Trybini yn yr economi

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan 7ennyn » Mer 16 Ebr 2008 10:05 pm

Mae economeg yn wyddor sydd yn perthyn i'r oes o'r blaen. Fel seicoleg Freudaidd, mae'n seiliedig ar ragdybiaethau bolocaidd sydd wedi cael eu diystyru gan bawb heblaw'r economegwyr sydd yn eu harddel. Does neb yn y llywodraeth, yn y 'Ddinas', nac yn Banc Lloegr yn gwybod yn iawn sut mae'r economi yn gweithio, ond eto mae rhai o'r 'arbenigwyr' hyn yn ennill cyflogau anferthol am ffidlan. Ond be sydd yn fy ngwylltio i fwyaf ydi'r busnas 'ma o roi'r 'economi' ar rhyw bedestal gan anghofio be ydi (neu be ddylai fod) ei bwrpas - sef helpu rhoi ansawdd bywyd da i bob aelod o'r gymdeithas. Tydi prisiau tai uchel na chylch di-ddiwedd o 'boom & bust' yn cyfrannu dim tuag at gyrraedd y nod yma.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan murray hewitt » Mer 16 Ebr 2008 10:18 pm

Nanog a ddywedodd:
Wyt ti'n gwybod fod y swigen dai yn waeth yn y DU na'r UDA?


Anhebygol, ble mae dy dystiolaeth di? Digon posib bydd prisiau tai yn gostwng yn sylweddol ond caiff hyn ddim effaith mor ddrwg a welir un yr UDA, lle'r oeddy banciau wedi rhoi morgeisi i bobl doedd ddim wir yn gallu ei fforddio nhw a pan daeth prisiau tai i lawr doed gan y banciau ddim ffordd i gael ei pres yn ol, tydi banciau prydain ddim wedi benthyg i bobl yn y catrgori "sub-prime" ar y ffath raddfa a welir yn yr UDA, er mae cynydd wedi bod mewn "repocessions" yn y wlad yma. Dyma'r sefyllfa o be dwi di ddarllan beth bynnag tydwi ddim ecspert!
murray hewitt
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sad 09 Chw 2008 11:12 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Nanog » Iau 17 Ebr 2008 7:48 am

murray hewitt a ddywedodd:
Nanog a ddywedodd:
Wyt ti'n gwybod fod y swigen dai yn waeth yn y DU na'r UDA?


Anhebygol, ble mae dy dystiolaeth di?


Welais ti'r rhaglen Panorama yn gynt eleni yn dangos y pobl 'na yn Lloegr oedd gyda morgeisi heb fod ganddynt unrhyw waith o'r gwbwl a'r nyrs oedd yn ennill tua £30 mil gyda morgais gwerth £500 mil. Mi roedd rhagor o enghreifftiau. Edrycha ar hwn
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Nanog » Llun 23 Meh 2008 6:58 pm

Storm ar y gorwel?

Dyma sut wnaeth rhywun ymateb i'r erthygl. Mae e'n eitha diddorol os ydych yn ymddidori yn beth sy'n digwydd yn yr Alban:

I normally enjoy Iain Mcwhirter's articles and he certainly did upset my breakfast this morning.

If this is even 50% correct then many people are going to suffer and it bodes very badly for the Labour government who will be presiding over an economic disaster. How Brown must be wishing he had went to the country last October. All this might well have been a Tory problem as he would probably lost narrowly rather than the massacre that is going to happen whenever he goes now.

Normal thinking on independence has also always favoured good times rather than difficult economic circumstances but a crisis on this level, with Scottish Independence offering a solution for Scotland and with over 100 years of reserves still available and probable new fields down the West Coast of Scotland?

Hold onto your hats!
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Blewyn » Sul 13 Gor 2008 8:50 pm

Nanog a ddywedodd:Efalle fy mod i'n anghywir ( gan taw nid economegydd ydw i), ond yr mwya mae hyn yn mynd ymlaen.....rwy'n credu taw'r mwya poenus fydd y cwymp ar y diwedd.

Ella...mae'n dibynnu os ydy elfennau sylfaneol yr economi wedi newid neu ddim. Yn fy nhyb i mae'na newid sylfaenol wedi digwydd ym Mhrydain ers y dirwasgiad diwethaf, sef nad yw gwaith a phensiwn mwyach yn ddigon i sicrhau segurdod ariannol i deulu cyffredin (heb son am la-de-das), a bod y dosbarthau gweithio a chanol wedi cydio yn y dealltwriaeth fod eiddo yn golygu segurdod. Dwi'm yn credu y bydd perchennogion tai rhent Prydain yn barod iawn i'w gwerthu'n rhad, ac y gwelwn gyfnod o annhyfiant mewn prisiau tai Prydain yn hytrach na cwymp.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Nanog » Maw 15 Gor 2008 10:58 am

Blewyn a ddywedodd:......gwelwn gyfnod o annhyfiant mewn prisiau tai Prydain yn hytrach na cwymp.


