Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Ydw achos dwi'n thick a ddim yn gwybod dim byd am yr economi nadw?
Sdim ishe fod mor sensitif.....jysd dweud wrthot oeddwn dy fod yn anghywir.
......bydd unrhyw economegwr neu arbenigwr ariannol yn dweud wrthyt bod y problemau presennol yn eu hanfod yn deillio o sefyllfa'r farchnad dai yn yr UDA. Mae sut mae gwledydd yn delio gyda hynny yn amrywio, gyda rhai mewn gwell sefyllfa i wneud nag eraill.
[/quote]
Wyt ti'n gwybod fod y swigen dai yn waeth yn y DU na'r UDA? Mi rydym ni jysd rhywfaint ar ei hol hi o rhan amser. Dim ond un tric sydd gan Brown o be wela i....a hynny yw cadw prisiau tai lan. Mi roedd ganddo gyfle i arafu'r holl beth rhai blynydde yn ol drwy godi cyfraddau llog i fwrw dwr oer ar yr holl fenthyg ond na......beth wnaeth e oedd chwarae gyda'r ffigyrau chwyddiant er mwyn dweud fod chwyddiant dan reolaeth. Felly, cadw cyfraddau llog yn isel a chreu un o'r swigod mwya a welwyd erioed.....nid draw dros y mor ond yma hefyd. Mae'n rhaid iddo ddod i ben rhywbryd......neu a yw prisiau tai i fod mynd i fyny mewn llinell syth yn dragwyddol? Na......ond er mwyn achub ei groen ei hunan hy ceisio ennill term arall fel Prif Weinidog, fe fydd e'n ceiso ail greu'r swigen drwy gostwng cyfraddau llog a ceisio ail ddechrau'r frenzy o fenthyg a mynd i mewn i ddyledion enfawr. Efalle fy mod i'n anghywir ( gan taw nid economegydd ydw i), ond yr mwya mae hyn yn mynd ymlaen.....rwy'n credu taw'r mwya poenus fydd y cwymp ar y diwedd. Mae'r marchnadoedd arian yn barod yn sylweddoli fod rhywbeth o le gyda'r bunt yn cwympo erbyn yr Ewro ac hyn yn oed y dollar yn ddiweddar. Bydd hyn fel rwyt ti'n gwybod yn golygu fod pobpeth yr ydym yn menwforio....olew, bwyd, egni, a llu o bethau arall yn mynd yn ddrytach.......ond fydd pobpeth yn iawn....gan fod prisiau ein tai yn dal i fynd i lan.....yn ol gwerth y bunt!
Ond bydd ein cyflogau/pensiynau ddim yn mynd lan gyda chwyddiant......achos mae nhw wedi rigo'r ffigyrau. Mi ddown i nol at hyn eto......ymhen amser i weld sut fydd pethau'n datblygu.....ac i weld a yw'r "economegwr neu arbenigwr ariannol" 'ma rwyt yn son amdano yn gywir. Cofia, yr arbennigwyr 'ma sydd wedi creu'r cawdel....(sorri sefyllfa) yr ydym ynddo yn awr.
Sorri os mae hynna yn swnio fel rant ond dwi'n gofidio o biti beth mae'r muppets yn gwneud i'r economi ac rwy'n teimlo'n uffernol o rwystredig nag yw'r cyfryngau yn cwestiyna mwy o'r ffigyrau chwyddiant mae'r diawled yn rhoi allan.