The Poles are coming!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: The Poles are coming!

Postiogan HuwJones » Iau 13 Maw 2008 11:11 am

Mae criw undebau llafur Wrecsam yn cynnal ..

Gorymdaith yn erbyn ymdrechion y BNP i drefnu yn yr ardal
Sadwrn 12 Ebrill - Wrecsam -

11.30am wrth yr amgueddfa canol y dref, wedyn cerdded i Queens Square erbyn hanner dydd

Mae bands, siaradwyr etc... wrthi'n gael eu trefnu..

Wnai bostio manylion llawn cyn gynted a phosibl - ond gobeithio bydd cefnogaeth reit gryf gan fudiadau Cymraeg ac bydd criw Maes-E yn dangos ein solidarność gyda holl bobol Pwyleg y dref!

Serdecznie dziękuję (Diolch yn fawr iawn)
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: The Poles are coming!

Postiogan Jon Bon Jela » Iau 13 Maw 2008 11:24 am

huwwaters a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd:Felly, mae mwy o bobl ym Mhrydain yn siarad Pwyleg na beth sy'n siarad Cymraeg! Hahaha! :lol:


Pryder o'r agwedd Gymraeg yw fod Pwyleg wedi ac yn cael blaenoriaeth dros y Gymraeg. Yr oedd un achos fod yr Asiant Amgylchedd yn Wrecsam wedi codi arwyddion Saesneg a Phwyleg yn unig yn rhybuddio pobol dros pysgota. Mewn gym lleol dwi'n mynychu, mae arwyddion Saesneg a Phwyleg hefyd - dim Cymraeg.

Bosib gan fod mwy o stwr dros y peth, mae mwy o sylw'n cael ei daflu.


Beth am y Spar yn Llanybydder lle dynnwyd yr arwyddion Cymraeg i lawr, a gosodwyd y rhai Pwyleg yn eu lle?

Mae Spar ar City Road, Caerdydd hefyd yn hysbysebu yn ddwyieithog - Pwyleg a Saesneg.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: The Poles are coming!

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 13 Maw 2008 11:33 am

Soaring pay lures Poles back home, ond dim ond fe ymddengys i bobl a sgiliau arbenigol fel dylunio graffeg yn hanes y ferch yn y stori hon.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: The Poles are coming!

Postiogan S.W. » Iau 13 Maw 2008 12:37 pm

Mae ne delicatessen Pwyleg yn ganol Wrecsam hefo arwyddion dwyieithog - Cymraeg a Pwyleg

Mae ne un arall ochr draw i'r dre ar fin agor a dwin dallt eu bod nhw am fod yn dair ieithog.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: The Poles are coming!

Postiogan HuwJones » Iau 13 Maw 2008 4:46 pm

Wnes i ddilyn linc y stori yno....

"My wage tripled in two years!" boasts Barbara Wasik, a Polish graphic designer.
But the pay rise was not a result of moving to the UK, instead the money rolled in when she came back home. Barbara returned at the end of last year, to the job she left in 2005.


Dwi'n graphic designer - Ffwrdd a fi i weithio yn Wlad Pwyl os oes na siawns am godiad cyflog felly.
Mae'n siwr gai fwy o groeso yno nac mae'r pobl Pwyleg yn cael yn fan hyn!

Do widzenia (hwyl fawr!)
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: The Poles are coming!

Postiogan Daffyd » Iau 13 Maw 2008 4:59 pm

Ma'r arwyddion yn y siopa a'r gym o'n amgylch i yn Pwyleg a Saesneg hefyd (ond dim Cymraeg. Ddim fod Roath yn gor-lifo efo Cymry chwaith). A lot o siopa Pwyleg fyd. Ond lot mwy o siopa, ymm, dwnim pa dras/wlad, erill hefyd.

Dwi dal heb ddod ar draws rwyn o Poland sy'n gwenu eto. Gwenwch 'ogia bach!
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Re: The Poles are coming!

Postiogan Ray Diota » Gwe 14 Maw 2008 9:53 am

Daffyd a ddywedodd:Lot o siopa Pwyleg fyd. Ond lot mwy o siopa, ymm, dwnim pa dras/wlad, erill hefyd.

Dwi dal heb ddod ar draws rwyn o Poland sy'n gwenu eto. Gwenwch 'ogia bach!


sai'n beio nhw chwaith :rolio:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: The Poles are coming!

Postiogan yavannadil » Gwe 14 Maw 2008 11:57 am

Marsz, marsz Dąbrowski,
Z ziemi włoskiej do Polski.

Dos, dos, Dambrofski,
o'r wlad Gelt-Rhufeinig i'r wlad Bwyl. ;)

O lleiaf mae Pwyliaid yn well na Turkiaid neu Arabiaid ;)

Gyda llaw, byddaf yn falch iawn i roi erthygl gan rhywun (ym Mhwyleg, os posib) am Gymru ym Mhwyleg / am Bwyliaid yng Nghymru ar http://www.cymraeg.ru
Brodyr-Slafiaid ydyn nhw ;)
yavannadil
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 43
Ymunwyd: Sul 17 Chw 2008 9:37 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: The Poles are coming!

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 14 Maw 2008 1:30 pm

Wel, ma rwbath yn well 'na Sais.

Mae 'na foi o wlad Pwyl yn gweithio y mar Shorepebbles gyferbyn â Chlwb Ifor. Mae pawb yn galw fo'n Paul (achos bod o'n Pole) ond ddim dyna'i enw.

Mae'r Polski Skeps yn edrych yn ofnadwy o wag. Dw i ofn mynd i mewn, fel dw i ofn mynd i mewn i siopau Arabaidd ar ôl i un hen ddyn dweud wrthyf "white boys don't come here!!"

Uffarn dân dynesed y penwsos yn o handi ne malu cachu fyddai fan hyn drw'r dydd.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: The Poles are coming!

Postiogan Ray Diota » Gwe 14 Maw 2008 1:59 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Uffarn dân dynesed y penwsos yn o handi ne malu cachu fyddai fan hyn drw'r dydd.


:lol: :lol:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron