Athrawon ddim fod dweud "mam a dad"

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Athrawon ddim fod dweud "mam a dad"

Postiogan rooney » Iau 07 Chw 2008 9:16 pm

http://www.mailonsunday.co.uk/pages/liv ... ge_id=1770

"Teachers should not assume that their pupils have a "mum and dad" under guidance aimed at tackling anti-gay bullying in schools.

It says primary pupils as young as four should be familiarised with the idea of same-sex couples to help combat homophobic attitudes. "

Trafodaeth ar BBC 24
http://www.youtube.com/watch?v=WEM2D2FgcaQ

Wel beth nesaf, fydd athrawon bioleg yn cael eu banio rhag dysgu fod plant yn deillio o fam a thad?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Athrawon ddim fod dweud "mam a dad"

Postiogan Jon Bon Jela » Iau 07 Chw 2008 10:56 pm

Cytuno'n llwyr gyda'r stori. Nid jest oherwydd y posibilrwydd bod gan y plentyn ddau rhiant o'r un rhyw, ond hefyd os mai rhiant sengl sydd gan y plentyn. Magwyd fi gan un rhiant, ac roedd gen i rhai ffrindiau yn yr ysgol oedd wedi colli eu mam neu eu tad.

"Eich rhiant neu rieni" yw'r ffordd orau o eirio'r ymadrodd.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Athrawon ddim fod dweud "mam a dad"

Postiogan Raoul » Gwe 08 Chw 2008 1:01 am

Sw'n i'n dweud fod o'n syniad da 'fyd. Wrth son am 'fam a dad', hawdd iawn bydda codi stigma ymysg plant bach, yn enwedig hefo canran mor uchel o rieni-sengl 'da plant ifanc, a'r canran yna'n codi.

Hefyd, typical o'r Daily Mail i gyfro'r sdori wrth drio wneud o swnio fel "political correctness gone mad" :rolio: :drwg:
"Order some golf shoes," I whispered. "Otherwise, we'll never get out of this place alive..."
Rhithffurf defnyddiwr
Raoul
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 12 Rhag 2007 11:34 pm

Re: Athrawon ddim fod dweud "mam a dad"

Postiogan nicdafis » Gwe 08 Chw 2008 11:57 am

rooney a ddywedodd:Wel beth nesaf, fydd athrawon bioleg yn cael eu banio rhag dysgu fod plant yn deillio o fam a thad?


Wel, mae'n hollol bosibl na fyddan nhw ddim i gyd yn y dyfodol.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Athrawon ddim fod dweud "mam a dad"

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 08 Chw 2008 12:45 pm

swnio fel synnwyr cyffredin i fi. gallai rhoi'r argraff fod peidio cael mam a thad yn beth od arwain at fwlio plant i reini sengl ac achosi poen i'r rheiny sydd wedi colli rhiant am ryw reswm.

dim ond y daily mail fedrai gyflwyno'r stori fel 'mae hoywon yn cymryd drosodd y byd' a dim ond ronney, o holl ddilynwyr honedig 'Duw cariad' allai feddwl fod bod yn sensitif i amgylchiadau teuluol plant yn beth drwg. idiots.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Athrawon ddim fod dweud "mam a dad"

Postiogan sian » Gwe 08 Chw 2008 12:52 pm

Mae'n swnio fel synnwyr cyffredin i mi.
Mewn dosbarth o 20-25 o blant mae bron yn sicr y bydd rhai nad ydyn nhw'n byw gyda'u dau riant.
Dw i wedi bod yn treio osgoi dweud "Gewch chi fynd ag e adre i ddangos i mam a dad" yn yr Ysgol Sul.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Athrawon ddim fod dweud "mam a dad"

Postiogan ceribethlem » Gwe 08 Chw 2008 2:22 pm

rooney a ddywedodd:Wel beth nesaf, fydd athrawon bioleg yn cael eu banio rhag dysgu fod plant yn deillio o fam a thad?
:lol: Ffaelu credu fod ti mewn ddifri pan oeddet ti wedi postio hwn.
Mae dysgu gwyddoniaeth yn y gwersi gwyddoniaeth yn hollol dderbyniol pan mae'n siwto dy agenda bach di felly.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Athrawon ddim fod dweud "mam a dad"

Postiogan CapS » Gwe 08 Chw 2008 5:23 pm

Eitha blydi reit. "Mami" a "Dadi" ddyle fe fod, mae pawb yn gwybod hynny. "Mum and Dad", wir. :rolio:
CapS
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Gwe 04 Awst 2006 9:04 am

Re: Athrawon ddim fod dweud "mam a dad"

Postiogan Macsen » Gwe 08 Chw 2008 5:46 pm

Hmmm dw i wedi bod yn ddi-dad ers oni'n chwech, a dyw athrawon yn dweud "mam a dad" heb adael unrhyw greithiau seicolegol dwfn arnaf fi.

Dwi'n meddwl bod pobol yn poeni gormod am bethau dibwys fel hyn. Beth am ddweud "mam and/or dad"? ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Athrawon ddim fod dweud "mam a dad"

Postiogan Positif80 » Gwe 08 Chw 2008 6:45 pm

Nanny State. Does gan Mr Brown a'i ffrindiau rywbeth gwell i wneud?
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron