Ydi'r amser wedi dod i Brydain a Ffrainc anghofio'i gwahaniaethau a dod yn ffrindiau pennaf? Mae'n ymddangos i mi mai'r unig ffordd y mae Prydain am gael unrhyw fath o ddylanwad ar rediad y byd dros y ganrif nesaf, gyda China a India yn tyfu mewn grym, yw drwy Ewrop. Mae'r berthynas gyda America yn un unochrog, gyda nhw'n gwneud y penderfyniadau a Prydain yn dilyn. Ond gyda Prydain, Ffrainc a'r Almaen, yn bartneriaid cyfartal wrth arwain undeb o 500 miliwn o bobol byddai ryw fath o consensws clir dros Ewrop gyfan, yn hytrach nag undeb rhanedig gyda'r gwledydd bach yn cytuno gyda'r naill ochor neu'r llall.
Ac wedyn bydden ni'n rheoli'r byd unwaith eto! Bwahahahahaha...