Mae Llafur Newydd wedi cyhoeddi eu bod am newid trywydd wrth geisio cael mwy o bobl oddi ar fudd-daliadau i waith. Cyhoeddwyd ddoe eu bod am fynd ati i ddefnyddio'r sector breifat i chwilio am waith i unigolion ar fudd-daliadau, yn hytrach nag asiantaethau'r wladwriaeth ei hun. Bydd y cwmniau hyn wedyn yn cael eu talu am ffeindio gwaith i'r unigolion dan sylw.Er bod y strategaeth newydd yn cael ei lywio'n rhannol er mwyn ymddangos yn "galed" yng ngolwg Middle England, does dim dwywaith bod angen meddwl eto am holl ddiwylliant taliadau lles, ac ni ellir gwadu'r ffaith bod miloedd o bobl bellach, am ba bynnag rheswm, wedi ymfodloni ar fyw ar fudd-daliadau.
Y broblem ydi bod y llywodraeth yn edrych ar y mater hwn fel ffenomena unigol yn hytrach nag edrych arno yng nghyd-destun diwylliant gwaith yn gyffredinol yng Ngwledydd Prydain. Yn fy marn i ni ellir newid pethau go iawn heb weld newid mwy sylfaenol yn ein patrymau gwaith a sut yr ydan ni'n edrych ar waith a dibenion gwaith. Ar y naill law,fel y soniais i uchod, mae yna garfan o gymdeithas sydd bellach wedi rhoi'r ffidil yn y to o ran cael gwaith; ac mae'r syniad bod modd cael rhain yn ol i waith llawn amser mewn rhai misoedd yn hollol afrealistig. Ar y pegwn arall mae yna garfan arall sy'n gweithio oriau hollol boncyrs a hynny yn ei dro yn arwain at broblemau eraill megis stress, problemau iechyd a phroblemau teuluol: ac angen mawr y garfan hon yw peidio gweithio mor galed. Byddai cymryd golwg holistaidd ar y sefyllfa yn golygu chwilio am atebion i'r ddwy broblem: hynny ydi, lleihau peth o oriau'r rhai hynny sy'n gor-weithio a dosbarthu'r capacity sy'n sbar ymhlith y rhai hynny sydd ddim mewn gwaith. Tybed faint o'r di-waith yng Nghymru allai ddechrau nol mewn gwaith petai symudiad tuag at berswadio pobl i weithio pedwar diwrnod yr wythnos yn lle pump yma?
Dwi hefyd yn meddwl bod edrych ar y cyd-destun ehangach yn golygu bod rhaid cydnabod nad oes miloedd ar filoedd o swyddi parod allan yn ein cymdeithas ar gyfer pobl sydd ar fudd-daliadau ar hyn o bryd; ac felly nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i bardduo pobl ar fudd-daliadau yn ddifeddwl. Mae'n adeg o grebachu economaidd ac mae hynny'n debyg o waethygu dros y 12 mis nesaf. Pwy bynnag fydd y cwmniau preifat a gaiff eu cyflogi i wneud y gwaith hwn mae yna dalcen caled iawn yn eu hwynebu ddwedwn i.
Yn bersonol, sgen i ddim problem efo'r syniad o ddod a'r sector breifat i mewn i hyn gan fod tystiolaeth o wledydd eraill yn awgrymu bod y sector breifat yn llawer mwy effeithiol nag asiantaethau'r wladwriaeth yn helpu pobl oddi ar fudd-daliadau ac i waith. Ond yng Nghymru, hoffwn i feddwl bod lle hefyd ar gyfer y sector wirfoddol a'r sector sifil yn y gwaith. Wrth dapio mewn i'r bwrlwm cymunedol hwn, mae'n bosib creu cyfleon gwaith o fath newydd a rheini'n gyfleon gwaith sy'n codi o anghenion cymunedau lleol. Byddai'n braf meddwl bod modd inni yng Nghymru dorri ein cwys ein hunain ar y mater hwn, yn hytrach na derbyn syniadau San Steffan yn ddi-gwestiwn. Oes, mae angen atebion i'r broblem, ond does ond gobeithio y gellid arddangos mwy o ysbryd cymunedol, brawdgarol Cymreig wrth ddelio ag o nag a fydd Llafur Newydd yn debyg o'i ddangos.