Mi wnawn ni anghofio fod prisiau wedi cwympo tua 7% yn barod ers y llynnedd......I edrych i'r dyfodol.....mae banciau yn gwrthod benthyg i bobl heb fod ganddynt flaen-dal. Felly, dim rhagor o'r morgeisi 125% Mae pob un ohonynt o fel dwi'n deall yn mynnu fod benthycwyr yn debyg o allu talu'r morgais yn ol....nid fel y blynydde blaenorol lle rhoddwyd benthyciad i unrhyw un oedd yn gallu arwydd ei enw bron. Mae nhw wedi llosgi eu bysedd. Pob un ohonynt....rhai mwy nau gilydd....yn y DU a'r UDA. Wedyn mae gyda ti'r cwmniau adeiladu mawrion ee Redrow, Wimpey, sydd wedi diswyddo miloedd o weithwyr.....hy adeiladwyr ayyb. Dim gwaith iddynt o achos does neb yn prunnu achos does neb bron yn gallu cael benthyciad i dalu am bocs esgidiau sy'n costio £200, 000! Wedyn, mae pris olew yn torri record newydd bron yn wythnosol heb son am fwyd, nwy, trydan, dwr, treth y cyngor, mwnforion o Chiana (gan fod eu cyflogau hwy yn codi). Dwi'n gwybod am sawl asiantaeth dai sydd wedi gorfod gollwng gweithwyr ac yn gwybod am dau gwmni cyfreithwyr sydd wedi gorfod gollwng cyfreithwyr 'fyd.....rhai oedd yn ymwneud a matterion tai. Mi wnaeth prisiau tai ychwanegu pob blwyddyn am tua 12 mlynedd.....roedd yn rhaid prynnu ty. Dwi'n gwybod am sawl un oedd yn eu ugeiniau cynnar oedd rhaid cael ty.....ers pryd mae pobl yn eu ugeiniau cynnar wedi gallu afforddio prynnu ty? Mae nhw'n galw e'n 'mania'.....ac mae'r rhain yn creu swigod. Ac, yn y diwedd, mae pob swigen yn bostio! Mae rhai wedi dweud taw hon (i bobl Prydain) yw mam pob swigen gan fod pob un a'i gi wedi benthyg o'u sodlau i'w corryn (morgeisi neu/a cardiau crydyd).....gan gynnwys Mr Prudence Brown (y llwyodraeth)

Rwy'n gweld heddi fod chwyddiant am fid Fehefin wedi codi eto felly ni fydd gostyngiad mewn cyfraddau llog yn debygol.

Wyt ti Blewyn yn siwr taw cyfnod o anhyfiant welwn ni?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Blewyn » Sul 20 Gor 2008 8:22 am

Nanog a ddywedodd:Wyt ti Blewyn yn siwr taw cyfnod o anhyfiant welwn ni?


Dwi'm yn meddwl bydd'na ostyngiad fel y gwelsom yn yr 80au. Dwi ddim yn siwr, wrth gwrs, gan nad oes pelen wydr wrth law.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Dylan » Llun 21 Gor 2008 3:43 pm

Prysor a ddywedodd:Rwan bod dim gwahaniaeth rhwng polisiau economaidd a chymdeithasol Llafur Newydd a'r Toriaid, dwi'n pwyso a mesur ffactorau eraill, fel,

- obsesiwn Brown a Llafur efo Prydeindod,
- obsesiwn Brown a Llafur efo cyfyngu'n hawliau,
- ID cards,
- carcharu am 42 diwrnod heb gyhuddiad,
- CCTV,
- casglu gwybodaeth personol (mae'r llywodraeth Llafur bellach yn cadw mwy o eitemau gwybodaeth personol ar ei dinasyddion nag oedd y Stasi yn Nwyrain yr Almaen cyn cwymp wal Berlin),
- biwrocratiaeth bananas (Llafur wedi pasio cannoedd o gyfreithiau dibwys sydd yn gwneud bywyd yn anodd a drytach i bawb,
- gwario biliynnau a biliynnau ar ladd pobl yn Irac

ac o ystyried rhain (hyd yn oed heb anghofio mesurau adweithiol y Toriaid dan Thatcher, a Michael Howard fel Gweinidog Gwladol), mae rhaid imi ddweud y byddai Cameron yn rhif 10 yn gwneud imi gysgu'n dawelach nag ydw tra bydd Brown a'r Staliniaid eraill mewn grym


tra dw i'n cydymdeimlo â dy bwynt di, dylid cofio hefyd mai mewn gwrthwynebiad mae Cameron ar y funud. Dw i'n eitha pendant y byddai hyd yn oed yn waeth na Brown petai mewn grym. Yr unig beth o blaid Cameron hyd y gwela i ydi'i ddatganidau clodwiw o blaid cenedlaetholdeb Seisnig.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 21 Gor 2008 9:47 pm

Dylan a ddywedodd:Yr unig beth o blaid Cameron hyd y gwela i ydi'i ddatganidau clodwiw o blaid cenedlaetholdeb Seisnig.


Yn marn i, dyna rywbeth yn ei ERBYN.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Trybini yn yr economi

Postiogan Dylan » Llun 21 Gor 2008 11:55 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:Yr unig beth o blaid Cameron hyd y gwela i ydi'i ddatganidau clodwiw o blaid cenedlaetholdeb Seisnig.


Yn marn i, dyna rywbeth yn ei ERBYN.


wel mae'n well na Brown yn mwydro am Brydeindod a'r undeb dydi. Yn fy marn i de
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron