Cyfreithiau ffordd i feicwyr

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfreithiau ffordd i feicwyr

Postiogan ger4llt » Gwe 21 Maw 2008 11:43 pm

Gweld yn y newyddion heddiw bod David Cameron wedi cael 'i ddal gan y Mirror yn torri'r "gyfraith" ar ei daith feic drwy Lundain yn foreuol. Rhai o'r rhain oedd mynd yn bellach na'r linell wen o flaen gola' traffig, beicio i'r cyfeiriad anghywir lawr ffordd unffordd, pasio i'r ochr dde i ynys, a chroesi croesiad toucan (croesiad i feicwyr) pan o'dd y gola' yn goch.

Mi ydw i'n gweld rhai o'i betha ma'n neud ar 'i feic yn wirion, sef clymu 'i helmet ar y baria yn lle ar i ben :rolio: , ond yn bersonol dwi'n gweld dyla cyfreithia gal 'i llacio ar feicia mewn dinasoedd, yn bennaf ar achosion o oleuada coch â llwybr i feicia ar 'i ymyl, lle yn amlwg 'ma 'na hen ddigon o le i feicwyr basio heb achosi unrhyw niwed i unrhywun. Dwi'n un sy'n beicio'n amal o gwmpas y lle, a gan bod Bangor 'di mynd mor brysur erbyn hyn - weithia dyna 'di'r opsiwn galla hefyd. Dwi yn trio ngora weithia i gadw at y rheola ma, ond pan dachi'n gweld rhei beicwyr yn mynd dow-dow heibio chi ar balmentydd, dachi'n dechra meddwl wedyn "be uffar dwi'n neud yn sefyll yma am oria o flaen gola coch?"

Os edrychwch chi ar y fideo o Dave, ma 'na o leia hanner dwsin o feiciwyr o'i amgylch yn torri'r union 'run rheola â fo, felly pam bod gymaint o bwyslais felly arno fo?! A ma ffilmiwr y fideo yn dilyn union lwybr Cameron hefyd... :?

Dwi'n meddwl dyla llawer mwy o bwyslais fod ar bwysigrwydd holl fanteision amgylcheddol beicio nac ar ryw "gamgymeriadau" pitw, a dyla beicwyr gael llawer mwy o ryddid mewn systemau ffyrdd, ac yn y bôn nhw sydd yn cymeryd y risg i'w diogelwch hwy. :) Dwi'n meddwl bod o'n hen bryd newid y drefn.
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron