Rhaglen neithiwr (11.03.08) ar BBC2 ynghylch y mewlifiad o Bwyliaid ac eraill. Mae'r nifer o Bwyliaid sydd wedi symud yma'n y blynyddoedd olaf yn rhifo tua 1,000,000.
Yn dangos fod y llywodraeth yn ddigon parod manteisio ar eu gwaith caled, ond yn gwrthod rhoi pres i fewn i's system sef ysgolion, glendid a gwasanaethau cyffredinol gan y cyngor sir.
Peterborough oedd ffocws yn rhaglen yn dangos cymdaint mae wedi newid yn ddiweddar gyda pobol lleol yn cwyno fod pethe wedi mynd rhy bell; nid eu bod yn erbyn y mewnlifiad ond ei faint, sydd yn ddigon teg o weld nad oedd neb lleol o fewn ardal fawr, dim llefydd ysgolion, fly-tipping etc. a dim digon o bres a chyfleusterau gwasanaeth iechyd etc.
Tra'r oedd yn dangos fod digon o waith i bobol - y swyddi llafur sy'n cael eu lenwi gan y mewnfudwyr ma, does neb arall isio'i wneud fel pigo llysiau mewn caeau sydd yn talu £7 yr awr. Rhai mewnfudwyr yn neud £2,000 y mis (dwi'n sicr fod ne lot o overtime yn rhan o hwne). Aeth y cyflwynydd i lawr i'r Job Centre lleol a deud wrth lanciau lleol (wasters yn amlwg - yfed cwrw ar y stryd etc. ganol dydd) fod ganddo swydd iddyn nhw sy'n talu £7 yr awr. Ateb un o nhw oedd, "I'r rather sign on".
Ydio ddim yn bryd i ni derbyn mewfudwyr ac alltudio pobol brodorol sydd ddim yn haeddu byw mewn gwlad moethus?