarfod dros gyfnod etholiad)

2. Cymryd cyfrifoldeb am farchnata a chreu cyhoeddusrwydd ar gyfer y cyfarfodydd hyn.

3. Mynd i mewn i ysgolion lleol i son am ddemocratiaeth a'r broses wleidyddol.

4. Annog a chefnogi unigolion i gyfranogi yn y broses ddemocrataidd adeg etholiadau, e.e sefydlu gwefannau pwrpasol ar gyfer hyn( pwy a wyr pa dechnegau newydd fydd ar gael er mwyn hwyluso hyn cyn bo hir).

5. Gorfodi'r Cyfryngau i roi sylw teilwng i'r etholiad. Yma yng Nghymru, er enghraifft, dylid gorfodi Ppaurau Llundain i roi coverage teilwng i Etholiadau'r Cynulliad. Os ydyn nhw'n gwneud arian drwy werthu papurau yma, ynd dylai bod rhaid iddynt roi sylw teilwng i etholiad y wlad.

Dwi'n meddwl y byddai sefydlu Comisiwn fel hyn yn gwneud llawer mwy dros achos democratiaeth na rhoi arian yn uniongyrchol i bleidiau gwleidyddol.
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Postiogan huwwaters » Gwe 07 Rhag 2007 1:08 am

Y ffaith fod y dyn Abrahams ma, sydd di bod yn rhoi pres i'r Blaid Lafur, wedi bwgwth os fod Llafur yn ceisio towlu'r bai gyd arno, fydd ganddo dipyn o bethe budur i'w ddatgelu, yn dangos fod y Blaid Lafur yn anonest.

Rhaid cofio fod George Bush a'i entourage etholiadol yn cael eu hariannu gan y cwmnioedd olew fel Exxon Mobil, a hyn yn gwbwl agored. Petai pleidiau yn cael eu hariannu gan trethdalwyr, ene fydde'n datrys nifer o brobleme, ond eto yn creu rhai erill sef rhoi mwy o bres i bobol fel y BNP.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan dewi_o » Gwe 07 Rhag 2007 12:11 pm

huwwaters a ddywedodd:Y ffaith fod y dyn Abrahams ma, sydd di bod yn rhoi pres i'r Blaid Lafur, wedi bwgwth os fod Llafur yn ceisio towlu'r bai gyd arno, fydd ganddo dipyn o bethe budur i'w ddatgelu, yn dangos fod y Blaid Lafur yn anonest.



Gadewch i ni glywed beth ydyn nhw. Dwi'n gwybod bod pob plaid wedi gwthio'r rheoloau etholiadol i'r eithaf ond beth yn y byd sy'n digwydd i'r Blaid Lafur. Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn un sgandal ar ol y llall. Y cwestiwn mar yw :-

Faint fwy sydd i ddod ?
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron