Tudalen 1 o 2

Creu babis byddar ar bwrpas

PostioPostiwyd: Mer 12 Maw 2008 10:18 pm
gan Macsen
Dyle rhieni byddar gael yr hawl i ddewis embryonau i sicrhau bod eu plant nhw'n fyddar, yn ol y sefydliad ar gyfer pobol sy methu clwad (RNID).

Be da chi'n meddwl o hyn te? Mae'n swnio braidd yn hunanol i riant anablu ei plentyn er mwyn gwneud pethau'n haws i'w hun. Pe bai nhw'n cael gwneud hynna dwi'n meddwl bydde lot o rieni yn dewis embryo mud.

Re: Creu babis byddar ar bwrpas

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 12:27 am
gan huwwaters
Yn llwyr yn ei erbyn. Rôl rhiant mewn bywyd plentyn yw arwain, gan osod cymaint o gyfleoedd bosib i'r plentyn. Mae anablu'r person yn diddymu cyfleoedd a ddim o unrhyw les i'r plentyn.

Dwi hollol erbyn yr holl chware o gwmpas efo'r gennynau. Yr unig amser y dylid ei wneud yw pan fo afiechyd neu anabledd fel bod yn fud yn cael ei ddarogan pan bydd y plentyn yn cael ei eni.

Re: Creu babis byddar ar bwrpas

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 9:11 am
gan tafod_bach
mae gan bobol fyddar gymdeithas, iaith a diwylliant eu hunain. wyt ti'n nadu eu hawl i genhedlu plant i'w diwylliant cynhenid? ydi hyn yn wahanol i'r 'hawl' sydd gan blentyn cymreig i ddysgu'i 'famiaith' (h.y. yr iaith oedd yn cael ei siarad pan oedd e/hi yn y groth)?

yr un ddadl a sydd gen ti uchod yw'r un mae pobl yn defnyddio yn erbyn y gymraeg! 'mae'n iwsles, willfully unco-operative, fydd o o ddim yn helpu'r plant i ffitio fewn etc etc...'

Re: Creu babis byddar ar bwrpas

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 9:30 am
gan sian
tafod_bach a ddywedodd:yr un ddadl a sydd gen ti uchod yw'r un mae pobl yn defnyddio yn erbyn y gymraeg! 'mae'n iwsles, willfully unco-operative, fydd o o ddim yn helpu'r plant i ffitio fewn etc etc...'


Dw i ddim yn meddwl.
Dw i'n meddwl bod rhywbeth reit sinister yn y peth.
Trafodaeth yma

Re: Creu babis byddar ar bwrpas

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 9:32 am
gan Ray Diota
tafod_bach a ddywedodd:mae gan bobol fyddar gymdeithas, iaith a diwylliant eu hunain. wyt ti'n nadu eu hawl i genhedlu plant i'w diwylliant cynhenid? ydi hyn yn wahanol i'r 'hawl' sydd gan blentyn cymreig i ddysgu'i 'famiaith' (h.y. yr iaith oedd yn cael ei siarad pan oedd e/hi yn y groth)?

yr un ddadl a sydd gen ti uchod yw'r un mae pobl yn defnyddio yn erbyn y gymraeg! 'mae'n iwsles, willfully unco-operative, fydd o o ddim yn helpu'r plant i ffitio fewn etc etc...'


pam ffwc bo raid i ti fod yn fyddar i neud sign language??

wy'n meddwl yn siwr bo fi'n nabod rhywun sy'n cyfathrebu a'i rhieni drwy sign... a dyw'r person yna ddim yn fyddar!

jiw jiw jiw. dewch a linc i fi am y stori 'ma... wy'n cal hi'n anodd i'w chredu!

Re: Creu babis byddar ar bwrpas

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 9:39 am
gan sian
Ray Diota a ddywedodd:jiw jiw jiw. dewch a linc i fi am y stori 'ma... wy'n cal hi'n anodd i'w chredu!


Dyma hi eto - ddim yn clywed 'ta ddim yn gwrando wyt ti?

Re: Creu babis byddar ar bwrpas

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 9:43 am
gan Ray Diota
sian a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:jiw jiw jiw. dewch a linc i fi am y stori 'ma... wy'n cal hi'n anodd i'w chredu!


Dyma hi eto - ddim yn clywed 'ta ddim yn gwrando wyt ti?


Delwedd

lwcus bo fi'n deall sign language. :winc:

Re: Creu babis byddar ar bwrpas

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 10:41 am
gan huwwaters
tafod_bach a ddywedodd:mae gan bobol fyddar gymdeithas, iaith a diwylliant eu hunain. wyt ti'n nadu eu hawl i genhedlu plant i'w diwylliant cynhenid? ydi hyn yn wahanol i'r 'hawl' sydd gan blentyn cymreig i ddysgu'i 'famiaith' (h.y. yr iaith oedd yn cael ei siarad pan oedd e/hi yn y groth)?

yr un ddadl a sydd gen ti uchod yw'r un mae pobl yn defnyddio yn erbyn y gymraeg! 'mae'n iwsles, willfully unco-operative, fydd o o ddim yn helpu'r plant i ffitio fewn etc etc...'


Mae peidio bod yn fyddar ddim yn stopio fi fod yn rhan o'r ddiwylliant a dysgu sign language. Yn sicr, dy ddadl di sy'n cael ei ddefnyddio yn erbyn y Gymraeg gyda sylwadau fod dysgu'r Gymraeg fel iaith gyntaf ac o fewn ysgolion yn disabling. Gair a safbwynt sydd wedi cael ei fynegi yn y cyfryngau Seisnig lawer dro. Enw sy'n dod i'r meddwl yw Paul Starling â'r Daily Mirror.

Tydi hyn ddim yn unig i'w wneud efo fod y fyddar, ond pob anabledd. Wyt ti'n awgrymu dyle teuluoedd sydd ag anabledd gael plant sydd efo'r un anabledd a nhw? Be am fod yn ddall, fel gall y plentyn ddysgu Braille?

Re: Creu babis byddar ar bwrpas

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 11:23 am
gan ceribethlem
tafod_bach a ddywedodd:mae gan bobol fyddar gymdeithas, iaith a diwylliant eu hunain. wyt ti'n nadu eu hawl i genhedlu plant i'w diwylliant cynhenid? ydi hyn yn wahanol i'r 'hawl' sydd gan blentyn cymreig i ddysgu'i 'famiaith' (h.y. yr iaith oedd yn cael ei siarad pan oedd e/hi yn y groth)?

yr un ddadl a sydd gen ti uchod yw'r un mae pobl yn defnyddio yn erbyn y gymraeg! 'mae'n iwsles, willfully unco-operative, fydd o o ddim yn helpu'r plant i ffitio fewn etc etc...'

Am ddadl gwallgo. Mae gan pobl Cymraeg eu hiaith y gallu i siarad Saesneg yn ogystal a'r Gymraeg. Pwynt huwwaters oedd fod dethol cael babi byddar yn cymryd y gallu yna i ffwrdd. Fe fyddai babi nad yw'n fyddar yn gallu cyfathrebu drwy sign language gyda'r rhieni os yw'r rheini'n fyddar, tra cadw'r gallu i gyfathrebu a r lafar gydag eraill.
Y cyfan bydd amddifadu'r cyfle i ddefnyddio mwy nag un iaith newu modd o gyfathrebu'n ei wnud yw gorfodi'r cymdeithas byddar hwnnw i ymylon y gymdeithas ehangach. Wyt ti wir yn credu fod hynny'n beth da?

Re: Creu babis byddar ar bwrpas

PostioPostiwyd: Iau 13 Maw 2008 1:50 pm
gan tafod_bach
HYSbys: ma enw'r edefyn yn wahanol nawr i beth oedd e bore ma: doedd yr 'ar bwrpas' ddim yna y cnocie brwnt a chi!
dydwi ddim yn advoketyio mela clustiau plant bach tan bo nhw'n methu clywed. yn enwedig ar bwrpas.

Y cyfan bydd amddifadu'r cyfle i ddefnyddio mwy nag un iaith newu modd o gyfathrebu'n ei wnud yw gorfodi'r cymdeithas byddar hwnnw i ymylon y gymdeithas ehangach. Wyt ti wir yn credu fod hynny'n beth da?


wel nacdw, rhoi rwbeth i'w gnoi arno fo dros y bore on i, yn enwedig be o'n i'n deimlo oedd yn linc rhwng yr agwedd yma at y gymraeg. y pwynt ydi, dydy rhai pobl fyddar *ddim* yn gweld eu cyflwr fel anabledd. man nhw yn gweld bod cymaint o rinwedde amlwg mewn bod yn fyddar iddyn nhw, ag sydd yn 'amlwg' i ni yn y byd sy'n clywed (wel, darllen, ond...) o fod yn gallu clywed! chi'n gweld lle wy'n myyyynd?

(quote]pam ffwc bo raid i ti fod yn fyddar i neud sign language??[/quote]

:wps: point taken...)

errrr... ma pobol fyddar yn gallu dysgu iaith, jyst fel ma pobl sy'n gallu clywed yn gallu dysgu sign language, felly dwi ddim yn gweld eu bod nhw'n amddifadu hawl eu plant i gyfathrebu ag eraill. dwi'n gallu gweld pa mor cripi ma actiwali gwneud yn siwr fod dy blentyn ddim yn gallu clywed yn ymddangos a shorto stico pen dy blentyn cyntafanedig mewn i spicer bas mewn cyngerdd motorhead, does dim achlysur lle mae'n fawr *nac* yn cwl.

blimey! :)