T5 Heathrow - uchaf eu cloch, uchaf eu cwymp

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

T5 Heathrow - uchaf eu cloch, uchaf eu cwymp

Postiogan Prysor » Gwe 28 Maw 2008 10:59 pm

Mae hyn wedi fy nhiclo. :D

Steddais i lawr i wylio cyfres newydd 'Big, Bigger, Biggest' ar Channel 5 y noson o'r blaen. Mae'r gyfres yn dilyn hanes adeiladau a phontydd ac ati, gan adrodd sut y bu i brosiectau ddathblygu yn fwy a mwy o faint. Datblygiadau technolegol a pheirianyddol, sut oedd arferion poblogaeth yn esblygu, a sut oedd y farchnad yn newid - ffactorau fel hyn sydd wedi gyrru'r datblygiadau adeiladol i raddfeydd nas gwelwyd o'r blaen.

Roedd y rhaglen y noson o'r blaen yn cael ei darlledu noson cyn agor Terminal 5 yn Heathrow. Hanes datblygiad meysydd awyr ers dechrau hedfan commersial oedd dan sylw, a terminal newydd Heathrow - fel y terminal mwyaf yn y byd - oedd y rhaglen yn cylchdroi o'i chwmpas. Cafwyd hanes datblygiadau mewn meysydd awyr eraill fu ar flaen y gad wrth ddyfeisio ffyrdd o hedfan mwy o bobl, cael mwy o awyrennau bob awr, a cynyddu amser turnover ac ati - mwy o deithwyr y dydd, mwy o elw.

Er engraifft, dyfeisiwyd adeilad terminal crwn er mwyn i fwy o awyrennau allu docio ar unwaith, a hynny mewn ffordd y gallant droi rownd yn eu hunfan heb ymyrryd hitio awyrenna eraill. Cafwyd hanes datblygiad awyrennau peiriant jet, oedd yn fwy ac yn drymach, felly angen concrit ar y runway oedd yn droedfeddi o drwch. Y broblem oedd na allai dynion osod concrit mewn tamaid mwy na hyn a hyn ar y tro, ac felly fe fyddai joints rhwng y sections, a fyddai'n beryglus i'r awyrennau wrth lanio. Cyn hir dyfeisiwyd peiriant allai osod stripyn di-ddiwedd o goncrit i lawr mewn un go, ac o'r herwydd gallai awyrennau jet ddefnyddio'r runway.

Soniwyd hefyd am y broblem o fod rhaid i adeilad terminal fod yn hir, ac felly yn achosi problemau wrth i bobol gerdded o un pen o'r llall i ddal eu connections, felly dyfeisiwyd y conveyer belt solid i'w cario. Soniwyd am ddatblygiadau terfysgol yn y saithdegau, felly roedd rhaid datblygu'r systemau diogelwch. Soniwyd am y broblem o ddyfeisio ac adeiladu'r tô free-standing mwyaf yn y byd (yn Heathrow), a sut i adeiladu twr rheoli uwch a'i symud i'w le, yn hytrach na'i adeiladu ar y spot gan rwystro awyrennau'r runways eraill lanio. Pob math o broblemau fel hyn sydd wedi gyrru datblygiad y maes awyr i fod, erbyn heddiw, o faint un fel Heathrow. Hynny yw, dysgu wrth fynd yn eu blaenau, wrth ymateb i newidiadau etc.

Un o'r pethau hyn - peth hollol angenrheidiol os am symud teithwyr yn gyflym - ydi'r system bagiau. Cafwyd hanes datblygiad systemau bagiau dros y byd, gyda lot o graffeg yn egluro, a ffwtej o dros y byd drwy'r blynyddoedd. Yn Dallas, neu Chicago (ddim yn cofio'n iawn) roedd y sytem bagiau wedi clogio ac wedi torri i lawr nes cau'r terminal am flwyddyn gyfan, gan gostio miliwn o ddoleri y diwrnod i'r ddinas. Ac o gofio enw drwg Heathrow am golli bagiau, eglurodd prif architect T5 (oedd yn ymddangos drwy'r rhaglen i egluro a brolio pob datblygiad newydd yn yr adeilad), gyda help graffeg a troslais, sut oedd y sytem bagiau newydd yn T5 yn gweithio. Foolproof yn wir, state of the art innovation. A rhaid imi gyfaddef, roedd y sytem yn edrych yn impressivea iawn. Ac, o gofio problemau Dallas/Chicago, os nad oedd y sytem foolproof yma'n ddigon, roedd gan T5 system arall wrth gefn - back-up system - fyddai'n gneud yn siwr na fyddai unrhyw broblemau'n codi. Byth.

Roedd hi'n edrych fel bod cynllunwyr a rheolwyr T5 wedi meddwl am bopeth. Doedd dim byd allai fynd o'i le.

