"We're not English, we're Scouse!"

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

"We're not English, we're Scouse!"

Postiogan Daffyd » Maw 11 Rhag 2007 12:49 pm

Ma na ddadl yn mynd ymlaen ar fforwm fwya ffans Lerpwl ar y funud, ynglyn a os ma pobl Lerpwl yn gweld eu hunain yn Saesneg neu yn Sgowsar. Dwi'n gweld o'n debyg iawn i rhei o ddadleuon pobl Cymraeg os ma nhw'n Brydienig neu ddim.

"'Dewey Finn' - Scousers are not English. We never have been, we know it; we don’t want to be, the rest of the country knows it and the Anglo establishment knows it and loves doing us in as a result!

However, some people from e.g. ‘Crosby’ (the nice part) might disagree."

"'Fello Kopite' -
- International Football is shit.
- Most of England dislikes Scousers. (I mean just read a newspaper once and a while)
- It's a side made for Southerners and lower league shite.
- England as a whole, has never backed Liverpool in it's times of trouble. I.E Heysal. (Don't want to get into a debate about how if it was or wasn't our fault etc, but just an example of how, Maggie had a hatred over Liverpool ever since.)
- England fans idiots, boo there own players when they arent happy with the sub being made.
(they boo'd Crouch, but when he scored a hatrick, they sang ring of fire)
- They have no originality, which is just typical cockney and lower league style.
- Southern FC.
- England flags with club names on make me cringe to death.

THAT IS WHY, WE'RE NOT ENGLISH, WE ARE SCOUSE. our national anthem is YNWA, our dreams are title/european glory, not world cup or european championship rubbish."
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Re: "We're not English, we're Scouse!"

Postiogan Norman » Maw 11 Rhag 2007 12:58 pm

Ffooooocinel gas genai ffans peldroed.

Daffyd a ddywedodd:Most of England dislikes Scousers.

Be am unrhywun sydd wedi cylwed am 'scousers', "dislikes scousers" !
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan Macsen » Maw 11 Rhag 2007 1:01 pm

Wel gwyddelod ydi tua eu hanner nhw eniwe.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan bartiddu » Maw 11 Rhag 2007 1:12 pm

Mae lleoliad Lerpwl reit ynghanol hen diriogaeth Rheged beth am annexio nhw fel wnaeth Mr Hitler hefo Awstria? Ie Na?
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: "We're not English, we're Scouse!"

Postiogan Daffyd » Maw 11 Rhag 2007 1:13 pm

Norman a ddywedodd:Ffooooocinel gas genai ffans peldroed.

A da ni yn casau chdi hefyd. And now we have balance. :winc:

Gyda llaw os da chi ffansi darllan mwy o'r ddadl, hwn di'r linc.
http://www.redandwhitekop.com/forum/index.php?topic=201901.0.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 11 Rhag 2007 6:13 pm

Tydio ddim yn rhywbeth newydd, mae wastad di bod elfen o Lerpwliaid gyda dim diddordeb mewn cefnogi Lloegr yn gyffredinol. Clywais gan ffrind am ei hanes o gyfarfod ‘Scousers’ sydd yn cefnogi Cymru oherwydd eu cefndir Cymreig.

Mae na lawer yn Lloegr heb unrhyw diddordeb yn y gem ar sail genedlaethol, oherwydd bod eu clybiau yn chwarae ar lefel Ewropeaidd fel Lerpwl, Man U ac Arsenal.

Mewn rhifyn o Panorama blwyddyn diwethaf am cefnogwyr Lloegr yn nghwpan y byd yn Almaen, esboniai y newyddiadurwr bod rhan fwyaf o gefnogwyr Lloegr yw cefnogwyr o glybiau yn yr is-adrannoedd oherwydd diffyg cyfle i weld eu clybiau yn chwarae ar lefel Ewropeiaidd.

Mae’n rhyfedd i ddeud y gwir. Mae na rhai ohonom yn hoffi darlunio y Saeson fel ryw hunaniaeth fonolithig un-lliw ond gwelwn o dan y wyneb, mae’n gallu fod yn stori gwbl wahanol.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan GutoRhys » Maw 11 Rhag 2007 8:44 pm

Dwi ddim yn deallt pam fod pel-droed yn sail rhanfwyaf o'r ddadl?
Rhithffurf defnyddiwr
GutoRhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 192
Ymunwyd: Iau 10 Chw 2005 7:23 pm
Lleoliad: Fry yn y ne, neu ar y llawr

Re: "We're not English, we're Scouse!"

Postiogan Prysor » Llun 04 Chw 2008 12:24 am

Mae 'na ardaloedd yn Sir Fflint a Dinbych sydd yn llawer llawer mwy Seisnig na Lerpwl. Stopia am beint yn Queensferry a mi gerddi mewn i dafarn yn llawn o grysau Lloegr, tattoos union jack a dirty looks am siarad Cymraeg. Ti'm yn cael hynny yn Lerpwl. Dwi'n teimlo fel estron yn rhai llefydd yng Nghymru. Dydw i ddim yn Lerpwl.

Mae na wastad rai engreifftiau gwahanol. Ond mae rhan fwyaf o sgowsars dw i wedi/yn eu nabod - boed yn garcharorion neu sgriws, boed yn byw yn Lerpwl neu yn y Gymru Gymraeg ac yn magu Cymry - yn cefnogi achos ac ymgyrchoedd chwyldroadol Cymru a'r Iwerddon. Mae ganddyn nhw ymwybyddiaeth gwleidyddol siarp, cydwybod cymdeithasol dwfn, a hunaniaeth a diwylliant unigryw (cymysgedd o Lancs, Gwyddelig, Cymreig ac Albanaidd), agweddau, egwyddorion, moesau, hiwmor a chynhesrwydd Celtaidd. Mae nhw mor wahanol i bobl y trefi cyfagos, mae'n anhygoel. Mae'r agweddau a diwylliant mor wahanol yn Penbedw, St Helens, Runcorn ac ati.

Dw i wedi clywed "we're not English, we're Scouse" droeon. Dwn i'm faint mor o ddifrif mae nhw yn hynny o beth, ond yn sicr, mae eu hunaniaeth Sgowsaidd yn gryfach na'u hymwybyddiaeth o hunaniaeth genedlaethol (Seisnig). Dwi'm yn meddwl all neb wadu hynny.

Yn ystod helyntion Chwe Sir gogledd Iwerddon, doedd y Gwyddelod ddim yn gosod bomiau yn y gwledydd Celtaidd nac yn Lerpwl, oedd yn ffynhonell bwysig o arian i'r ymgyrch mae'n debyg (er fod yr Orange Lodge fwyaf yn Lloegr - dwi'n meddwl - yn y ddinas).
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: "We're not English, we're Scouse!"

Postiogan murray hewitt » Sul 10 Chw 2008 12:19 am

Mi oddwn in byw yn lerpwl tan oddwn in 5, felly dwin hannar scowsar am wn i a ma mam yn scowsar, a dwin meddwl i fod on hollol wir i ddeud fod hunaniaeth scows yn meddwl llawer mwy nag unrhyw hunaniaeth seisnig/prydeinig ag maen mynd llawer dyfnach na jys pel-droed, dwi ddim yn siwr iawn pam ond am wn i ma be ma prys yn ddeud efo elfen o wirionedd hynny yw mae'r cymysgedd o bobl sydd wedi symyd i lerpwl heb unrhyw hunaniaeth seismig, gwyddelod cymry ayyb.

Dwi hefyd yn meddwl bod teimlad cryf o gymuned yn lerpwl yn rhanol i ddiolch, yn ol y son mae newyddiadurwyr bob amsar yn cael ei rhybuddio i beidio a byth insultio lerpwl, dwin siwr bysa boris johnson yn deall pam! Mae'r teimlad yma o gymuned yn amlygu ei hun yn achosion fel ken biggley a'r bachgen gafodd ei saethu yn croxteth ychydig yn ol.
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: "We're not English, we're Scouse!"

Postiogan Positif80 » Sul 10 Chw 2008 12:32 am

Ok, statws meddwol notwithstanding, dw i dal ddim yn ormodol o hoff o'r sgowsars dw i wedi cyfarfod, a mae ganddynt - y rhai sydd yn y cyfryngau beth bynnag - tueddiad o frolio am eu dinas tasa'n rywbeth arbennig e.e y rwtsh o sioe gerdd oedd ymlaen dros 'Dolig, y blydi Beatles ayyb.

Ddrwg iawn gennyf am fynd ar eich nerfau unwaith eto, Mr Prysor. :!:
Golygwyd diwethaf gan Positif80 ar Mer 13 Chw 2008 12:19 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron