Cyffuriau yn tshepach na chwrw

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyffuriau yn tshepach na chwrw

Postiogan Kez » Mer 19 Maw 2008 6:36 pm

Own i’n darllin yn un o bapurau Llundain ddoe bod cwrw erbyn hyn yr un pris â llinell o cocên ar ôl y Gyllideb. Wi’n cretu odd e’n tshepach cyn y Gyllideb; ma fe biti’r un pris nawr. Yn ôl y papur mae pris peint yn Llundain ar gyfartaledd yn costi £4.06. Ar gyfartaledd yw hwnna, beth bynnag ma’ hwnna’n ei feddwl – ifi’n talu biti £3.30 - £3.50 am beint o seidir pan af i mas ac mae lager biti’r un pris – bach yn rhatach os af i ryw dafarn Wetherspoons. Wn i’m beth yw’r prisiau yng Nghymru ond ‘swn i’n meddwl bod nhw’n reit debyg – yn sicr, wi’n gwpod nad yw pris peint yn Llundain lot yn ddrutach na’r un dafarn arall yn ninasoedd eraill yn Loegr ne’r Alban.

Y pris ar gyfartaledd am bilsen ecstasi yw £2.91 ac ma’r pris ‘na’n disgyn trwy’r amsar, tra bo un ‘hit’ o heroin ond yn yn costi £3.50. Mae’r elusen ‘Drugscope’ yn datgan bod hi’n tshepach i fyn mas am noson yn binjo ar gocên na threulio noson mewn tafarn.

Wi’m yn siwr bod y llywodraeth yn deall cweit be’sy’n digwydd ar lawr gwlad. Bydd prisiau cwrw yn cau tafarndai a’r holl awyrgylch cymdeithasol a diwylliannol sy’n perthyn iddyn nhw mewn rhai ardaloedd.

Mae pobol ifainc erioed wedi mynd dros ben llestri gyda alcohol a dyw ‘binge drinking’ ddim yn beth newydd. Dyw’r rhan fwyaf o bobol ddim yn mynd dros ben llestri ond yn amlwg, ma’ peryg mawr i’r rhai sydd yn gwneud hynny. Ma’ gor-ddefnydd o alcohol yn ddigon gwael ond mae gor-ddefnyddio cyffuriau yn gallu bod yn lot gwath i’r unigolyn a chymdeithas.

Mae drygiau yn rhan o’m bywydau ni i gael rhyw ‘hit’ neu’gilydd, boed hynny’n alcohol, tobaco neu ddrygiau adloniadol. Gyda’r ordd ‘ma i wado gor-yfed a phrisiau cyffuriau yn disgyn – ‘y nhw fydd y cyffur o ddewis cyn bo hir a binj-ddrygo fydd y broblem.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Cyffuriau yn tshepach na chwrw

Postiogan huwwaters » Mer 19 Maw 2008 7:07 pm

Dwi'n meddwl wnei di hefyd ffindio bod rhai cyffurie'n rhatach na fferinds weithie!
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Cyffuriau yn tshepach na chwrw

Postiogan Gladus Goesgoch » Iau 20 Maw 2008 6:50 pm

Faint o fferins ti'n brynu ar un go, ta? :lol:
I lost my burden; I went home leaping for joy, and I said to my neighbour who was sad, Why are you sad? I know my sins have been forgiven...
Rhithffurf defnyddiwr
Gladus Goesgoch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Iau 13 Maw 2008 12:14 pm
Lleoliad: fy nghont


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron