Y tro dwytha i ddaeargryn daro, ron i'n buta wrth y bwrdd efo'r wraig, a ddudas i mai daeargryn oedd o. Ond roedd Rhian yn recno mai car wedi parcio tu allan tŷ oedd o. Dw i wedi tynnu'i choes hi byth ers hynny, yn deud ei bod wedi ista drwy ddaeargryn gan feddwl mai injan car oedd achos y swn a chryndod!
Pan darodd y daeargyn yma, am un o gloch y bore, roeddwn yn gweithio ar y cyfrifiadur, a fo oedd yr unig un oedd yn ddeffro yn y tŷ. Meddyliais mai'r dŵr yn y tanc immersion oedd yn berwi am fod y tân mor boeth (mae o'n berwi fel hyn weithia - jesd crescendo o swn byblo a rymblo trwm, sy'n swnio fel tren yn mynd heibio, ac yn para tua deg eiliad i gyd). Nes i feddwl ei fod o'n rhyfadd, gan ein bod wedi gadael i'r tân farw i lawr, heb roi mwy o lo arno, ers rhyw awr neu ddwy, ac felly ddim yn ddigon poeth i ferwi'r dŵr fel hyn.
Ond wrth gwrs, y daeargryn oedd o, ac rwan, mae Rhian yn tynnu fy nghoes i - ei gŵr, a eisteddodd trwy ddaeargryn yn meddwl fod y tanc immersion yn berwi!
One-all!