Trybini yn yr economi

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Prysor » Maw 22 Gor 2008 9:04 am

Dwi efo chdi Dyl.

Caiff y Saeson fynd eu ffordd eu hunain â chroeso.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Dyncoch » Sad 16 Awst 2008 10:07 pm

murray hewitt a ddywedodd:
Nanog a ddywedodd:
Wyt ti'n gwybod fod y swigen dai yn waeth yn y DU na'r UDA?


Anhebygol, ble mae dy dystiolaeth di? Digon posib bydd prisiau tai yn gostwng yn sylweddol ond caiff hyn ddim effaith mor ddrwg a welir un yr UDA, lle'r oeddy banciau wedi rhoi morgeisi i bobl doedd ddim wir yn gallu ei fforddio nhw a pan daeth prisiau tai i lawr doed gan y banciau ddim ffordd i gael ei pres yn ol, tydi banciau prydain ddim wedi benthyg i bobl yn y catrgori "sub-prime" ar y ffath raddfa a welir yn yr UDA, er mae cynydd wedi bod mewn "repocessions" yn y wlad yma. Dyma'r sefyllfa o be dwi di ddarllan beth bynnag tydwi ddim ecspert!


Mae y radd benthyca ym Mhrydain wedi codi i 7.5 x cyflog. Doedd y raddfa yma ddim hanner mor uchel yn yr UDA.

Pan brynais fy nhy cynta yn y 90, cynnigodd banc HSBC 3.5 x fy ngyflog i neu 2.5 x cyflog fi a fy mhartner. Yn ystod y 'boom' roedd banciau barus yn cynnig morgeisi o 8 x ac 9 x cyflog ac gwaeth na hynna drwy 'self certified mortgages'.

Credit crunch y'w sail y problemau ma i gyd yn ol pob son. Rhyfedd sut mai yma yn y DU mae'r dyled Credid gwaethau (uchaf) yn y byd. Mae'r Almaen, Ffrainc a Sbaen yn gweld tyfiant o dan 0% ar y funud ac mae hyn i gyd yn cael ei faio ar y 'credit crunch'. Rhyfedd sut mae cewri Ewrop yn dioddef gan feddwl mai rhentu fydd yr Ewropiaid yn hytrach na prynu fel ni yma yn y DU. DYLED, DYLED, DYLED. Byw am heddiw, natur y 2000s.

Mae pethau am fynd yn llawer gwaeth cyn iddynt wella!
Rhithffurf defnyddiwr
Dyncoch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Mer 29 Tach 2006 12:49 pm
Lleoliad: Tregarth a Conwy

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Dyncoch » Maw 26 Awst 2008 12:34 pm

murray hewitt a ddywedodd:Anhebygol, ble mae dy dystiolaeth di?


Tystiolaeth? Fyswn yn awgrymu i ti wylio'r darn yma. Money Programme o 2003 yn esbonio'r 'scam' o 'self certified mortgages' a'i rhan mewn chwyddo'r farchned dai.

http://video.google.co.uk/videoplay?docid=-8482518243122067675&hl=en-GB
Rhithffurf defnyddiwr
Dyncoch
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Mer 29 Tach 2006 12:49 pm
Lleoliad: Tregarth a Conwy

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Nanog » Gwe 20 Chw 2009 3:40 pm

Nanog a ddywedodd:
Wyt ti'n gwybod fod y swigen dai yn waeth yn y DU na'r UDA? Mi rydym ni jysd rhywfaint ar ei hol hi o rhan amser. Dim ond un tric sydd gan Brown o be wela i....a hynny yw cadw prisiau tai lan. Mi roedd ganddo gyfle i arafu'r holl beth rhai blynydde yn ol drwy godi cyfraddau llog i fwrw dwr oer ar yr holl fenthyg ond na......beth wnaeth e oedd chwarae gyda'r ffigyrau chwyddiant er mwyn dweud fod chwyddiant dan reolaeth. Felly, cadw cyfraddau llog yn isel a chreu un o'r swigod mwya a welwyd erioed.....nid draw dros y mor ond yma hefyd. Mae'n rhaid iddo ddod i ben rhywbryd......neu a yw prisiau tai i fod mynd i fyny mewn llinell syth yn dragwyddol? Na......ond er mwyn achub ei groen ei hunan hy ceisio ennill term arall fel Prif Weinidog, fe fydd e'n ceiso ail greu'r swigen drwy gostwng cyfraddau llog a ceisio ail ddechrau'r frenzy o fenthyg a mynd i mewn i ddyledion enfawr. Efalle fy mod i'n anghywir ( gan taw nid economegydd ydw i), ond yr mwya mae hyn yn mynd ymlaen.....rwy'n credu taw'r mwya poenus fydd y cwymp ar y diwedd. Mae'r marchnadoedd arian yn barod yn sylweddoli fod rhywbeth o le gyda'r bunt yn cwympo erbyn yr Ewro ac hyn yn oed y dollar yn ddiweddar. Bydd hyn fel rwyt ti'n gwybod yn golygu fod pobpeth yr ydym yn menwforio....olew, bwyd, egni, a llu o bethau arall yn mynd yn ddrytach.......ond fydd pobpeth yn iawn....gan fod prisiau ein tai yn dal i fynd i lan.....yn ol gwerth y bunt! :rolio: Ond bydd ein cyflogau/pensiynau ddim yn mynd lan gyda chwyddiant......achos mae nhw wedi rigo'r ffigyrau. Mi ddown i nol at hyn eto......ymhen amser i weld sut fydd pethau'n datblygu.....ac i weld a yw'r "economegwr neu arbenigwr ariannol" 'ma rwyt yn son amdano yn gywir. Cofia, yr arbennigwyr 'ma sydd wedi creu'r cawdel....(sorri sefyllfa) yr ydym ynddo yn awr.



Wel.....dyma rhai misoedd wedi mynd a pethau'n dal i waethygu. Dyma ni rhyw muppet o Fanc Lloegr yn dweud yr amlwg (fel y dywedais i uchod).....ond ofer codi pais wedi pisho.

Sir John, who is stepping down after three years as deputy governor, also turned his guns on the Government's use of the Consumer Prices Index - which does not include housing costs - to target inflation.

'There are powerful arguments for including the cost of home ownership in the target measure of consumer prices,' he argued.

As Chancellor, Gordon Brown replaced the traditional Retail Prices Index - which includes housing and mortgage costs - with the controversial CPI in 2003. He claimed the change was being made to conform with EU practice.


Beth sydd yn fy ngofidio i yw fod pobl o'r farn nad oes gan Gordon Brown unrhyw beth i'w wneud a'r cawdel mae 'e wedi cael rhan blaenllaw yn ei greu. Os wnaethoch chi wylio 'Pawb a'i Farn' neithiwr mi ofynwyd y cwestwin.....ar Bancwyr oedd yn cael y bai mwyaf. Dafydd Elis Thomas ddim yn meddwl dylai pobl fwrw bai ar neb!! :? Mae'n bryd i'r clown 'na fynd 'fyd!
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Blewyn » Gwe 20 Chw 2009 7:04 pm

Hawdd ydy nadu am fai hwn neu fai llall...ond dwi'm yn cofio neb yn cwyno pan aeth prisiau tai yn uwch ac yn uwch.....a be fysa pawb wedi ddweud petae Gordon Brown wedi galw ar bawb i gallio a gweithredu i ostwng prisiau tai ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Nanog » Gwe 20 Chw 2009 7:32 pm

Blewyn a ddywedodd:Hawdd ydy nadu am fai hwn neu fai llall...ond dwi'm yn cofio neb yn cwyno pan aeth prisiau tai yn uwch ac yn uwch.....a be fysa pawb wedi ddweud petae Gordon Brown wedi galw ar bawb i gallio a gweithredu i ostwng prisiau tai ?


Mae e wedi bod yn clochdar ers blynydde fod yr economi yn gryf oherwydd ei bolisiau ef. Ond nawr fod pethau yn mynd o chwith....mae e'n dweud taw bai Americanwyr yw e. Mewn democratiaeth, mae'n rhaid i ni wybod a yw ein gwleidyddion wedi ymddwyn a gwneud y penderfyniadau cywir i weld a ddyle ni bleidleisio iddynt neu beidio y tro nesaf bydd etholiad. Felly, mae'n syniad eitha' da i wybod a ydyn't yn deilwng o fai neu glod. Yn fy marn i, mi ddyle pawb wybod taw clown yw Brown ac mi wnaeth a adeiladu economi ar ddyled....fe a Bliar. Wrth-gwrs, mi roeddynt wrthi yn America hefyd....yn ol hyd amser Clinton hyd yn oed.

Mi wnes i ddechrau edefyn yn pwyntio allan taw swigen oedd y farchnad dai yma ar maes-e. Ni wnaeth neb ymateb ac rwy'n berchen ar dy felly rwyt ti'n anghywir ynglyn a fod neb yn cwyno pan fod prisiau tai yn mynd yn uwch ac yn uwch. Mae pob swigen yn bostio hwyr neu hwyrach.

Os wnei di ddarllen beth ddywedodd y bancer uchod....mi ddywedodd e fod Brown wedi tynnu allan prisiau tai o'r CPI ac wrth wneud hyn....tro dweud fod chwyddiant yn is o lawer nag oedd e mewn realiti. Roeddynt wedyn yn gallu cadw cyfraddau llog bron yn hanesyddol o isel a wnaeth i bobl fenthyg arian yn rhad iawn. Ar ben hynny, roedd banciau fel Northern Rock yn menthyg morgeisi o 125% gwerth y ty. Roedd e'n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd ond pan mae prisiau tai yn myn lan....mae pobl yn meddwl eu bod yn myn yn fwy ariannog ac mi wnaeth hyn sicrhau i'r blaid Lafur sawl tymor yn rheoli. Ond yw e'n drist?

Duw a wyr beth mae e' lan i nawr.....achos mae nhw wedi dweud eu bod yn golygu dechrau'r peiriannau argraffu hy printio arian. Mae'r parti drosodd a gobeithio fod dyddia Brown wrth y llyw drosodd 'fyd.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan 7ennyn » Gwe 20 Chw 2009 7:42 pm

Blewyn a ddywedodd:...dwi'm yn cofio neb yn cwyno pan aeth prisiau tai yn uwch ac yn uwch

Be? Wir yr? Lle wyt ti wedi bod yn cuddio felly?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Nanog » Gwe 20 Chw 2009 7:46 pm

7ennyn a ddywedodd:Be? Wir yr? Lle wyt ti wedi bod yn cuddio felly?


Muscat, Oman. :)
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai