Creu babis byddar ar bwrpas

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Creu babis byddar ar bwrpas

Postiogan Macsen » Iau 13 Maw 2008 2:04 pm

tafod_bach a ddywedodd:HYSbys: ma enw'r edefyn yn wahanol nawr i beth oedd e bore ma: doedd yr 'ar bwrpas' ddim yna y cnocie brwnt a chi!

Erm, mae'r un teitl a wnes i sgwennu neithiwr. :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Creu babis byddar ar bwrpas

Postiogan tafod_bach » Gwe 14 Maw 2008 10:45 am

rhuthro i mewn iddi nesi de. o wel. sori macsen!
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Creu babis byddar ar bwrpas

Postiogan Dili Minllyn » Maw 25 Maw 2008 8:25 pm

Dw i ddim yn meddwl y rhan fwyaf sydd wedi postio yma’n gwybod rhyw lawer am y gymuned Fyddar*, drwg ’da fi ddweud.

Fel un sydd wedi treulio rhywfaint o amser yng nghwmni pobl Fyddar, gallaf i dystio i’r hyn y mae llawer un arall wedi’i weld, sef bod gwahaniaethau diwylliannol sylfaenol rhwng pobl Fyddar a phobl sy’n clywed, gan gynnwys pobl a chanddynt glyw sydd wedi dysgu arwyddo (fel fi, i raddau bach). Am un peth, mae eu holl fyd yn weledol, felly maen nhw’n synio am y byd yn bur wahanol. Mae’n anodd iawn esbonio hyn, ond mae’n ddigon amlwg wrth drosi o ieithoedd “testunol” fel y Gymraeg neu’r Saesneg i BSL. Yn hyn o beth, dydyn nhw ddim yn eu gweld eu hunain yn anabl o gwbl, ond yn lleiafrif diwylliannol.

*Yn ôl y confensiwn, dwi’n defnyddio “Byddar” gyda “B” fawr i ddynodi pobl gwbl ddi-glyw sy’n defnyddio Iaith Arwyddo Brydeining (BSL) fel eu hunig iaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron