Tudalen 1 o 1

Llw i'r Cwin

PostioPostiwyd: Maw 11 Maw 2008 3:00 pm
gan Beti

Re: Llw i'r Cwin

PostioPostiwyd: Maw 11 Maw 2008 3:21 pm
gan Ray Diota
gimmick a balls

Re: Llw i'r Cwin

PostioPostiwyd: Maw 11 Maw 2008 4:25 pm
gan Hogyn o Rachub
Mae rhywun yn gorfod gwenu ar hyn - byddwn i wrth fy modd yn gweld y Llywodraeth yn Llundain yn ceisio gorfodi hyn ar bawb!

Mae'n dweud cymaint, ac o ddileit llwyr i mi'n bersonol, bod pob ymgais bellach i hyrwyddo a dathlu Prydeindod yn cael ei ddirmygu'n llwyr gan cymaint o bobl o bob carfan o gymdeithas. Ugain mlynedd yn ôl, deg, hyd yn oed, mae'n bosibl y byddai symudiad o'r fath (neu ymgais i ddathlu dydd cenedlaethol Prydeinig) yn ennyn llawer mwy o gefnogaeth, ymhlith pleidiau gwleidyddol a'r cyhoedd yn gyffredin. Ond o ran Prydeindod mae'r ddadl bresennol yn ei gylch yn dangos cymaint ar drai ydyw'r syniadaeth, a diolch i Dduw am hynny.

Ah, diwrnod da.

Re: Llw i'r Cwin

PostioPostiwyd: Maw 11 Maw 2008 6:27 pm
gan Macsen
Beth sy'n bod efo chi bobol, mae Queen yn class!

... I see a little silhouetto of a man, scaramouche, scaramouche, will you do the fandango...

Re: Llw i'r Cwin

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 5:14 pm
gan Gladus Goesgoch
A minnau'n meddwl fod national socialism wedi marw efo Hitlar

Re: Llw i'r Cwin

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 5:27 pm
gan Chickenfoot
Mae John "Gaunty" Gaunt isio i bob adeilad cyhoeddus cael yr Union Jack yn chwifo tu allan iddyn nhw, yn ogystal a llw gwirion yma. Mae'r boi yna'n adloniant wych ac yn wers yn sut i 'sgwennu colofn ofnadwy.

Re: Llw i'r Cwin

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 9:37 pm
gan Seonaidh/Sioni
Does 'na ddim byd o'i le efo "Prydeindod" - mae'n golygu pobl sy ddim yn malio am bethau gwirion fel rhoi llw dros neb, sy'n ymarfer "live and let live", sy ddim yn cefnogi rhyfelau mewn gwledydd pell - mewn gwirionedd, er mwyn bod yn "Brydeinydd" mae rhaid OSGOI popeth fel rhoi llw, codi jax yr undeb ac ati. Nid "Prydeinydd" neb sy'n rhoi llw i'r cwyn (wel, cwin). Jax yr undeb? Mae hyn yn ddilys am y saltire hefyd - bunch o bobl reit ofnadwy sy gennym ni yn yr Alban rwan. Duw arbedo'r cwin a'i fascist regime, fel maen nhw'n dweud. Mae'r holl syniad yn erbyn sosialaeth yn fy marn i.

Re: Llw i'r Cwin

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 10:41 pm
gan Chickenfoot
Dwi'n credu dylai pobl cael yr hawl i wneud hyn os ydyn nhw wir isio gwneud, ond ni ddylid gwneud y peth yn bolisi swyddogol.