gan Dili Minllyn » Maw 25 Maw 2008 8:25 pm
Dw i ddim yn meddwl y rhan fwyaf sydd wedi postio yma’n gwybod rhyw lawer am y gymuned Fyddar*, drwg ’da fi ddweud.
Fel un sydd wedi treulio rhywfaint o amser yng nghwmni pobl Fyddar, gallaf i dystio i’r hyn y mae llawer un arall wedi’i weld, sef bod gwahaniaethau diwylliannol sylfaenol rhwng pobl Fyddar a phobl sy’n clywed, gan gynnwys pobl a chanddynt glyw sydd wedi dysgu arwyddo (fel fi, i raddau bach). Am un peth, mae eu holl fyd yn weledol, felly maen nhw’n synio am y byd yn bur wahanol. Mae’n anodd iawn esbonio hyn, ond mae’n ddigon amlwg wrth drosi o ieithoedd “testunol” fel y Gymraeg neu’r Saesneg i BSL. Yn hyn o beth, dydyn nhw ddim yn eu gweld eu hunain yn anabl o gwbl, ond yn lleiafrif diwylliannol.
*Yn ôl y confensiwn, dwi’n defnyddio “Byddar” gyda “B” fawr i ddynodi pobl gwbl ddi-glyw sy’n defnyddio Iaith Arwyddo Brydeining (BSL) fel eu hunig iaith.