Biti na fysan nhw wedi meddwl am y basics syml, sydd ddim i'w gweld yn rejistro ym meddyliau'r dynion pres yn eu tyrrau eifori. Hynny yw - pethau syml fel y ffactor ddynol, faint o sydyn all gweithwyr symud o un lle i'r llall, llwytho bagiau o felt i droli, o droli i awyren ac ati. A faint o amser mae'n gymryd i'r sywddogion diogelwch sgrinio'r gweithwyr wrth iddyn nhw fynd drwodd i airside. Pethau syml, fel lojistics a galluon corfforol y ddynol-ryw! No? (A be am trial ryn, cyn i'r lle agor - wnaeth unrhyw un feddwl am hynny?)

Ia - bechod na fysa'r clowniaid yn y boardroom wedi meddwl gofyn i'r gweithwyr am eu barn profiadol nhw, wrth gynllunio'r system. Ac, a wnaiff hyn ddysgu'r Saeson i beidio brolio eu wyau cyn iddyn nhw ddod allan o 'dwll tîn' yr iar? Uchaf ei gloch, uchaf - a chaletaf - ei gwymp!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: T5 Heathrow - uchaf eu cloch, uchaf eu cwymp

Postiogan Macsen » Gwe 28 Maw 2008 11:21 pm

Meh, doedd dim byd yn gweithio yn Disney Land ar y diwrnod cyntaf. A ti'n cofio Jurassic Park?! Rho wythnos iddyn nhw.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: T5 Heathrow - uchaf eu cloch, uchaf eu cwymp

Postiogan ger4llt » Gwe 28 Maw 2008 11:40 pm

Faint ddudon nhw 'nath y system bagia danddaearol na gostio dwch? Dwi'n meddwl 'i fod o'n agos i £250m o'r rhaglan ar Five, a ma'r ffaith bod system gymleth, hi-tec felly â phroblemau mawr ar 'i ddiwrnod cyntaf yn embaras llwyr! Dyfyniad o ddisgrifiad ohono ar safle'r BBC:

Passengers arriving at Terminal Five have a short walk from the gate to border control which has 36 desks to speed up the process.

From there, they can proceed to baggage reclaim with its state-of-the-art handling system, containing 18km of belts and capable of transporting 12,000 bags per hour.

British Airways says the system is so fast that passengers' bags will often be waiting for them by the time they have passed through border control.

:lol: :lol: O'dd o'n edrych yn debygach i mi fel bod cwsmeriaid yn ciwio am yn hir i dderbyn 'u bagia - dyfynnu o'r BBC eto:

...passengers have had to wait up to four hours to reclaim their luggage.


Felly ma'n rhaid bod o leiaf 48,000 o fagiau yn cael eu prosesu felly. O iawn. :rolio:
Wrth ddarllen mlaen yn y ddwy erthygl, yn enwedig yr un gyntaf, dwi'n mwynhau gweld BA yn trio esbonio'r cawlach uffernol 'ma ma nhw di greu. A dwim yn siwr am syniada'r diafol y pensaer (ar y rhaglen ro'dd o'n gwisgo gwisg goch gyfan, yn cynnwys sgidia 8) - heblaw am farf llaes gwyn :P - ella mai Sion Corn o'dd o :? ) chwaith.
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: T5 Heathrow - uchaf eu cloch, uchaf eu cwymp

Postiogan Prysor » Sad 29 Maw 2008 12:14 am

ger4llt a ddywedodd:A dwim yn siwr am syniada'r diafol y pensaer (ar y rhaglen ro'dd o'n gwisgo gwisg goch gyfan, yn cynnwys sgidia 8) - heblaw am farf llaes gwyn :P - ella mai Sion Corn o'dd o :? ) chwaith.


Yn union. Dwi'n dechrau poeni am y tô 'na rwan!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: T5 Heathrow - uchaf eu cloch, uchaf eu cwymp

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 29 Maw 2008 8:13 pm

O na! Dim to fel yn Senedd yr Alban! Bu rhaid iddyn nhw gau'r brif siambr am fisoedd pan gwympodd un o'r beams. Ond, fel dywedodd Macsen Drefedig, rho amser iddyn nhw. Wedi'r cwbl, nid oedd popeth yn gweithio'n union fel y dylai ar y Titanic ar ei siwrne cyntaf...
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: T5 Heathrow - uchaf eu cloch, uchaf eu cwymp

Postiogan Madrwyddygryf » Sad 12 Ebr 2008 10:30 am

Steve Punt a ddywedodd:British Airways are trying to clear the backlog by sending thousands of bags to Milan. Now, you know you're in trouble when looking at Italians to provide the organisational skills....
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: T5 Heathrow - uchaf eu cloch, uchaf eu cwymp

Postiogan Sleepflower » Mer 16 Ebr 2008 10:33 am

Dau o fflash Harrys BA wedi cael y sach yn dilyn y ffiasco http://news.bbc.co.uk/1/hi/business/7348401.stm
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron