"Annog" pobl ar fudd-daliadau yn ol i'r gwaith

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

"Annog" pobl ar fudd-daliadau yn ol i'r gwaith

Postiogan aled g job » Iau 28 Chw 2008 5:38 pm

Mae Llafur Newydd wedi cyhoeddi eu bod am newid trywydd wrth geisio cael mwy o bobl oddi ar fudd-daliadau i waith. Cyhoeddwyd ddoe eu bod am fynd ati i ddefnyddio'r sector breifat i chwilio am waith i unigolion ar fudd-daliadau, yn hytrach nag asiantaethau'r wladwriaeth ei hun. Bydd y cwmniau hyn wedyn yn cael eu talu am ffeindio gwaith i'r unigolion dan sylw.Er bod y strategaeth newydd yn cael ei lywio'n rhannol er mwyn ymddangos yn "galed" yng ngolwg Middle England, does dim dwywaith bod angen meddwl eto am holl ddiwylliant taliadau lles, ac ni ellir gwadu'r ffaith bod miloedd o bobl bellach, am ba bynnag rheswm, wedi ymfodloni ar fyw ar fudd-daliadau.
Y broblem ydi bod y llywodraeth yn edrych ar y mater hwn fel ffenomena unigol yn hytrach nag edrych arno yng nghyd-destun diwylliant gwaith yn gyffredinol yng Ngwledydd Prydain. Yn fy marn i ni ellir newid pethau go iawn heb weld newid mwy sylfaenol yn ein patrymau gwaith a sut yr ydan ni'n edrych ar waith a dibenion gwaith. Ar y naill law,fel y soniais i uchod, mae yna garfan o gymdeithas sydd bellach wedi rhoi'r ffidil yn y to o ran cael gwaith; ac mae'r syniad bod modd cael rhain yn ol i waith llawn amser mewn rhai misoedd yn hollol afrealistig. Ar y pegwn arall mae yna garfan arall sy'n gweithio oriau hollol boncyrs a hynny yn ei dro yn arwain at broblemau eraill megis stress, problemau iechyd a phroblemau teuluol: ac angen mawr y garfan hon yw peidio gweithio mor galed. Byddai cymryd golwg holistaidd ar y sefyllfa yn golygu chwilio am atebion i'r ddwy broblem: hynny ydi, lleihau peth o oriau'r rhai hynny sy'n gor-weithio a dosbarthu'r capacity sy'n sbar ymhlith y rhai hynny sydd ddim mewn gwaith. Tybed faint o'r di-waith yng Nghymru allai ddechrau nol mewn gwaith petai symudiad tuag at berswadio pobl i weithio pedwar diwrnod yr wythnos yn lle pump yma?

Dwi hefyd yn meddwl bod edrych ar y cyd-destun ehangach yn golygu bod rhaid cydnabod nad oes miloedd ar filoedd o swyddi parod allan yn ein cymdeithas ar gyfer pobl sydd ar fudd-daliadau ar hyn o bryd; ac felly nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i bardduo pobl ar fudd-daliadau yn ddifeddwl. Mae'n adeg o grebachu economaidd ac mae hynny'n debyg o waethygu dros y 12 mis nesaf. Pwy bynnag fydd y cwmniau preifat a gaiff eu cyflogi i wneud y gwaith hwn mae yna dalcen caled iawn yn eu hwynebu ddwedwn i.

Yn bersonol, sgen i ddim problem efo'r syniad o ddod a'r sector breifat i mewn i hyn gan fod tystiolaeth o wledydd eraill yn awgrymu bod y sector breifat yn llawer mwy effeithiol nag asiantaethau'r wladwriaeth yn helpu pobl oddi ar fudd-daliadau ac i waith. Ond yng Nghymru, hoffwn i feddwl bod lle hefyd ar gyfer y sector wirfoddol a'r sector sifil yn y gwaith. Wrth dapio mewn i'r bwrlwm cymunedol hwn, mae'n bosib creu cyfleon gwaith o fath newydd a rheini'n gyfleon gwaith sy'n codi o anghenion cymunedau lleol. Byddai'n braf meddwl bod modd inni yng Nghymru dorri ein cwys ein hunain ar y mater hwn, yn hytrach na derbyn syniadau San Steffan yn ddi-gwestiwn. Oes, mae angen atebion i'r broblem, ond does ond gobeithio y gellid arddangos mwy o ysbryd cymunedol, brawdgarol Cymreig wrth ddelio ag o nag a fydd Llafur Newydd yn debyg o'i ddangos.
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Re: "Annog" pobl ar fudd-daliadau yn ol i'r gwaith

Postiogan Mici » Iau 28 Chw 2008 9:22 pm

Gwyliais ddarn am y wladwriaeth les ar 'Newsnight' neithiwr, yn union fel ddywedais Aled, roedd o yn dangos cwmni yn Llundain a lwyddodd i greu gyfleuon i lawer o bobol di-waith. Dwim yn meddwl fod problem enfawr o ddiweithdra ym Mhrydain o gymharu a gwledydd fel yr Almaen, ond ar y llaw arall cofio darllen adroddiad yn dweud fod na filoedd o swyddi gwag angen ei llenwi. Yn Iwerddon mae'r di-waith yn cael oddeutu 195 ewro yr wythnos, ffigwr reit hael oi gymharu a 45 sterling.

Mae hi yn broblem anodd ei datrys yn America mewn ychydig o daliaethau nid oes neb yn cael arian ar ol hyn a hyn o amser, iawn os ydynt yn gwrthod gwaith ond os does dim yno i gael braidd yn anheg. Dwi meddwl mai problem fwyaf Prydain ydi fod bobol yn meddwl fod nhw rhy dda i swyddi, dydi pawb ddim yn gallu bod yn pel-droediwyr neu cantorion byd enwog, rhaid rhygnu ymlaen efo'r gallu sydd ganddynt er lles cymdeithas i gyd. Mae yr hyn yn wir o bobol sydd yn gadael prifysgolion yn disgwyl cerdded fewn i swyddi £50,000 a mwy y flwyddyn, methu deall fod rhaid nhw weithio ffordd fyny er mwyn llwyddo.

Dwi meddwl fod hi gweithio ddwy ffordd, fedrith y llywodraeth ddim tynnu arian i ffwrdd o bobol os nad ydynt am greu mwy o swyddi yn sectorau megis gwasanaeth, adeiladu, diwydiannau trwm a tebyg.
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Bing [Bot] a 10 gwestai

cron